Busnesau Cymreig yn cael eu hannog i gymryd rhan yn yr Ŵyl Fusnes Ryngwladol
David Jones: “Dyma gyfle gwych i ddangos y gorau sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig”
Rhaid i fusnesau yng ngogledd Cymru gymryd mantais ar y cyfleoedd enfawr a grëwyd gan Ŵyl Fusnes Ryngwladol gyntaf y DU i ddenu buddsoddiad a hybu masnach gyda marchnadoedd newydd o gwmpas y byd.
Dyna’r neges gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru David Jones wrth i dros 250,000 o ymwelwyr o 100 o wledydd a mwy baratoi i fynychu’r ŵyl yr wythnos yma (9fed Mehefin).
Lerpwl sy’n cynnal yr ŵyl ond bydd pob rhan o’r DU yn cael eu cynrychioli yn y digwyddiad.
Dyma fydd ffenest siop fwyaf sylweddol y DU ar gyfer masnach ers Gŵyl Prydain 1951 a’r crynhoad mwyaf o ddigwyddiadau busnes byd-eang yn 2014.
Mae’r trefnwyr yn gobeithio y bydd yr ŵyl yn denu £100miliwn neu fwy o fuddsoddiad newydd i’r DU ac yn cysylltu busnesau Prydeinig â marchnadoedd rhyngwladol newydd.
Mae’r digwyddiadau a drefnwyd yn cynnwys “Cyfle Gogledd Cymru” ar Fehefin 26 a fydd yn canolbwyntio ar gynhyrchu, gwyddoniaeth a thechnoleg ac yn cynnwys siaradwyr o brif gynrychiolwyr diwydiant yn y rhanbarth.
Bydd hefyd yn arddangos y cyfleoedd niferus i fusnesau fuddsoddi yng ngogledd Cymru diolch i sectorau amrywiol a gweithlu hynod fedrus y rhanbarth.
Bydd digwyddiadau eraill yn ymdrin â dinasoedd, menter a busnes dinesig, addysg bellach ac uwch, creadigol a digidol, ariannol a phroffesiynol, carbon isel ac adnewyddadwy a morol, logisteg ac ynni.
Bydd Masnach a Buddsoddi y DU hefyd yn cynnal nifer o sesiynau yn canolbwyntio ar farchnadoedd newydd gan gynnwys Tsieina, De Ddwyrain Asia, America Ladin ac India.
Dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Rydym mewn ras fyd-eang ac mae’n hanfodol fod busnesau Cymreig yn gosod eu golygon ar farchnadoedd newydd dramor i hybu masnach, creu swyddi a denu buddsoddiad newydd.
Mae’r Ŵyl Fusnes Ryngwladol yn gyfle gwych i fusnesau wneud hyn a sefydlu cysylltiadau â sefydliadau o gwmpas y byd ac arddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig.
Byddwn hefyd yn annog busnesau yng Nghymru i gysylltu â Masnach a Buddsoddi y DU a all gynnig cyngor a chefnogaeth ddwys ar sut i allforio’u cynnyrch a’u harbenigedd i farchnadoedd newydd byd-eang.
Cynhelir yr ŵyl o 9fed Mehefin hyd 22ain Gorffennaf 2014.