Datganiad i'r wasg

Mae grwpiau yng Nghymru wedi'u cydnabod gan Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol 2024

Mae pum sefydliad yng Nghymru i dderbyn Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol i gydnabod eu gwasanaeth cymunedol rhagorol.

  • Ymhlith y 281 o elusennau, grwpiau ieuenctid ac amgueddfeydd y mae pum grŵp gwirfoddoli lleol yng Nghymru wedi’u cydnabod gan Ei Fawrhydi, y Brenin, am eu gwaith gwirfoddoli rhagorol
  • Ymhlith y rheini sydd wedi’u gwobrwyo yng Nghymru y mae Popham Kidney Support, Cyfeillion Castell Ystumllwynarth / Friends of Oystermouth Castle a My Green Valley

Mae pum sefydliad yng Nghymru am gael Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol er mwyn cydnabod eu gwaith cymunedol rhagorol.

Roedd y wobr hon yn arfer cael ei galw’n ‘Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol’, a chafodd ei sefydlu yn 2002 i nodi Jiwbilî Aur Ei Mawrhydi, y Ddiweddar Frenhines ac mae wedi parhau yn dilyn esgyniad Ei Fawrhydi, y Brenin. Mae’n gyfwerth ag MBE ac yn cynrychioli’r anrhydedd mwyaf y gall sefydliadau gwirfoddol yn y DU ei gael.

Fe’i dyfernir bob blwyddyn i anrhydeddu grwpiau sydd wedi’u harwain gan wirfoddolwyr ac sy’n gweithio ar draws ystod eang o feysydd, gan gynnwys iechyd, ieuenctid, yr amgylchedd, y gymuned, celfyddydau a threftadaeth. Mae Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yn arddangos ystod ac arwyddocâd parhaol y gwasanaethau gwirfoddol a gynhelir bob dydd ar draws y genedl.

Eleni, mae derbynwyr y wobr yn cynnwys 232 o sefydliadau o Loegr, 21 o’r Alban, 22 o Ogledd Iwerddon, 5 o Gymru, ac 1 o Ynys Manaw, gydag 83% o’r rheini sy’n cael y wobr y tu allan i Lundain a De-ddwyrain Lloegr, mewn dinasoedd a phentrefi o bob cwr o’r DU. Daw hwn i gyfanswm o 281, ac mae eleni’n nodi’r nifer fwyaf o dderbynwyr yn hanes y wobr o 22 o flynyddoedd.

Meddai Stephanie Peacock, Gweinidog dros Gymdeithas Sifil:

Mae gwirfoddolwyr yn gwasanaethu wrth wreiddiau ein cymunedau ar hyd a lled y genedl, gan aberthu eu hamser i greu newid positif, yn ogystal â gwella bywydau’r sawl o’u cwmpas yn y broses.

Mae’n wych i weld y grwpiau gwirfoddol ardderchog hynny yng Nghymru yn cael y wobr urddasol hon am y gwaith ysbrydoledig y maent yn ei gyflawni bob un dydd i roi cymorth i’r bobl a’r achosion yn eu cymunedau.

Llongyfarchiadau i bob un sydd wedi ennill y wobr eleni.

Meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Sefydliadau gwirfoddol yw asgwrn cefn cymunedau lleol. Mae’n hyfryd i weld gwaith caled cymaint o bobl ar draws Cymru yn cael ei gydnabod gyda Gwobr y Brenin.

Mae gennym draddodiad cryf yng Nghymru o wasanaeth cymunedol a hoffwn ddiolch i bob un sy’n gwirfoddoli ac yn rhoi i’w cymunedau. Mae eu hymdrechion yn golygu bod bywydau cymaint o bobl yn gyfoethocach o’u herwydd.

Meddai Syr Martyn Lewis, Cadeirydd KAVS:

Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yw’r wobr bennaf i grwpiau o wirfoddolwyr sy’n gweithio’n galed lawr gwlad i drawsnewid agweddau hanfodol bwysig o fywyd yn eu cymuned leol.

Ers sefydlu’r wobr, mae pobl o bedair gwlad y DU wedi’u dangos ar eu gorau, gan ddod at ei gilydd o bob rhan o gymdeithas i gyffwrdd ym mron pob man sydd ei angen. Hefyd maen nhw’n adlewyrchu’r rôl allweddol sydd ar gynnydd y mae gwirfoddolwyr yn ei chwarae ar adeg o newid cyflym.

Boed wedi’u sbarduno gan frwdfrydedd cymdogol i helpu eraill neu i gyrraedd y nod hen gydnabyddedig sef boddhad personol, mae gwirfoddoli’n ennyn meddylfryd o haelioni a charedigrwydd. Mae gwobrau 2024 yn dyst i’r ffaith bod y meddylfryd hwn yn parhau mor gryf ag erioed.

Mae gwobrau eleni’n dathlu’r ystod eang o grwpiau gwasanaeth cymunedol; o elusennau sy’n darparu addysg ddiogelwch i blant, canolfannau celfyddydau cymunedol lleol, a gorsafoedd radio cymunedol wedi’u harwain gan wirfoddolwyr i grwpiau sy’n hyrwyddo cynhwysiant mewn chwaraeon i fenywod, merched a phobl ag anableddau, a mentrau sy’n darparu gofal iechyd arloesol.

Mae derbynwyr o Gymru’n cynnwys:

  • Popham Kidney Support – elusen sy’n gweithio ar draws Cymru i roi cymorth i’r sawl y mae clefyd yr aren arnynt, ynghyd â’u teuluoedd a’u gofalwyr, i allu byw bywydau gwell drwy wella lles ariannol, corfforol ac emosiynol y buddiolwyr, yn ogystal â’u dealltwriaeth o’r afiechyd a’u haddysgu ymhellach. Cafodd yr elusen ei wobrwyo am ei ddull unigryw o roi cymorth i bobl o bob oed y mae clefyd yr aren arnynt.
  • Cyfeillion Castell Ystumllwynarth / Friends Of Oystermouth Castle – grŵp elusennol yn Abertawe sy’n darparu amgylchedd cymunedol hanesyddol bywiog i addysg ar hanes a threftadaeth Cymru. Ers 1989, mae gwirfoddolwyr wedi ymroi i ddiogelu Castell Ystumllwynarth o’r 12fed ganrif, gan ddiogelu treftadaeth Cymru a chroeso 1,500 o ymwelwyr bob blwyddyn i hybu’r economi lleol.
  • My Green Valley – sefydliad cymunedol yng Nghwm Tawe sy’n ymgysylltu ag unigolion, grwpiau ac ysgolion lleol i helpu cadw Cwm Tawe’n lân ac yn wyrdd i bawb. Cafodd y grŵp ei wobrwyo am ysbrydoli teimlad o gyfrifoldeb, balchder a hunaniaeth leol yn ei ardal, tra’r oedd hefyd yn mynd i’r afael â phryderon o ran esthetig a’r amgylchedd yng Nghwm Tawe yn dilyn cau ei byllau glo a’i reilffordd.
  • National Coastwatch Institution (Nells Point) – grŵp yn Y Barri sy’n darparu gwasanaeth gwarchod glan môr i sicrhau diogelwch y sawl sy’n mynd i’r dŵr neu’n defnyddio’r arfordir yn Nells Point, sef yr ail amrediad llanw uchaf yn y byd. Mae’r grŵp hefyd yn darparu addysg am ddiogelwch yn y dŵr mewn ardaloedd difreintiedig eu cymuned.
  • Neath Port Talbot Stroke Group – sefydliad yng Nghastell Nedd a Phort Talbot sy’n ailadeiladu bywydau a lles meddyliol y sawl sydd wedi goroesi ar ôl cael strôc, yn ogystal â’u hanwyliaid a’u gofalwyr. Cafodd y grŵp ei wobrwyo am ei waith yn rhoi cymorth i bobl wrth iddynt wella ar ôl cael strôc, ac am ddod â llawenydd a chyfeillgarwch i’r rheini sy’n teimlo’n unig er mwyn dangos ffordd ymlaen mewn bywyd ar ôl cael strôc.

Caiff Gwobrau’r Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol eu hasesu bob blwyddyn ar lefel leol gan is-gapteiniaethau lleol cyn i’r grwpiau enwebedig gael eu hystyried gan bwyllgor o Aseswyr Cenedlaethol. Mae’r pwyslais wedi’i osod ar ddarganfod grwpiau sydd: yn cael effaith go iawn ar eu cymuned leol, wedi’u llywio gan wirfoddolwyr yn hytrach na staff sydd wedi’u talu, a bod ganddynt y safonau uchaf ym mhopeth a wnânt.

Mae enwebiadau bellach ar agor ar gyfer gwobrau 2025 ar wefan Gwobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol, a bydd ceisiadau’n cau ar 1 Rhagfyr 2024.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion:

  • Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am Wobr y Brenin am Wasanaeth Gwirfoddol yma.
  • Gellir dod o hyd i fap rhyngweithiol o holl enillwyr 2024 yma, ac mae rhestr lawn ar gael ar wefan KAVS a The Gazette.
  • Gall unrhyw grŵp o dri pherson neu fwy sydd wedi bod yn ymwneud â gwaith gwirfoddol am fwy na thair blynedd gael ei enwebu am y wobr. Mae meini prawf cymhwystra a manylion llawn am sut i gyflwyno enwebiad ar gyfer gwobrau 2025 ar gael ar-lein.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Tachwedd 2024