Cwmni arloesol o Gymru, Hydro, yn ffurfio partneriaeth â Chelsea Group i sicrhau dŵr glân ar draws y byd
Stephen Crabb: "Rwyf wrth fy modd fod un o brif gwmnïau Cymru’n gweithredu drwy chwarae rhan allweddol o ran darparu dŵr glân, iach i'r rhai sydd fwyaf ei angen”
Hydro, y cwmni technoleg dŵr o Sir Gaerfyrddin, yn cyhoeddi menter newydd ar y cyd gwerth £5 miliwn gyda Chelsea Group.
Bydd y cytundeb cyffrous hwn yn arwain at osod system puro dŵr electro arloesol Hydro ar draws y byd yn llety byw a gweithio diogel Chelsea Group. Bydd yn sicrhau ffynhonnell ddibynadwy o ddŵr glân yn rhai o diriogaethau mwyaf gelyniaethus y byd.
Daw’r fenter hon ar y cyd yn dilyn gosod y system gyntaf yn llwyddiannus yn Somalia, a seliwyd y fargen ym mhresenoldeb Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn Stadiwm eiconig y Principality yng Nghaerdydd, yn ystod twrnamaint y Chwe Gwlad.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae hon yn enghraifft wych o ddyfeisiau Cymru’n cael eu defnyddio i helpu’r rhai mwyaf anghenus ar draws y byd.
Yn yr 21ain ganrif, ni ddylid ystyried mynediad at ddŵr glân fel moethusrwydd. Rwyf wrth fy modd fod un o brif gwmnïau Cymru’n gweithredu drwy chwarae rhan allweddol o ran darparu dŵr glân, iach i’r rhai sydd fwyaf ei angen.
Dywedodd Wayne Preece, Prif Swyddog Gweithredol Hydro Industries:
Mae ein technoleg, ac yn bwysicaf oll, ein pobl yma yng Nghymru, eisoes wedi profi eu gallu drwy ffurfio partneriaeth â mudiad mor llwyddiannus ac awdurdodol â Chelsea Group.
Bydd y cydweithio yma yn galluogi Hydro Industries i gyflwyno ein cynnyrch a’n gwasanaethau ymhellach i rai o’r amgylcheddau mwyaf heriol a gelyniaethus yn y byd.
Dywedodd Stuart Page, Rheolwr Gyfarwyddwr Chelsea Group:
Rydyn ni’n edrych ymlaen at y bartneriaeth fyd-eang hon sy’n tyfu drwy’r amser, rhwng y ddau grŵp, er mwyn darparu dŵr glân i rai o’r ardaloedd anoddaf yn y byd.
Dyma ein ffordd ni o wneud rhywbeth i helpu i ddatrys yr argyfwng byd-eang o ddarparu dŵr glân i gynnal bywyd yn unrhyw le yn y byd!