Miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth y DU i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg
Cystadleuaeth gwerth £60 miliwn i ddod o hyd i’r Peppa Pinc, Sam Tân a’r Balamory nesaf
Bydd miloedd o bunnoedd o gyllid ychwanegol yn cael ei neilltuo i raglenni Cymraeg fel rhan o hwb Llywodraeth y DU i’r sector darlledu annibynnol, yn ôl cyhoeddiad heddiw (19 Hydref) gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Jeremy Wright.
Bydd cyfran o’r gronfa sydd â’r nod o atal y dirywiad yn y cynnwys sy’n cael ei gynhyrchu ar gyfer plant yn y DU yn cael ei defnyddio i gomisiynu rhaglenni a chynnwys newydd yn y Gymraeg, gan roi hwb i gynyrchiadau Cymraeg dynamig ac unigryw gan y sector annibynnol.
Bydd buddsoddiad Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio i wyrdroi’r duedd gynyddol i ddarlledu ailddarllediadau ac i helpu i greu rhaglenni Cymraeg a all efelychu llwyddiant ffefrynnau mawr fel Sam Tân. Bydd hefyd yn cynnwys:
- Hwb gwerth miliynau o bunnoedd i radio masnachol; a
- Chronfa arbennig i helpu cwmnïau cynhyrchu newydd i ddatblygu a gwerthu eu syniadau gwreiddiol er mwyn eu gwneud yn realiti
Mae’r gronfa’n cydnabod pwysigrwydd cynyrchiadau Cymraeg i fywyd diwylliannol a chymdeithasol Cymru, a dyna pam mae’r Adran Digidol, y Cyfryngau, Diwylliant a Chwaraeon wedi ceisio neilltuo 5% o’r gyllideb sydd ar gael i’r Gymraeg ac ieithoedd cynhenid eraill y DU.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns:
Bydd y cyhoeddiad am y cyllid hwn yn hwb sylweddol i gynhyrchwyr rhaglenni Cymraeg, gan helpu i sicrhau cenhedlaeth newydd o wylwyr rhaglenni Cymraeg.
Gyda buddsoddiad o’r fath gan Lywodraeth y DU, bydd y sector darlledu Cymraeg ffyniannus yn gallu adeiladu ar ei lwyddiant a chreu rhaglenni unigryw, apelgar a fydd yn addysgu a diddanu’r nifer cynyddol o siaradwyr Cymraeg yn y wlad.
Mae lefelau cynhyrchu mewn cynnwys i blant wedi gostwng yn ystod y degawd diwethaf, gyda darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn gwario tua 40% yn llai nag oeddent yn 2006. O ganlyniad i hyn mae cyfran sylweddol o raglenni plant ar sianelau plant bellach yn ailddarllediadau.
Meddai’r Gweinidog dros Faterion Digidol Margot James:
Mae pobl ifanc yn y DU yn haeddu cael cynnwys o safon sy’n eu diddanu, eu dysgu ac sy’n adlewyrchu eu profiadau o dyfu ym mhob rhan o’r wlad heddiw.
Mae sectorau darlledu a chynhyrchu’r DU yn enwog trwy’r byd, a gallwn i gyd ymfalchïo yn eu llwyddiant. Mae hwn yn brosiect arloesol sy’n rhan allweddol o’n cefnogaeth i’r sector cyfryngau byrlymus yn y DU a bydd yn ei helpu i barhau i fynd o nerth i nerth.
Yn 2016, roedd 98% o’r cynnwys i blant ar sianelau plant masnachol a 91% ar sianelau darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ailddarllediadau. Er mwyn gwyrdroi’r dirywiad hwn mewn cynnwys i bobl iau yn y DU, bydd £57 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc, a fydd yn cael ei gweinyddu gan y BFI. Bydd yn rhoi pwyslais ar ariannu cynnwys creadigol ac unigryw newydd sy’n cynrychioli plant a phobl ifanc yn eu harddegau yn y DU heddiw. Bydd pump y cant o arian y Gronfa Cynulleidfaoedd Ifanc yn helpu cwmnïau cynhyrchu i ddatblygu eu syniadau.
Meddai Ben Roberts, Cyfarwyddwr Cronfa Ffilm y Loteri, BFI:
Rydym wrth ein bodd o gael gweithio â’r Llywodraeth i redeg y Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc newydd i helpu cwmnïau yn y DU i greu rhaglenni cyffrous ac unigryw ar gyfer pobl ifanc. Mae hyn yn mynd law yn llaw â chenhadaeth y BFI i gysylltu cynulleidfaoedd â’r ystod ehangaf posibl o gynnwys. Rydym yn edrych ymlaen at wneud y gorau o’r cyfle newydd hwn i gefnogi talent i greu rhaglenni gwreiddiol a beiddgar ac i gynyddu’r dewis sydd ar gael i bobl ifanc.
Cyhoeddiad arall heddiw fel rhan o’r Gronfa Contestable yw Cronfa Cynnwys Sain gwerth £3m a fydd yn annog mwy o arloesi ac arbrofi yn y sector radio masnachol.
Ar hyn o bryd, mae enghreifftiau o gynnwys gwasanaeth cyhoeddus (heblaw am newyddion cenedlaethol a lleol) yn brin ar radio masnachol oherwydd pwysau masnachol. Trwy gael gwared ar yr angen i orsafoedd a chynhyrchwyr masnachol i gael cymaint o nawdd ac incwm hysbysebu, bydd y gronfa’n cynnig cymorth sylweddol i helpu cynhyrchwyr radio i roi cynnig ar rywbeth newydd, yn enwedig gyda lleisiau newydd nad oes ganddynt berthynas sefydledig â darlledwyr ac felly mynediad at arian.
Meddai Siobhan Kenny, Prif Weithredwr Radiocentre:
Mae gorsafoedd radio masnachol wrthi gydol yr amser yn chwilio am ffyrdd newydd o wasanaethu eu gwrandawyr, ond weithiau mae’r realiti ariannol yn ei gwneud yn anodd i wneud popeth yr hoffent ei wneud. Mae gan y Gronfa hon y potensial i roi hwb sylweddol i greu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus i gynulleidfaoedd, yn ogystal â bod yn gyfle pwysig i ddarlledwyr radio masnachol i ehangu’r arlwy a gynigir ganddynt.
Bydd canllawiau pellach, gan gynnwys sut i wneud cais i’r ddwy gronfa, yn cael eu cyhoeddi gan weinyddwyr y cronfeydd yn y flwyddyn newydd. Bydd y peilot wedyn yn agored i dderbyn ceisiadau ym mis Ebrill 2019.