Derbynwyr o Gymru yn cael eu cydnabod yn Anrhydeddau Pen-blwydd cyntaf y Brenin
Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch y bobl o Gymru sy’n cael Anrhydeddau eleni.
Mae David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi llongyfarch y bobl sy’n cael Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin eleni.
Mae’r rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd yn gwobrwyo llwyddiannau pobl eithriadol o bob cefndir ledled y Deyrnas Unedig, ac mae pob un ohonynt wedi cyfrannu at fywyd cyhoeddus a’u cymunedau.
Dyma’r rhestr o bobl sy’n cael eu gwobrwyo yng Nghymru yn 2023: * Christopher Jones (CBE), Dirprwy Brif Swyddog Meddygol yng Nghymru, am ei wasanaeth i Ofal Iechyd; * Pippa Britton (OBE), pencampwraig dwbl yn y Gemau Paralympaidd a Phencampwraig dwbl y Byd mewn saethyddiaeth, yn ogystal ag * Is-gadeirydd Chwaraeon Cymru, am ei gwasanaeth i chwaraeon; * call Jane Hutt MS (CBE), y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru, am ei gwasanaeth Gwleidyddol a Chyhoeddus; * Anju Kumar (OBE) am ei gwaith fel Ymgynghorydd Obstetregydd a Gynaecolegydd, ac am ei chyfraniad at Iechyd a Llesiant Menywod yng Nghymru; a * Kingsley Ward (MBE), a sefydlodd y stiwdio recordio byd-enwog, Rockfield Studios yn Nhrefynwy, am ei gwasanaeth i Gerddoriaeth.
Mae llawer o bobl eraill o bob cwr o Gymru wedi cael eu hanrhydeddu, gan gynnwys Denzil Connick o Goed-duon (Medal yr Ymerodraeth Brydeinig), a gyd-sefydlodd Gymdeithas Medalau De Iwerydd, am ei wasanaeth gwirfoddol i Gyn-filwyr Rhyfel y Falklands. Bu’n gwasanaethu yn y Gwrthdaro rhwng Gwledydd y Falkland yn 1982 a’r Gatrawd Parasiwt, pan gafodd ei anafu’n ddifrifol gan ffrwydryn ar Fynydd Longdon.
Mae Christine Horton (Medal yr Ymerodraeth Brydeinig) o Lansanffraid ym Mhowys wedi gweithio ers 40 mlynedd fel Pennaeth Cadw Tŷ yn Neuadd Bryngwyn, ac wedi cyfrannu at adfer y rhan bwysig hon o dreftadaeth Cymru.
Mae John Griffiths (Medal yr Ymerodraeth Brydeinig) o Glwb Harriers Abertawe yn hyfforddwr athletau uchel ei barch yn ardal Abertawe a De Cymru, ac mae wedi rhoi 60 mlynedd a mwy o’i fywyd i wirfoddoli ym maes chwaraeon fel hyfforddwr, swyddog a threfnydd cystadlaethau. Mae John wedi hyfforddi Non Stanford, Hayley Tullet a Dai Greene, ac mae pob un ohonynt wedi cael llwyddiant ar y llwyfan byd-eang.
Mae Paul Jeffrey Leach o Fae Colwyn wedi datblygu ac arwain y gwasanaeth deintyddol ar gyfer plant sy’n agored i niwed yng Ngogledd Orllewin Cymru ers bron i 20 mlynedd ac mae wedi cael ei ddewis i gael MBE am ei wasanaeth.
Mae Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin yn cydnabod llwyddiannau’r bobl yma a llawer o bobl eraill o bob cwr o Gymru. Mae Ysgrifennydd Cymru wedi diolch iddynt i gyd am eu gwaith caled a’u hymroddiad i’w maes.
Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’n ysbrydoledig iawn clywed am waith anhygoel a gwerthfawr cynifer o bobl o bob cwr o Gymru sydd wedi cael eu cydnabod yn haeddiannol yn Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
Mae’r bobl sy’n cael eu hanrhydeddu o Gymru mewn amrywiaeth eang o feysydd wedi cael eu cydnabod, boed hynny am eu hymrwymiad i’w cymuned leol, eu cyfraniad at chwaraeon, addysg, diwylliant neu iechyd – ac rwy’n falch iawn bod eu hymdrechion wedi cael y sylw priodol.
Hoffwn longyfarch pawb sy’n cael eu hanrhydeddu a diolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad.