Ysgrifennydd Cymru yn penodi Guto Bebb fel Ymgynghorydd y Gymraeg
Heddiw mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi penodi Guto Bebb AS i roi cyngor i Swyddfa Cymru ar faterion sy’n ymwneud a’r iaith…
Heddiw mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi penodi Guto Bebb AS i roi cyngor i Swyddfa Cymru ar faterion sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg.
Swyddfa Cymru yw’r adran arweiniol ar faterion sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg yn Whitehall. Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cael trafodaethau rheolaidd a Chomisiynydd y Gymraeg a chydweithwyr yn y Llywodraeth ynghylch y ffordd orau y gall Adrannau’r Llywodraeth ddarparu gwasanaethau yn y Gymraeg.
Dywedodd Mr Jones:
“Rwy’n falch bod Guto Bebb wedi cytuno i roi cyngor i mi ar faterion sy’n ymwneud a’r iaith Gymraeg. Fel hyrwyddwr yr iaith, mae mewn sefyllfa wych i roi cyngor ynghylch y materion y mae siaradwyr Cymraeg yn eu hwynebu a rhoi cyngor ynghylch beth all y Llywodraeth ei wneud i wella ei gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Fel rhywun sy’n siarad Cymraeg, rwy’n deall yn iawn pa mor bwysig yw’r iaith i’n hunaniaeth a’n diwylliant. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda Guto i wneud popeth allwn ni yn y Llywodraeth i gefnogi’r defnydd o’r iaith.”
Dywedodd Mr Bebb:
“Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol yn y rol newydd hon er mwyn cynghori ynghylch y ddarpariaeth Gymraeg yn yr adrannau heb eu datganoli yn y Llywodraeth. Gyda chyhoeddi safonau’r Iaith Gymraeg, mae’n hanfodol bod Swyddfa Cymru’n chwarae rhan lawn yn natblygiad lefelau gwasanaeth cymesur yn Whitehall ac rwyf wrth fy modd fy mod i wedi cael cynnig y cyfle hwn i weithio gyda’r Ysgrifennydd Gwladol ar y materion pwysig hyn.”