Ysgrifennydd Cymru ‘wedi ymrwymo’ i’r achos dros drydaneiddio yng Ngogledd Cymru
Heddiw [23 Tachwedd 2012], bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cadarnhau ei ymrwymiad i drydaneiddio rheilffyrdd Gogledd Cymru …
Heddiw [23 Tachwedd 2012], bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cadarnhau ei ymrwymiad i drydaneiddio rheilffyrdd Gogledd Cymru mewn cyfarfod a rhanddeiliaid allweddol yn Llandudno.
Bydd Mr Jones yn cyfarfod ag arweinwyr a phrif weithredwyr awdurdodau lleol a chynrychiolwyr o’r gymuned fusnes i drafod ac ymrwymo i ddatblygu achos busnes cadarn dros drydaneiddio yng Ngogledd Cymru.
Yn ystod y cyfarfod, bydd y grŵp yn cytuno ar y gwaith y mae angen ei wneud i sefydlu achos busnes ar gyfer trydaneiddio. Bydd hyn yn cynnwys asesu costau a manteision trydaneiddio’r rheilffordd. Bydd corff llywodraethu i reoli cynnwys yr achos busnes a’r modd y caiff ei gyflwyno hefyd yn faterion a fydd yn cael eu trafod.
Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai rheilffyrdd y Cymoedd o amgylch Caerdydd yn cael eu trydaneiddio, gan gynnwys y rheilffyrdd i Dreherbert, Aberdar, Merthyr Tudful, Rhymni a Glynebwy, a’r rheilffyrdd o Ben-y-bont ar Ogwr i Faesteg ac o Gaerdydd i Fro Morgannwg.
Cyhoeddwyd hefyd y byddai hefyd yn trydaneiddio’r brif reilffordd o Gaerdydd i Abertawe. O ganlyniad i hyn a’r buddsoddiad yn y cyswllt gorllewinol i Heathrow, bydd y budd uniongyrchol ac uniongyrchol i Gymru o ganlyniad i’r rhaglen i foderneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd bron yn £2 biliwn.
Dywedodd Mr Jones:
“Mae’r Llywodraeth hon yn dal wedi ymrwymo i fynd ati’n flaengar i drydaneiddio’r rhwydwaith rheilffyrdd, ac rwyf wedi datgan yn glir bod Gogledd Cymru ar frig fy rhestr blaenoriaethau ar gyfer y cyfnod buddsoddi nesaf.
“Does dim dwywaith na fydd trydaneiddio yn sicrhau manteision sylweddol i Ogledd Cymru. Rydw i eisoes wedi cael cyfarfodydd a Patrick McLoughlin, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth, a Gweinidogion Llywodraeth Cymru, yn ogystal ag arweinwyr National Rail ac Awdurdodau Lleol a busnesau, ac mae’r trafodaethau wedi bod yn gadarnhaol. Rwy’n gobeithio y bydd cyfarfod heddiw yn gychwyn ar broses a fydd yn arwain at ganlyniad llwyddiannus.
“Ni fydd modd sicrhau canlyniadau dros nos - mae’r cyfnod buddsoddi nesaf ar gyfer y rheilffyrdd rai blynyddoedd i ffwrdd - ond mae’n rhaid i ni ddechrau arni nawr er mwyn sicrhau bod yr achos busnes yn bodloni’r un safonau llym ag achos De Cymru, gan sicrhau bod Gogledd Cymru yn gallu cyflwyno’r manteision economaidd a fyddai’n sicr yn deillio o fuddsoddiad o’r fath.
“Mae hon yn uchelgais yr wyf yn ei rhannu ag arweinwyr awdurdodau lleol a gweinidogion Llywodraeth Cymru, gan obeithio bod hwn yn faes lle gallwn gydweithio i gyflawni er budd Cymru.”