Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi ymgyrchoedd Chwe Gwlad Cymru
Stephen Crabb: "Rydyn ni’n edrych ymlaen at wylio timau Cymru’n dod yn eu blaen ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda’u hymgyrchoedd"
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb, yn annog timau rygbi dynion a merched Cymru i ddechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad RBS eleni yn hyderus pan fyddant yn wynebu Iwerddon y penwythnos hwn. Mae’r twrnamaint yn dilyn yn dynn ar sodlau Cwpan Rygbi’r Byd 2015, ymgyrch lle cyrhaeddodd Cymru rownd yr wyth olaf, gyda Stadiwm Principality Caerdydd yn gartref i wyth gêm, gan ddangos y ddinas i gynulleidfa fyd-eang.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd ymgyrch y Chwe Gwlad yn werth ei wylio, gyda miliynau o bobl o bob cwr o’r byd yn ei fwynhau dros y chwe wythnos nesaf.
Allan ar y cae, bydd pob tîm am y gorau, yn cystadlu’n frwd. Oddi ar y cae, bydd y twrnamaint yn rhoi hwb pwysig arall i economi Cymru ac i fusnesau lleol.
Wrth i filoedd o bobl baratoi i deithio i Gaerdydd i fwynhau awyrgylch unigryw diwrnod y gêm, bydd gwylwyr o bob cwr o’r byd yn gweld statws Cymru’n cynyddu unwaith eto fel lleoliad i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at wylio timau Cymru’n dod yn eu blaen ac yn dymuno pob llwyddiant iddyn nhw gyda’u hymgyrchoedd.
Bydd tîm Cymru’n wynebu’r Alban a Ffrainc yng Nghaerdydd ar ôl y gêm yn erbyn Iwerddon, ac yna’n chwarae yn erbyn Lloegr yn Twickenham cyn y gêm olaf yn erbyn yr Eidal gartref.