Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu llwyddiannau Cymru yn rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2023
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies yn llongyfarch derbynwyr Cymraeg Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd.
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies, wedi llongyfarch y rhai sy’n derbyn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd eleni.
Mae rhestr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn cydnabod llwyddiannau pobl anhygoel o bob cefndir ar draws y Deyrnas Unedig.
Ymhlith y rhai sy’n derbyn o Gymru yn rhestr 2023 mae capten Cymru, Sophie Ingle (OBE) am ei gwasanaethau i bêl-droed, sylfaenydd y manwerthwr Net World Sports Alex Loven (MBE) am wasanaethau i’r economi ac i’r gymuned yn Wrecsam a’r Athro Colin Riordan (CBE), Llywydd ac Is-ganghellor Prifysgol Caerdydd am wasanaethau i addysg uwch.
O fyd gwleidyddiaeth, mae Urdd Marchog ar gyfer AS Rhondda, Chris Bryant, ac AS New Forest East, Julian Lewis, a anwyd yn Abertawe, er gwasanaeth gwleidyddol a chyhoeddus.
Cafodd nifer o bobl eraill o bob cwr o Gymru eu hanrhydeddu gan gynnwys Bill Carne o Hwlffordd (BEM am wasanaethau i chwaraeon ac elusen yn Sir Benfro), June Lovell o’r Wyddgrug (BEM am wasanaethau i’r GIG), Nancy Thomas o Drefynwy (BEM am wasanaethau i’r GIG) a Major Derek Monroe o Aberhonddu sy’n derbyn MBE am wasanaethau i Gadetiaid y Fyddin.
Diolchodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i bawb yng Nghymru sydd wedi eu hanrhydeddu am eu gwaith caled a’u cyflawniadau ysbrydoledig.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies:
Rwy’n cael fy ysbrydoli gan waith amhrisiadwy’r nifer o bobl o bob cwr o Gymru sy’n haeddiannol wedi cael eu cydnabod ar Restr Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd.
Mae’n wych gweld derbynwyr o Gymru o amrywiaeth eang o gefndiroedd yn cael eu cydnabod. Rwyf wrth fy modd bod eu hymrwymiad i’w maes - boed yn waith cymunedol, chwaraeon, addysg neu iechyd - wedi cael ei ganmol.
Hoffwn longyfarch pob derbynnydd sy’n cael eu hanrhydeddu a diolch iddynt am eu cyfraniad.