Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn dathlu 40 mlynedd o S4C
Mae'r darlledwr wedi bod yn biler i Gymru a'r Gymraeg ers y pedwar degawd diwethaf
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies wedi llongyfarch y darlledwr S4C ar ei ben-blwydd yn 40 oed.
Ers 1982, mae S4C wedi diddanu a gwasanaethu gwylwyr ledled Cymru a thu hwnt. Dathlodd y sianel ei phen-blwydd yn 40 oed ar 1 Tachwedd.
Mae llywodraeth y DU yn parhau i gefnogi S4C. Yn gynharach eleni fe sicrhaodd y sianel fargen gyllidol well oedd yn cynnwys £7.5m mewn arian newydd bob blwyddyn i gefnogi ei gwasanaethau digidol.
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru David TC Davies:
Llongyfarchiadau i S4C ar 40 mlynedd o ddarlledu. Mae’r sianel wedi addysgu a diddanu cenedlaethau o gynulleidfaoedd ac yn chwarae rôl hanfodol yn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Fel llywodraeth rydym yn parhau i gefnogi S4C fel y gall greu a darlledu cynnwys o’r safon uchaf i gynulleidfaoedd yng Nghymru a led led y byd.