Ysgrifennydd Cymru yn dathlu Wythnos Twristiaeth Cymru
Gyda’r dathliadau ar gyfer Wythnos Twristiaeth Cymru (23 Chwe - 3 Mawrth) yn mynd rhagddynt yn hwylus, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw…
Gyda’r dathliadau ar gyfer Wythnos Twristiaeth Cymru (23 Chwe - 3 Mawrth) yn mynd rhagddynt yn hwylus, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru heddiw (1 Mawrth) yn ymweld a dau atyniad i dwristiaid yng Ngogledd Cymru i dynnu sylw at y rol bwysig sydd gan dwristiaeth yng nghyflwr economi Cymru.
Mae Wythnos Twristiaeth Cymru (23 Chwe - 3 Mawrth) yn ddathliad unigryw i arddangos y rhanbarth fel cyrchfan ysbrydoledig i dwristiaid, ac amlygu pwysigrwydd economaidd posib; ar gyfer y dyfodol.
I nodi’r dathliadau, bydd Mr Jones yn ymweld a dau atyniad ym Mae Colwyn sy’n parhau i ddenu ymwelwyr o’r DU a thu hwnt, flwyddyn ar ol blwyddyn.
Yn gyntaf, bydd yn ymweld a’r Sŵ Mynydd Cymru i nodi ei ddathliadau hanner canmlwyddiant. Ar hyn o bryd mae’r Sŵ yn gweithio gyda Phrosiect Gwarchod Lemyriaid yn rhanbarth Fforest Mangabe, Madagascar. Ymysg cynlluniau’r sŵ ar gyfer y dyfodol y mae creu ardal i’r Panda Coch.
Drwy wahoddiad gan Dwristiaeth Gogledd Cymru, bydd Mr Jones yn ddiweddarach yn ymweld a Gerddi Bodnant sydd wedi agor ei giatiau i’r cyhoedd am y tro cyntaf yn y gaeaf ym mis Rhagfyr y llynedd.
Mae dros 160,000 o bobl yn ymweld a’r gerddi bob blwyddyn a chafodd gardd aeaf ei chreu fel atyniad tymhorol newydd. Bydd Mr Jones yn mynd o gwmpas y casgliadau botaneg yn eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn cwrdd a rhanddeiliaid twristiaeth allweddol.
Yn 2011, denodd Gogledd Cymru y gyfran fwyaf o dwristiaid Prydain Fawr a oedd yn aros dros nos ar wyliau yng Nghymru yn 2011. Llwyddodd Cymru i ddenu cyfanswm o 879,000 o ymwelwyr rhyngwladol i’w thraethau, gan wario £328 miliwn.
Dywedodd Mr Jones:
“Gyda’r haf eithriadol o chwaraeon a gawsom, ynghyd a dathliadau’r Jiwbili Ddiemwnt, roedd y ffocws wedi’i hoelio’n gadarn ar Brydain Fawr yn 2012, ac fe wnaethom ni yng Nghymru achub ar y cyfle i dynnu sylw at y llu o atyniadau sydd gennym ni ar gael.
“Nod yr ymgyrch Prydain FAWR a lansiwyd gan y Prif Weinidog y llynedd oedd manteisio i’r eithaf ar y sylw hwnnw. O gefn gwlad i ddiwylliant, o dreftadaeth i arloesi, nod yr ymgyrch yw helpu’r byd i ddarganfod pam bod Prydain yn lle mor wych i ymweld ag ef, i astudio, gweithio, buddsoddi a chynnal busnes ynddo.
“Mae Wythnos Twristiaeth Cymru yn darparu i ni gyfle o’r newydd i atgyfnerthu’r negeseuon hynny, a chydnabod y rol holl bwysig sydd gan dwristiaeth i’w chwarae yn economi Cymru. Mae’n bwysig ein bod ni oll yn cefnogi’r dathliadau er mwyn sicrhau bod Cymru yn parhau i fod yn dynfa i dwristiaid a buddsoddwyr busnes, gartref ac o dramor fel ei gilydd.”
Dywedodd Esther Roberts, Rheolwr Gyfarwyddwr Twristiaeth Gogledd Cymru:
“I gefnogi Wythnos Twristiaeth Cymru, rwy’n falch dros ben bod Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ymweld a rhai o atyniadau ymwelwyr gorau Gogledd Cymru. Mae Gerddi Bodnant yn benodol yn esiampl gwych o atyniad o ansawdd i dwristiaid, ac mae wedi lansio ei Ardd Aeaf yn ddiweddar er mwyn ymestyn y tymor twristiaeth a chyfrannu ymhellach at yr economi leol.”