Ysgrifennydd Cymru’n llongyfarch y Cymry sydd wedi derbyn Anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd
Mae Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn cydnabod cyflawniadau a gwasanaeth bobl eithriadol ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae’r anrhydeddau hyn yn cydnabod llwyddiannau a gwasanaeth pobl anhygoel Cymru gartref ac ar draws y byd.
“O’n ffigyrau cyhoeddus rhagorol i’r rhai sy’n gwasanaethu eu cymunedau’n dawel, maen nhw’n cael eu dewis am eu hymroddiad a’u gwaith diflino yn helpu i wella bywydau pobl eraill.
“Mae’n iawn i ni fod yn falch o holl waith caled y Cymry sydd ar y rhestr anrhydeddau heddiw. Llongyfarchiadau i chi i gyd.”