Ysgrifennydd Cymru: "Mae cynnal busnes yn Ne-ddwyrain Asia yn hanfodol i ddiogelwch a ffyniant hirdymor Prydain yn y dyfodol”
Ysgrifennydd Cymru yn cychwyn ar ymweliad masnach a diplomyddol â Singapôr ac Indonesia
Mae Prydain yn cryfhau ei hymgysylltiad ag Asia wrth i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y Gwir Anrhydeddus David Jones AS, ymweld ag Indonesia a Singapôr.
Bydd Mr Jones yn cynrychioli Llywodraeth y DU ar yr ymweliad tri diwrnod â’r ardal, gan atgyfnerthu cysylltiadau busnes sydd eisoes wedi’u sefydlu a chwilio am fwy o gyfleoedd i gwmnïau a sefydliadau’r DU weithredu yn yr ardal.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:
Mae cynnal busnes yn Ne-ddwyrain Asia yn hanfodol i ddiogelwch a ffyniant hirdymor Prydain yn y dyfodol. Yn y flwyddyn 2012, yr oedd y DU wedi allforio mwy i’r chwe economi fwyaf yn ne-ddwyrain Asia nag i dir mawr Tseina. Mae’r gwledydd hyn yn hollbwysig i’n dyfodol hirdymor ac rydym yn benderfynol o gryfhau ein partneriaethau â nhw.
Rwyf yn awyddus i siarad â busnesau, sefydliadau addysgol a llywodraethau’r rhanbarth er mwyn sicrhau bod cwmnïau Prydain yn cael y cyfleoedd gorau bosibl i gystadlu yn y ras fyd-eang.
Dywedodd Antony Phillipson, Uwch Gomisiynydd Prydain yn Singapôr:
Mae cysylltiadau cryf rhwng Singapôr a’r DU a Singapôr yw marchnad allforio fwyaf y DU yn ne-ddwyrain Asia. Bydd ymweliad Ysgrifennydd Cymru yn cryfhau ein cysylltiadau amddiffyn ac addysgol wrth iddo ymweld â Sefydliad Rheolwyr Dwyrain Asia i weld y gwaith y mae wedi bod yn ei wneud â Phrifysgol Fetrapolitan Caerdydd a chyfarfod ag arweinwyr busnes ar HMS Daring.
Gan mai Singapôr yw marchnad allforio fwyaf y DU yn ASEAN, bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyfarfod ag Aireen Omar, Prif Swyddog Gweithredol AirAsia Berhad a Thomas Friedberger, Prif Swyddog Gweithredol swyddfa EADS yn Singapôr, rhiant-gwmni Airbus. Yn ddiweddar, mae AirAsia wedi llofnodi contract am 100 o awyrennau A320 yn ffatri gwneud adenydd Airbus ym Mrychdyn, Cymru, ac roedd Mr Jones a David Cameron, Prif Weinidog Prydain, yn dystion i’r digwyddiad.
Wedyn, bydd Mr Jones yn hedfan i Indonesia i hyrwyddo gwerthoedd democrataidd y DU yn Fforwm Democratiaeth Bali. Gan mai Indonesia yw’r economi fwyaf yn Ne-ddwyrain Asia, bydd Mr Jones yn edrych ar y cyfleoedd sydd ar gael i gynyddu marchnad allforio’r DU i’r ardal, sydd werth ychydig dros £1bn y flwyddyn ar hyn o bryd.
Yn ystod ei gyfnod yn Bali, bydd yn gosod torch ar safle’r bomio yn 2002 pan laddwyd 202 o bobl, gan gynnwys 27 o wladolion Prydeinig. Bydd hefyd yn ymweld â Chanolfan Gweithrediadau Brys Bali i drafod cynllunio ar gyfer argyfwng.
Dywedodd Mark Canning, Llysgennad Prydain yn Indonesia:
Indonesia yw’r economi cryfaf yn ne-ddwyrain Asia ac mae’n briodol iawn fod y DU yn buddsoddi yn y berthynas honno drwy ymweliad Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Nodyn i Olygyddion:
Bu’r Prif Weinidog ar ymweliad ag Indonesia a Singapôr ym mis Ebrill 2012 a chroesawyd Arlywydd Indonesia i dderbyniad gan Ei Mawrhydi’r Frenhines yn ystod Ymweliad Gwladol ym mis Tachwedd 2012.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 6 Tachwedd 2013Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Tachwedd 2013 + show all updates
-
Added translation
-
First published.