Ysgrifennydd Cymru yn ysu i gychwyn Marathon Llundain
Alun Cairns yn paratoi i redeg ei seithfed marathon ym mhrifddinas Lloegr
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn paratoi at redeg Marathon Llundain am y seithfed tro ddydd Sul (22 Ebrill).
Croesodd Mr Cairns y llinell derfyn fel y Gweinidog Cabinet cyflymaf a’r ail o blith Aelodau Seneddol yn ras y llynedd, gan gwblhau’r cwrs 26.2 milltir mewn 3 awr 36 munud.
Mae ei amser personol gorau o 3:28:02 yn 2016 yn ei osod yn y seithfed safle ar y rhestr o’r rhedwyr cyflymaf erioed o blith Aelodau Seneddol.
Eleni bydd Ysgrifennydd Cymru’n codi arian ar gyfer NSPCC Cymru ac Atal y Fro, elusen cymorth i fenywod sy’n ymroi i gael gwared â thrais domestig.
Dywedodd Alun Cairns:
Rydw i bob amser yn cael fy ysbrydoli gan resymau pobl dros wisgo’u hesgidiau rhedeg a mynd i’r afael ag un o’r cyrsiau enwocaf yn y byd.
Beth bynnag fo’r rheswm, gosod amser personol gorau newydd, codi arian ar gyfer elusen sy’n bwysig i chi neu gofio am rywun arbennig, mae’n rhywbeth sy’n cynnal eich cymhelliant drwy fisoedd caled o hyfforddi a phwysau meddyliol a chorfforol y ras ei hun.
Edrychaf ymlaen at ymuno â miloedd o redwyr o bob gallu a fydd yn cymryd rhan i godi arian ar gyfer dau achos teilwng, a gobeithio y cawn heulwen ar hyd y ffordd!
Nodiadau i olygyddion:
- I gyfrannu at yr elusennau a ddewiswyd gan Mr Cairns ewch i’w dudalen ar Virgin Money Giving