Ysgrifennydd Cymru: Gweithgynhyrchu yn ganolog i lwyddiant economi Cymru
Heddiw, bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gweld rol bwysig diwydiant gweithgynhyrchu Cymru - sy’n gwneud gwaith fel cydosod…
Heddiw, bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn gweld rol bwysig diwydiant gweithgynhyrchu Cymru - sy’n gwneud gwaith fel cydosod adenydd awyrennau a chreu cydrannau ar gyfer offer adeiladu - wrth ail-gydbwyso’r economi a sicrhau twf yr economi.
Yn ystod ymweliadau ag Airbus ym Mrychdyn a JCB Transmissions yn Wrecsam, bydd Mr Jones yn cyfarfod ag uwch swyddogion gweithredol ac aelodau o weithlu Cymru sy’n parhau i gyfrannu’n allweddol at sector gweithgynhyrchu Prydain.
Bydd Mr Jones yn cael ei groesawu gan Paul McKinlay, Pennaeth Ffatri Airbus ym Mrychdyn, ac yn trafod cryfder a phwysigrwydd y sector awyrofod i economi’r DU. Bydd Mr Jones yn mynd ar daith o amgylch y ffatri cydosod adenydd, a dderbyniodd archeb ar gyfer 100 o awyrennau A320 gan AirAsia yn ddiweddar, ac yn cael cyfle i gwrdd a graddedigion a gweithwyr sy’n cymryd rhan yn un o raglenni prentisiaethau mwyaf y DU.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Jones:
“Mae Prydain yn ail yn y byd yn y maes awyrofod, ond ni yw’r cyntaf yn Ewrop. Mae Airbus yn gwneud ei gyfraniad pwysig ei hun at y llwyddiant hwn. Fel rhan o Bartneriaeth Twf y Sector Awyrofod (AGP), mae’r Llywodraeth hon yn gweithio gyda diwydiannau i helpu i gadarnhau’r safle hwnnw drwy fynd i’r afael a’r rhwystrau rhag twf, mynd ati i hybu allforion, a chynyddu nifer y swyddi uchel eu gwerth ym maes awyrofod yn y DU.
“Yn Sioe Awyr Farnborough ym mis Gorffennaf 2012, lansiodd yr AGP ei Weledigaeth Strategol ar gyfer Awyrofod yn y DU. Mae’r ddogfen hon yn amlinellu nifer o gamau y gellir eu cymryd i gyrraedd y nod hwnnw, gan gynnwys cystadleurwydd yn y gadwyn gyflenwi a sgiliau a gallu ym maes gweithgynhyrchu.
“Mae buddsoddiad parhaus Airbus yn y wlad hon yn brawf o sgiliau ein gweithlu a’r hyder sydd ganddo yn ein harbenigedd ym maes gweithgynhyrchu. Mae angen i ni ddal ati i gefnogi’r sector awyrofod yn y DU a hybu rhagor o fuddsoddiad yn y diwydiant.”
Dywedodd Paul McKinlay, Pennaeth Safle Brychdyn:
“Mae Airbus ym Mrychdyn yn enghraifft wych o’r modd y gall y DU chwarae rhan allweddol mewn cynnyrch llwyddiannus ar lefel ryngwladol - mae pawb sy’n teithio ar awyren Airbus yn hedfan ar adenydd sydd wedi cael eu cynllunio ym Mhrydain ac wedi cael eu gweithgynhyrchu yng Nghymru.
“Mae Airbus yn y DU yn cyflogi mwy na 10,000 o bobl yn uniongyrchol, ac amcangyfrifir bod 100,000 yn cael eu cyflogi yn y gadwyn gyflenwi ehangach. Mae ein cynnych a’n gwasanaethau werth oddeutu £2 biliwn i economi’r DU bob blwyddyn, ac mae’r ymweliad hwn gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd y sector awyrofod i lwyddiant Prydain.”
Yn dilyn yr ymweliad ag Airbus, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld a JCB Transmissions ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam. Mae’r safle’n chwarae rhan ganolog wrth gynhyrchu offer y cwmni - offer hynod gynhyrchiol a rhad ar danwydd sy’n cael ei ddefnyddio yn y diwydiant ffermio ac adeiladu.
Yn ystod ei ymweliad, bydd Mark Turner, Cyfarwyddwr Gweithgynhyrchu Grŵp JCB, yn tywys Mr Jones o amgylch y safle ac yn amlinellu cyfraniad safle Wrecsam at y gwaith ymchwil, datblygu a gweithgynhyrchu sy’n gysylltiedig a chynnyrch JCB ledled y byd.
Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Mr Turner:
“Mae gerflychau ac echeli sy’n cael eu gweithgynhyrchu yn Wrecsam yn llythrennol yn cadw olwynion diwydiannau ym mhob cwr o’r byd i droi - ym myd amaeth ar dractorau Fastrac JCB ac yn y diwydiant adeiladu ar beiriannau a bwcedi llwytho ol a pheiriannau telesgopig JCB. Mae ein systemau trawsyriant, sy’n cael eu defnyddio yn ein ffatrioedd yn y DU, yn cael eu hanfon i’n ffatrioedd tramor hefyd, felly bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn gweld a’i lygaid ei hun sut mae JCB wedi dod yn arweinydd byd-eang mewn technoleg trawsyriant arloesol. Bydd ei ymweliad a JCB Transmissions yn helpu i bwysleisio’r rol bwysig y gall gweithgynhyrchu ei chwarae yn economi Gogledd Cymru.”
Ychwanegodd David Jones , Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Mae’r cwmniau rwyf yn ymweld a nhw heddiw yn ganolfannau rhagoriaeth ym maes gweithgynhyrchu ac yn gyflogwyr hollbwysig yng Ngogledd Cymru. Mae eu llwyddiant yn cadarnhau pa mor bwysig yw ail-gydbwyso ac ailadeiladu’r sector gweithgynhyrchu a pheirianneg ym Mhrydain.
“Wrth i Airbus a JCB lwyddo gartref a thramor, rydym yn llawn sylweddoli’r heriau y mae gweithgynhyrchwyr eraill yng Nghymru yn eu hwynebu.
“Mae’r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i weithio gyda busnesau i geisio gwneud popeth yn ei gallu i helpu i ailgyflwyno diwydiannau. Ein bwriad yw creu economi gadarn a lewyrchus yng Nghymru, ac mae gweithgynhyrchu yn ganolog i’r weledigaeth hon.”
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Mae’r grŵp Arweinyddion Busnes Awyrofod, sy’n cael ei gadeirio gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Arloesi a Sgiliau, yn cynnwys nifer fach o Brif Swyddogion Gweithredol o fusnesau blaenllaw yn y sector awyrofod ledled y DU. Mae’n cyfarfod unwaith neu ddwy y flwyddyn ac yn dynodi materion o bwys strategol sy’n effeithio ar y sector.
2. Yna, bydd Partneriaeth Twf y Sector Awyrofod (AGP) - sy’n dod a busnesau awyrofod a’r llywodraeth at ei gilydd er mwyn mynd i’r afael a’r rhwystrau rhag twf, hybu allforion, a chynyddu nifer y swyddi uchel eu gwerth yn y sector awyrofod yn y DU - yn bwrw ymlaen a’r rhain.
3. Yn Sioe Awyr Farnborough ym mis Gorffennaf 2012, lansiodd yr AGP ei Weledigaeth Strategol ar gyfer Awyrofod yn y DU. Roedd y ddogfen hon yn egluro y bydd y Llywodraeth a diwydiannau yn parhau i gydweithio i ddatblygu gweledigaeth yr AGP yn strategaeth fanwl. Disgwylir y bydd dogfen arall yn cael ei lansio yn gynnar eleni.