Ysgrifennydd Cymru yn nodi buddsoddiad Aston Martin mewn gweithgynhyrchu cerbydau heb allyriadau yn safle Sain Tathan
Aston Martin yn buddsoddi £50 miliwn yn ei gyfleuster newydd yn Sain Tathan yng Nghymru
Mae Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw y bydd Aston Martin yn buddsoddi £50 miliwn yn ychwanegol yn ei gyfleuster newydd yn Sain Tathan, Cymru. Dyma fydd ei ganolfan ar gyfer trydaneiddio a chartref y brand, Lagonda. Bydd y buddsoddiad yn creu 200 o swyddi ychwanegol ar y safle. Bydd y ffatri newydd yn denu hyd at 750 o swyddi tra medrus i dde Cymru.
Daw’r cyhoeddiad hwn ar y diwrnod y mae’r Prif Weinidog yn amlinellu ‘cenhadaeth uchelgeisiol’ Llywodraeth y DU i sicrhau bod y DU ar flaen y gad o ran dylunio a gweithgynhyrchu cerbydau heb allyriadau. Bydd yn amlinellu hyn yn ystod ei hanerchiad yn Uwchgynhadledd gyntaf erioed y wlad ar Gerbydau Heb Allyriadau, a gynhelir yn Birmingham.
Wrth nodi cyhoeddiad Aston Martin heddiw, dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Mae’r cyhoeddiad hwn yn hwb mawr i’r rheini sy’n gweithio yng nghyfleuster gweithgynhyrchu newydd, o’r radd flaenaf Aston Martin yn Sain Tathan. Rwy’n falch y bydd sgiliau a thalentau gweithlu o Gymru yn darparu’r cynnyrch o safon uchel y mae’r brand blaenllaw hwn o Brydain yn adnabyddus amdano ledled y byd.
Cenhadaeth Llywodraeth y DU ydy sicrhau bod y wlad ar flaen y gad o ran dylunio a gweithgynhyrchu cerbydau heb allyriadau. Mae’r ffaith fod cwmni sy’n uchel ei barch ar draws y byd, yn dewis Cymru fel y ganolfan ragoriaeth ar gyfer ei raglen trydaneiddio yn dyst i’r hyn sydd gan ein gwlad i’w gynnig i’r sector modurol. Rwy’n edrych ymlaen at weld y cynlluniau arloesol yn cael eu gwireddu yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.