Ysgrifennydd Cymru yn nodi Diwrnod y Cofio yn y Bathdy Brenhinol
Stephen Crabb yn bathu darn arian Diwrnod y Cofio
Mae ein dyled o ddiolchgarwch i genedlaethau o bersonél y Lluoedd Arfog yn anfesuradwy, meddai Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, heddiw yn ystod ymweliad â’r Bathdy Brenhinol yn Llantrisant.
Roedd Mr Crabb yn bresennol mewn seremoni Diwrnod y Cofio yng nghwmni staff y Bathdy Brenhinol a rhai o gyn-filwyr yr Ail Ryfel Byd, lle bydd yn gosod torch ar y gofeb ryfel sydd ar y safle.
Yn ystod yr ymweliad, wnaeth hefyd bathu darn arian £5 arbennig i nodi Diwrnod y Cofio 2015 ar ran y Bathdy Brenhinol, er cof am arwyr brwydrau’r gorffennol a’r presennol.
Ar y darn arian gwelir cyfansoddiad ingol gan un o ysgythrwyr y Bathdy Brenhinol, Glyn Davies. Wrth gymryd byrhoedledd fel ei thema, cafodd ei ysbrydoli nid yn unig gan golled bersonol ond hefyd y cysyniad o drawsnewid meysydd Fflandrys
Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb:
Heddiw, bydd miloedd o bobl ledled Cymru yn gwisgo eu pabi gyda balchder, ac yn ymgynnull ger cofebion rhyfel i nodi aberth ein milwyr ar draws y byd.
Mae’r darn arian Diwrnod y Cofio yn ffordd deilwng o barchu’r rhai a gollodd eu bywydau yn gwasanaethu ein gwlad. Mae’n fraint cael y cyfle hwn i dalu’r deyrnged fechan ond arwyddocaol hon heddiw i’r nifer o genedlaethau a gollwyd ar faes y gad.
Ymysg y rhai a fydd yn ymuno â’r Ysgrifennydd Gwladol yn y gwasanaeth Coffa bydd yr awyr-lefftenant Russell Rusty Waughman o Swydd Warwick, awyr-lefftenant John Moore o’r Bont-faen a Swyddog Gwarant Doug Mustoe.
Hedfanodd yr awyr-lefftenant Waughman DFC (y Groes Hedfan Neilltuol), sy’n 94 oed, awyrennau bomio Lancaster ar ddyletswyddau arbennig yn Sgwadron fawreddog 101 yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Hedfanodd awyr-lefftenant Moore, sy’n 92 oed, 27 o hediadau awyrennau bomio Lancaster ar gyrchoedd ar draws Ewrop gyda’r Rheolaeth Awyrennau Bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, cyn cael ei anafu pan laniodd ei awyren yn ddisymwth ar ôl cael ei difrodi tra’r oedd ar gyrch. Ar ôl gwella o’i anafiadau, hedfanodd John awyrennau Dakotas i’r adain drafnidiaeth.
Ychwanegodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Bydd yn anrhydedd enfawr cwrdd â’r awyr-lefftenant Moore a’r awyr-lefftenant Waughman heddiw. Maen nhw’n ddynion a ddangosodd ddewrder anhygoel a gwroldeb anhygoel - a hynny yn erbyn amgylchiadau anghyffredin. Mae ein dyled o ddiolchgarwch iddyn nhw, ac i’r rhai na ddaeth yn ôl adref, yn anfesuradwy, a heddiw rydym yn dweud diolch. Fe’u cofiwn.