Datganiad Gan Swyddfa Cymru Mewn Ymateb I Gyhoeddiad TATA Steel
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad heddiw y bydd swyddi’n cael eu colli ar draws gweithrediadau Tata Steel yng Nghymru, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol…
Mewn ymateb i’r cyhoeddiad heddiw y bydd swyddi’n cael eu colli ar draws gweithrediadau Tata Steel yng Nghymru, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones:
“Does dim dwywaith nad yw busnesau’n wynebu amodau heriol yn y farchnad fyd-eang. Bydd y cyhoeddiad gan Tata Steel heddiw yn effeithio ar lawer yn Ne Cymru, ac er na fydd yn rhoi cysur i’r unigolion a effeithir, mae’r penderfyniad masnachol hwn yn un a gymerwyd i sicrhau y gall gwaith Tata yn y DU barhau’n gystadleuol.
“Rhoddwyd sicrwydd i mi fod Tata’n parhau’n ymroddedig i fod a phresenoldeb cryf yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol.
“Croesewir y newyddion bod disgwyl i Tata gynnau Ffwrnais 4 yn chwarter cyntaf 2013, ac felly hefyd y newyddion am greu 120 o swyddi newydd yn y felin rolio stribedi poeth yn Llanwern a 65 o swyddi newydd yn ei ganolfan ddosbarthu.
“Fodd bynnag, mae colli dros 500 o swyddi yng Nghymru yn ein hatgoffa’n fyr ac yn gryno o’r sialensiau sy’n wynebu busnesau ar draws y byd. Mae angen i’r ddwy Lywodraeth yn Whitehall a Chaerdydd ganolbwyntio’n ddi-ildio ar yr economi ac rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau ein bod yn llwyddo yn y maes hwn.
“Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn barod i gefnogi gweithwyr os bydd unrhyw swyddi’n cael eu colli. Rwyf mewn cysylltiad agos a swyddogion Tata a byddaf yn ceisio cyfarfod buan gyda hwy i drafod lefel y gefnogaeth y gellir ei darparu yng ngoleuni cyhoeddiad heddiw, ac i sicrhau bod popeth posibl yn cael ei wneud i helpu’r rhai a effeithir ganddo.”