Gwobrau Busnes y Daily Post gan Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
Stephen Crabb: "Mae rhestr fer Gwobrau Busnes y Daily Post yn amlygu’r amrywiaeth enfawr o gwmnïau cyffrous sydd wedi eu seilio yng ngogledd Cymru"
,
O bobyddion sy’n gwerthu bara brith i America, i farchnatwyr cyfryngau cymdeithasol arloesol - mae rhestr fer Gwobrau Busnes y Daily Post yn amlygu’r amrywiaeth enfawr o gwmnïau cyffrous sydd wedi eu seilio yng ngogledd Cymru.
Mae’r rhestr fer nodedig hon, gyda chwmnïau sydd wedi llwyddo dramor, megis Bara Henllan a Livetech, ynghyd â Grŵp Hamdden Tir Prince a KK Foods, yn amlygu angerdd rhanbarth bywiog sydd â busnesau sy’n edrych am allan ac yn hyderus ynghylch y dyfodol.
Gyda chymysgedd trawiadol o allforwyr mawr a busnesau bach a chanolig, mae gogledd Cymru yn arwain y ffordd o ran datblygu busnes yng Nghymru. Yn gynharach y mis hwn, cefais brofiad uniongyrchol o’r uchelgais hynny pan ymwelais â gogledd Cymru a chwrddais â phobl flaenllaw ym maes busnes a diwydiant. Mae ganddynt weledigaeth glir o sut yr hoffent i ogledd Cymru weithredu: awyddus am dwf; elwa ar drethi isel a llai o fiwrocratiaeth; a ffynnu fel rhan annatod o’r ‘Northern Powerhouse’.
Mae’r ‘Northern Powerhouse’, sy’n ymestyn o ogledd Cymru i Newcastle, yn arwyddocaol iawn i’r rhan hon o Gymru. Drwy wella’r cysylltiadau rhwng dinasoedd gogledd Lloegr a throsglwyddo pwerau o’r canol, mae’r Llywodraeth yn datgloi potensial y rhanbarth cyfan hwn. Mae dinasoedd gogledd Lloegr yn arwain y ffordd wrth i’r Llywodraeth ail gydbwyso’r economi fel nad yw’n dibynnu gormod ar sector gwasanaethau ariannol Llundain a de ddwyrain Lloegr. Mae gogledd Cymru mewn lle perffaith i elwa ar hyn.
Mae’r Daily Post wedi cefnogi’r weledigaeth hon o’r dechrau un. Mae gan y papur newydd hwn hanes balch o gefnogi busnesau gogledd Cymru a herio Llywodraeth Caerdydd a Llundain er mwyn sicrhau’r amgylchiadau gorau er mwyn eu helpu i lwyddo. Mae’r Daily Post yn adnabod gogledd Cymru a bob tro yn hyrwyddo ei hunaniaeth ddeinamig ac unigryw.
Gyda’r weledigaeth ‘Northern Powerhouse’ yn mynd o nerth i nerth, mae hyn yn gyfnod cyffrous i ogledd Cymru a’r math o gwmnïau sy’n cystadlu yng ngwobrau busnes y Daily Post yw’r rhai sy’n gyfrifol am arwain y ffordd. Mae eu brwdfrydedd a’u penderfyniad di-ben-draw am lwyddiant yn newyddion cadarnhaol i swyddi, i ffyniant, ac i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal hon.