Ysgrifennydd Cymru: “Mae'n hollbwysig cefnogi busnesau yng Nghymru wledig”
David Jones yn cynnal cyfarfod Siambr Fasnach Canolbarth Cymru
Heddiw (9 Ionawr) bydd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, yn cynnal cyfarfod o amgylch y bwrdd ag arweinwyr busnes ym Mhowys a Cheredigion i nodi blwyddyn ers sefydlu Siambr Fasnach Canolbarth Cymru.
Lansiodd Siambr Fasnach De Cymru ei changen Canolbarth Cymru ym mis Ionawr 2013 ar y cyd â Grŵp Gweithgynhyrchu’r Canolbarth, gyda golwg ar sefydlu cynrychiolaeth benodol ar gyfer busnesau lleol ym Mhowys a Cheredigion.
Bydd Mr Jones yn cwrdd â Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru, ynghyd ag aelodau’r siambr yn y cyfarfod yn y Drenewydd i drafod y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i fusnesau yn yr ardal sy’n awyddus i ehangu i farchnadoedd newydd.
O lansio’r strategaeth Small Business: GREAT Ambition ar gyfer y gefnogaeth sydd ar gael gan Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI), bydd Mr Jones yn amlinellu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y DU i gynorthwyo busnesau yng Nghymru. Bydd y trafodaethau hefyd yn canolbwyntio ar y blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd a nodwyd ym maniffesto’r Siambr ynghylch twf economaidd.
Mae’r maniffesto’n canolbwyntio ar bedwar maes allweddol, sef seilwaith a chysylltedd; sgiliau ac addysg; cyngor a chymorth i fusnesau; a masnach ryngwladol. Mae hefyd yn amlinellu pecyn o fesurau a fydd, ym marn aelodau’r Siambr, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i ddyfodol economaidd busnesau ar hyd a lled Cymru.
Dywedodd David Jones AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Dros y blynyddoedd, mae gwahanol ganghennau Siambrau Masnach wedi chwarae rhan allweddol drwy fod yn llais amlwg dros fusnesau lleol ledled y wlad. Roeddwn yn falch iawn o weld Siambr Fasnach De Cymru yn ehangu ei dylanwad i Ganolbarth Cymru, gan ei fod yn gyfle gwych i greu swyddi a thwf ym Mhowys a thu hwnt.
Mae’n hollbwysig bod busnesau yn ardaloedd mwyaf gwledig Cymru yn cael cymorth. Nid yn unig maent yn cyfrannu at ein hadferiad economaidd, maent hefyd yn darparu swyddi gwerthfawr ac yn helpu i gryfhau sefyllfa Prydain yn y farchnad fyd-eang.
Os yw Cymru am lwyddo yn y ras fyd-eang, mae angen i ni wneud mwy i helpu cwmnïau i dyfu ac i lwyddo mewn marchnadoedd rhyngwladol newydd. Rwyf yn edrych ymlaen at drafodaeth fywiog ag arweinwyr busnes er mwyn clywed beth arall y gellir ei wneud i gryfhau’r economi leol, i sbarduno adfywio ac i hybu ffyniant yn y rhan bwysig hon o Gymru.
Dywedodd Graham Morgan, Cyfarwyddwr Siambrau Masnach De a Chanolbarth Cymru:
Mae’n bleser gennym groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Ganolbarth Cymru, i weld llwyddiant ac amrywiaeth busnesau yn yr ardal â’i lygaid ei hun. Mae’r ymweliad yn gyfle gwych i berchnogion busnes ac entrepreneuriaid sôn am y problemau maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, fel datblygu sgiliau a’r gallu i recriwtio staff priodol.
Ar ôl y cyfarfod, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn ymweld â busnesau yn y Drenewydd ac yn y Trallwng sy’n profi twf sylweddol dramor a gartref.
Yng nghwmni Graham Morgan, bydd Mr Jones yn ymweld yn gyntaf ag enillydd Busnes y Flwyddyn Powys 2013, sef Quartix yn y Drenewydd.
Sefydlwyd Quartix yn 2001, ac mae wedi datblygu i fod yn un o’r cwmnïau uchaf ei barch yn y DU ym maes tracio cerbydau. Heddiw, mae dros 5,000 o gwsmeriaid ar draws holl sectorau economi’r DU bron – gan gynnwys sefydliadau’r llywodraeth a’r gwasanaethau brys – yn defnyddio’r system. Cafodd dros 43,000 o unedau eu gosod yn ystod 2013.
Roedd y cerbydau a ddefnyddiwyd yn ystod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 wedi’u tracio ag unedau telemateg GPS uwch Quartix, gan roi gwybodaeth amser real am union leoliadau cerbydau ar unrhyw amser.
Mae Quartix yn gweithredu yn Ffrainc yn ogystal â’r DU, ac mae wedi bod yn paratoi i lansio yn UDA yn 2014.
Llwyddodd y busnes, sydd wedi cynyddu ei weithlu o dri i 70 mewn 12 mlynedd, i gipio Gwobr Busnes y Flwyddyn Powys a Gwobr Twf Busnes yng Ngwobrau Busnes Powys ym mis Hydref y llynedd.
Dywedodd Andy Kirk, Cyfarwyddwr Quartix:
Gwelwyd twf o fwy na 50% yn ystod 2013, ac mae hynny’n deillio o enw da’r cwmni, ymarferoldeb cynnyrch allweddol a thelerau contract syml. Yn sail i hynny mae gwaith caled ac ymroddiad pob aelod o’n tîm rhagorol o weithwyr, sy’n fedrus iawn ac yn llawn cymhelliant.
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn teithio i’r Trallwng yn ddiweddarach, lle bydd yn ymweld â’r cwmni cydrannau ceir, CastAlum.
Mae’r cwmni, sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol, yn cynhyrchu offer llywio, casys trawsyrru a llywio, a chymalau daliant ar gyfer marchnadoedd yn y DU, yr Almaen, Gwlad Pwyl, Canada a Mecsico. Ar ôl llwyddo i gyflenwi darnau i’r Dwyrain Canol yn y gorffennol, mae’r cwmni bellach yn ffynhonnell ddatblygu ar gyfer cydran newydd i’r ardal honno.
Heddiw, mae gan un o bob deg cerbyd sy’n cael ei gynhyrchu ar gyfer cyflenwyr Ewropeaidd offer llywio sydd wedi’i weithgynhyrchu gan CastAlum.
Bydd Mr Jones yn cyfarfod â Chadeirydd CastAlum, Peter Radcliffe, a’r Rheolwr AD, Hannah Barrett, a fydd wedyn yn ei dywys ar daith o amgylch y safle cynhyrchu.
Dywedodd Peter Radcliff:
Mae llwyddiant CastAlum i ehangu wedi deillio o’n gallu a’n parodrwydd i fuddsoddi mewn technoleg ac offer arloesol, sy’n ein galluogi i aros ar flaen y gad o ran gofynion cynyddol ein cwsmeriaid am gyflenwadau o safon.
Mae’r ffaith ein bod wedi gallu cadw ac ehangu sgiliau, gan sicrhau parhad y gweithlu – rhywbeth sydd wedi cyfrannu’n fawr at ein hallbwn ac at effeithlonrwydd o ran ansawdd – hefyd wedi bod yn allweddol yn hyn o beth.
Wrth symud ymlaen, bydd alwminiwm yn cyfrannu’n sylweddol at y cysyniad lightweighting, a fydd yn gwneud y cyfraniad pwysicaf at wella allyriadau cerbydau yn ystod y blynyddoedd nesaf. Credwn y byddwn, oherwydd ein sylfaen sgiliau a’n technoleg, mewn sefyllfa dda i fanteisio ar yr ymgyrch hon i greu cerbydau sy’n fwy effeithlon yn amgylcheddol.