Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi menter prentisiaeth Airbus
Stephen Crabb: “Gallai diwrnod prentisiaeth Airbus fod yn gam cyntaf ar yrfa a fydd yn cyrraedd yr entrychion”
Mae Airbus yn galw am unrhyw sydd â diddordeb mewn gweithio yn y maes awyrofod i ddod draw i’w ffatri adenydd A380 enfawr yn nes ymlaen wythnos yma i ddysgu mwy am y cynlluniau gyrfa cynnar gyda’r gwneuthurwr awyrennau mawr a rhai o’i bartneriaid.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol, Stephen Crabb:
Ar gyfer pobl sydd ar dân dros dechnoleg, gweithgynhyrchu neu awyrofod, gallai’r diwrnod gwybodaeth prentisiaeth fod yn gam cyntaf ar yrfa a fydd yn cyrraedd yr entrychion.
Mae nifer o’r bobl sydd ar fyrddau gweithredol prif gwmnïau Cymru yn gyn brentisiaid ac mae arweinwyr busnes y dyfodol yr un mor debygol o ddod o lawr y ffatri â darlithfa’r brifysgol.
Gobeithio y bydd pobl o bob cefndir a phob cwr o Gymru yn achub ar y cyfle hwn i gael cipolwg prin ar ddiwydiant sy’n eithriadol o gyffrous.