Ysgrifennydd Cymru yn cefnogi cael ‘carchar mawr’ yng Nghymru
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ynglŷn a’r bwriad o adeiladu ‘…
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones, wedi croesawu’r cyhoeddiad heddiw gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ynglŷn a’r bwriad o adeiladu ‘carchar mawr’ newydd ac mae wedi enwi Gogledd Cymru fel lleoliad posibl.
Mae hwn yn rhan o raglen fawr i ddiweddaru stad carchardai Prydain, a bydd yn dal dros 2,000 o garcharorion.
Dywedodd David Jones:
“Rwyf wedi cefnogi cael carchar newydd yng Ngogledd Cymru ers tro, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd a’r Gweinidog Carchardai ac arweinwyr awdurdodau Gogledd Cymru i drafod hyn. Fe fyddaf i’n dal ati i ddadlau’r achos o blaid hyn gyda’r Ysgrifennydd Cyfiawnder.
“Byddai carchar yng Ngogledd Cymru yn creu cyfleoedd economaidd ac yn sicrhau swyddi newydd. Rwyf hefyd yn gwybod pa mor bwysig fyddai cael carchar yng Ngogledd Cymru i deuluoedd ac i ymgynghorwyr proffesiynol y carcharorion.
“Rwy’n falch o weld bod carchar bach newydd, a elwir hefyd yn floc tai, yn mynd i gael ei godi yng Ngharchar y Parc yn Ne Cymru.”
Nodiadau i Olygyddion:
I gael rhagor o fanylion am y cyhoeddiad heddiw - http://www.justice.gov.uk/news/features/changes-to-prison-capacity-announced