Ysgrifennydd Cymru’n annog y Cymry sydd ar wasgar i hyrwyddo Cymru o amgylch y byd
Stephen Crabb: “Mae gan y Cymry sydd ar wasgar rôl allweddol o ran hyrwyddo Cymru ledled y DU a gweddill y byd.”
Heddiw (29 Ionawr), mae Stephen Crabb wedi annog pobl o Gymry sydd wedi gwneud eu marc ym myd busnes ledled y byd i helpu i ddenu mwy o fuddsoddiad i Gymru.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru wrth gynulleidfa o bobl fusnes ac entrepreneuriaid, fod y Cymry sydd ar wasgar yn bartneriaid hanfodol o ran hyrwyddo Cymru ledled y DU a gweddill y byd.
Yn ei araith i Glwb Busnes Clwb Rygbi Cymry Llundain yn Rhydychen, dywedodd Mr Crabb fod Uwchgynhadledd NATO, yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi Ryngwladol a rôl flaenllaw Cymru yn y sectorau technoleg ac awyrofod yn brawf fod economi Cymru wedi newid yn sylweddol yn ystod y blynyddoedd diweddar.
Dywedodd Mr Crabb:
Mae llawer iawn o’r llwyddiant hwn yn gynhenid, ond mae gan y Cymry sydd ar wasgar, sydd wedi helpu i lunio Llundain, ac sydd wedi gwneud eu marc ym myd busnes y tu allan i Gymru, rôl allweddol o ran hyrwyddo Cymru ledled y DU a gweddill y byd.
Wrth rannu a dathlu ein llwyddiant, gallwn ddenu rhagor o fuddsoddiad i Gymru er mwyn creu swyddi, cynyddu twf a rhoi hwb i’r economi.
Felly byddwn i’n gofyn i chi ddod â’ch cysylltiadau busnes i Gymru, dod i weld ein golygfeydd ysblennydd a’n tirnodau hanesyddol, astudio yn ein prifysgolion rhagorol a gwneud mwy o fusnes gyda’n cwmnïau gwych yng Nghymru.
Rhoddodd Mr Crabb deyrnged i sêr rygbi a’r byd chwaraeon o Gymru, sy’n helpu i godi proffil Cymru fel lle gwych i fyw, gweithio a chynnal busnes.
Dywedodd Mr Crabb, sy’n chwaraewr rygbi brwd ei hun, fod chwaraeon yn gatalydd pwysig dros newid a bod yn rhaid i Gymru fanteisio ar y sylw a ddaw yn sgil Cwpan Rygbi’r Byd 2015.
Dywedodd:
A hithau’n flwyddyn Cwpan rygbi’r Byd, bydd llygaid y byd ar Gymru unwaith eto, ac ar Loegr hefyd wrth gwrs.
Cwpan rygbi’r Byd yw’r trydydd digwyddiad chwaraeon mwyaf ar ôl Cwpan pêl-droed y Byd a’r gemau Olympaidd.
Rydyn ni’n cydnabod bod chwaraeon yn gyfrwng dros newid economaidd a chymdeithasol, ac rwy’n siŵr na fydd Cwpan rygbi’r Byd 2015 yn ddim gwahanol.
Siaradodd cyn seren Cymru a Llewod Prydain ac Iwerddon, Martyn Williams, yn y digwyddiad hefyd.
Clwb Busnes Cymry Llundain yw’r clwb busnes newydd a sefydlwyd mewn partneriaeth rhwng Clwb Rygbi Cymry Llundain a nifer o bobl fusnes o Rydychen.