Datganiad i'r wasg

Yr Ysgrifennydd Gwladol: Dêl Virgin Rail Group yn ‘rhoi sicrwydd’ i deithwyr Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd heddiw y bydd Trenau Virgin yn parhau i wasanaethu Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin, a dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol…

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government

Cyhoeddwyd heddiw y bydd Trenau Virgin yn parhau i wasanaethu Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin, a dywedodd David Jones, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y bydd hyn yn rhoi sicrwydd i deithwyr trenau Gogledd Cymru.

Mae’r Adran Drafnidiaeth wedi cadarnhau y bydd y ddel masnachfraint newydd yn weithredol am hyd at 23 mis. Ar ol hyn, bydd Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn cael ei rhoi ar les o dan fasnachfraint hirdymor.

Y rheilffordd hon sy’n cysylltu Gogledd Cymru a gweddill y rhwydwaith trenau, a bydd y cyhoeddiad yn rhoi sicrwydd i fusnesau ac aelodau o gymuned Gogledd Cymru ynghylch gwasanaethau rheilffordd y dyfodol.

Dywedodd Mr Jones:

“Bydd cyhoeddiad heddiw yn newyddion a gaiff ei groesawu gan lawer o deithwyr trenau Arfordir y Gorllewin sy’n defnyddio’r gwasanaeth o Ogledd Cymru ac i Ogledd Cymru yn rheolaidd.

“Bydd y cytundeb hwn gyda Virgin Rail yn rhoi gwell sicrwydd i deithwyr ac i gymuned fusnes Gogledd Cymru, sy’n dibynnu ar fframweithiau seilwaith da i’w cysylltu a chyfleoedd ledled y DU.

“Mae’r penderfyniadau y mae’r Llywodraeth hon wedi’u gwneud yn ddiweddar o ran buddsoddiadau seilwaith - fel y rhaglen drydaneiddio ar gyfer De Cymru a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf - yn cynorthwyo i ddangos bod Cymru’n agored i fusnes ac yn lle gwych i fuddsoddi. Rydym bellach wedi dechrau’r broses o ddatblygu achos busnes cryf a chadarn dros drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Caergybi a Crewe.

Nodiadau i olygyddion:

1) Bydd y fasnachfraint 23 mis yn weithredol rhwng 9 Rhagfyr 2012 a 9 Tachwedd 2014. Ar ol hyn, bydd Prif Reilffordd Arfordir y Gorllewin yn cael ei rhoi ar les o dan fasnachfraint hirdymor. Bydd modd i’r Adran Drafnidiaeth leihau hyd at chwe mis ar y cyfnod hwn, os bydd modd rhoi masnachfraint ddilynol ar les am lai o amser.

2) Ym mis Gorffennaf eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y Du gynlluniau i drydaneiddio’r rhwydwaith trenau rhwng Caerdydd ac Abertawe ac yng Nghymoedd De Cymru, gan gynnwys Glynebwy, Maesteg, Merthyr Tudful a Bro Morgannwg.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr 2012