Ysgrifennydd Cymru yn ymweld â busnesau sy’n tyfu yn Wrecsam wrth iddyn nhw ddod dros effaith Covid-19
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi ymweld â Wrecsam i weld sut mae busnesau lleol yn dod dros y pandemig Covid-19 ac yn canolbwyntio ar dwf i’r dyfodol.
Yn ystod ei ymweliad â Wrecsam, fe aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart i Moneypenny, cwmni cyfathrebu allanol sy’n rheoli galwadau a sgyrsiau byw i filoedd o gwmnïau ar draws y DU.
Yn ystod ei ymweliad ddydd Iau (17 Medi), fe aeth Mr Hart o amgylch swyddfeydd Moneypenny gan gyfarfod â’r Prif Weithredwr Joanna Swash a esboniodd sut roedd y busnes wedi addasu yn ystod y pandemig Covid-19 a’i fod bellach yn ffynnu ac yn ehangu’r tîm yn y DU ac UDA. Tra roedd yn ymweld â Moneypenny clywodd Ysgrifennydd Cymru fod y cwmni, sydd bellach yn cyflogi dros 1,000 o bobl ledled y byd ac sydd â throsiant o dros £50 miliwn, yn datblygu Deallusrwydd Artiffisial i wella eu gwasanaeth cwsmeriaid ardderchog hyd yn oed ymhellach.
Yn dilyn ei ymweliad â Moneypenny, fe aeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru i ymweld â’r cwmni nwyddau chwaraeon Net World Sports yn Wrecsam. Yn ystod ei ymweliad, clywodd Mr Hart gan y sefydlydd a’r perchennog Alex Loven fod y cwmni yn parhau i dyfu gan gynyddu nifer y gweithwyr, y gwerthiant a’r trosiant er gwaethaf yr heriau a achoswyd gan y pandemig Covid-19.
Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
Roedd yn hyfryd gweld bod Moneypenny a Net World Sports yn parhau i ffynnu a chlywed eu bod wedi tyfu’n fusnesau byd eang gan greu cannoedd o swyddi yn Wrecsam a hybu’r economi leol.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gefnogi economi Cymru drwy’r pandemig ac i adeiladu adferiad economaidd cadarn. Roeddwn i’n falch o glywed bod Moneypenny wedi gwneud defnydd o gymorth Llywodraeth y DU yn ystod y pandemig, gan eu galluogi i ddiogelu swyddi ac adeiladu ar eu llwyddiant.
Dywedodd Joanna Swash, Prif Weithredwr Moneypenny:
Roedden ni’n falch o groesawu Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart i drafod sut rydyn ni fel cwmni wedi gallu cefnogi ein gweithwyr a’n cleientiaid ac addasu’n gyflym i ffyrdd newydd ac arloesol o weithio. Cyn y cyfnod clo roedd Moneypenny wastad wedi ‘ffynnu’, ond roedd yn rhaid symud i’r modd ‘goroesi’ yn gyflym iawn, gan gyflwyno contractau tymor byr i gleientiaid, a gwasanaethau newydd arloesol i helpu cwmnïau i drawsnewid i ofynion eu gweithwyr oedd yn gweithio o bell. Rydyn ni’n falch ein bod ni bellach mewn sefyllfa i dyfu ein busnes ac rydyn ni’n bwriadu recriwtio ar gyfer ein tîm sy’n ehangu.