Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn croesawi buddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru
KeolisAmey sydd wedi’i gadarnhau heddiw fel gweithredwr newydd masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau
Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:
“Llongyfarchiadau i KeolisAmey sydd wedi’i gadarnhau heddiw fel gweithredwr newydd masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau. Mae’r garreg filltir hon yn dangos y cydweithredu effeithiol sydd wedi digwydd rhwng Llywodraethau’r DU a Chymru a’r diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru drwy gydol y broses.
“Mae gwasanaethau sy’n cael eu gweithredu dan fasnachfraint Cymru a’r Gororau’n elfen hanfodol o seilwaith cludiant Cymru gan wasanaethu miloedd o gymudwyr a theithwyr bob dydd.
“Mae’n hanfodol bod gan Gymru gysylltiadau trafnidiaeth o’r radd flaenaf i gludo pobl i’w swyddi, annog buddsoddiad a helpu ein heconomi i dyfu. Yn fwy na hynny, mae’n bwysig bod unrhyw fuddsoddiad yn y dyfodol yn darparu gwelliannau gweladwy ac ymarferol i’r profiad o deithio ar drên ar fasnachfraint sydd â photensial i ddatblygu cysylltiadau trafnidiaeth rhwng Cymru a Lloegr.
“Gyda’r pwerau masnachfraint rydyn ni’n eu datganoli i Lywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU wedi cyflawni argymhellion allweddol Comisiwn Syr Paul Silk ar Ddatganoli yng Nghymru. Nawr rydyn ni eisiau i Lywodraeth Cymru gyflawni ar ein huchelgais ar y cyd i wella cysylltedd, lleihau amseroedd siwrneiau a chreu seilwaith cludiant sy’n addas ar gyfer y dyfodol.”