Ysgrifennydd Cymru’n dymuno lwc dda i Dîm Cymru cyn Gemau’r Gymanwlad
200+ o athletwyr o Gymru yn anelu am lwyddiant ar yr Arfordir Aur
Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn cefnogi Tîm Cymru i ennill medalau wrth i Gemau’r Gymanwlad ddechrau ar yr Arfordir Aur yfory (4 Ebrill).
Mae tîm Cymru, sy’n cynnwys 214 o aelodau, wedi teithio i Awstralia lle y bydd yr athletwyr yn cystadlu mewn 15 o wahanol ddisgyblaethau. Mae’r sgwad yn cynnwys wyth o gystadleuwyr a fydd yn cymryd seibiant o’u gwaith ysgol i ymuno yn yr ymgyrch am fedalau draw yn Awstralia.
Wrth siarad cyn seremoni agoriadol y Gemau, dywedodd Alun Cairns:
Mae Cymru’n gallu cystadlu â’r goreuon ym myd chwaraeon, ac mae nifer yr athletwyr Cymreig sydd wedi teithio i’r Arfordir Aur eleni’n dangos y cryfder a’r angerdd sydd gennym dros gystadlu yn lliwiau Tîm Cymru.
Mae’r gemau yn gyfle unigryw i athletwyr gystadlu dan eu baner eu hunain ar lefel elît, gan gynrychioli ystod eang o chwaraeon o fowlio lawnt i godi pwysau.
Mae’r genedl yn cefnogi Tîm Cymru ac rwy’n dymuno’r lwc orau i’r holl sgwad wrth iddynt anelu at gyrraedd uchelfannau eu chwaraeon dros y dyddiau i ddod.
Mae Tîm Cymru yn anelu am Gemau’r Gymanwlad tramor mwyaf llwyddiannus erioed eleni, gydag athletwyr yn gobeithio mynd tu hwnt i’r 25 medal a enillwyd ganddynt yn Auckland yn 1990.
Y 230 o athletwyr Cymreig a fu’n cystadlu yn y Gemau yn Glasgow bedair blynedd yn ôl oedd y rhai mwyaf llwyddiannus yn hanes Gemau’r Gymanwlad i Gymru, gan ennill cyfanswm o 36 o fedalau gan gynnwys pum medal aur.
Ymysg y rhai sy’n gobeithio am lwyddiant eleni mae’r athletwraig triathlon Non Stanford, sy’n arwain y tîm wrth iddi gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad am y tro cyntaf.
Bydd y nofwraig Jazz Carlin, sydd â dwy fedal Olympaidd, yn cario baner Cymru yn y seremoni agoriadol ar 4 Ebrill, a bydd pencampwraig yr 800m dull rhydd yn amddiffyn ei choron wrth gystadlu yn y Gemau am y pedwerydd tro.
Bu Anna Hursey, 11 mlwydd oed, yn y penawdau’n ddiweddar, gan y tybir mai’r chwaraewraig tenis bwrdd o Gaerdydd yw’r unigolyn ieuengaf erioed i gynrychioli Cymru mewn unrhyw chwaraeon ar lefel oedolion, neu i gystadlu yng Ngemau’r Gymanwlad dros Dîm Cymru.
Mae Gemau’r Gymanwlad eleni yn ffurfio rhan o ddathliadau ehangach y Gymanwlad ar draws y DU, wrth i Lundain baratoi i gynnal Cyfarfod Penaethiaid Llywodraethau’r Gymanwlad y mis hwn (16-20 Ebrill).
Mae Cymru hefyd wedi ailddatgan ei chysylltiadau cryf â’r Gymanwlad, drwy gynnal cyfres o Giniawau Mawr y Gymanwlad mewn partneriaeth gyda Phrosiect Eden fel rhan o’r dathliadau swyddogol yn y cyfnod cyn Cyfarfod Penaethiaid y Llywodraethau.
Ymunwyd ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns gan yr athletwr dygnwch Richard Parks a chynrychiolwyr o grwpiau ieuenctid, ffydd, diaspora a grwpiau chwaraeon yng Nghymru mewn Cinio Mawr fis diwethaf i ddathlu’r perthnasoedd byd-eang sy’n cael eu creu gan y Gymanwlad.