Datganiad i'r wasg

Grŵp Ymgynghori Economaidd Ysgrifennydd Gwladol Cymru i greu 'cyfnod newydd o ffyniant a thwf i Gymru'

Bydd y Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymru y tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr o grwpiau busnes, addysg a diwydiant Cymru yn llunio polisi trawslywodraethol y DU

Welsh Secretary Jo Stevens chairing a Creative Sector roundtable in Cardiff Bay.

  • Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn cyhoeddi Grŵp Ymgynghori Economaidd newydd i sbarduno twf, siapio strategaeth ddiwydiannol y DU, a gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân
  • Y tro cyntaf y bydd cynrychiolwyr o grwpiau busnes, addysg a diwydiant Cymru yn llunio polisi trawslywodraethol y DU  
  • Bydd y corff yn helpu i hybu ffyniant ac yn rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl

Mae Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi cyhoeddi y bydd grŵp ymgynghori economaidd newydd yn cael ei greu i sbarduno twf, siapio strategaeth ddiwydiannol y DU, a gwneud Prydain yn archbŵer ynni glân. 

Am y tro cyntaf o dan y llywodraeth newydd, bydd arweinwyr o Lywodraeth Cymru, busnesau, diwydiannau, prifysgolion ac undebau yn dod ynghyd i helpu i lywio ymdrechion Llywodraeth y DU i hybu twf, a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl.

Wrth gyhoeddi Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymru yng nghinio blynyddol CBI Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, y byddai’n “manteisio ar dalent, uchelgais a chreadigrwydd gorau Cymru”, gan alluogi ystod lawn o ddiwydiannau yng Nghymru i gyfrannu at genadaethau Llywodraeth y DU o ran twf economaidd ac ynni glân.

Bydd y grŵp hefyd yn gweithio gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru i lywio Strategaeth Ddiwydiannol newydd Llywodraeth y DU i roi hwb i ddiwydiannau allweddol Cymru, ac i lywio blaenoriaethau Cymru ar gyfer yr Adolygiad o Wariant nesaf. Mae disgwyl y ddau beth hyn yn ystod gwanwyn 2025.

Wedi’i gadeirio gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bydd y grŵp newydd yn cyfarfod am y tro cyntaf yng Nghaerdydd wythnos nesaf (2 Rhagfyr). 

Cyn cyfarfod cyntaf y grŵp, ymwelodd Ms Stevens â Wolf Studios Wales yng Nghaerdydd heddiw (28 Tachwedd) gan gyfarfod â sefydliadau blaenllaw o’r diwydiannau creadigol, un o sectorau twf Cymru, gan gynnwys Bad Wolf, Cloth Cat Animation, Ffilm Cymru a Cymru Greadigol.

Twf economaidd yw prif flaenoriaeth Llywodraeth y DU. Ers mis Gorffennaf, mae dros £1bn a channoedd o swyddi wedi cael eu creu ar gyfer gogledd Cymru, mae Parthau Buddsoddi a Bargeinion Twf Cymru wedi cael eu cadarnhau, mae bargen ddur well wedi cael ei chyhoeddi, sy’n sicrhau dyfodol y diwydiant yng Nghymru, ac mae’r setliad Cyllideb uchaf erioed wedi cael ei ddarparu i Lywodraeth Cymru i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus. 

Dywedodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Bydd fy Ngrŵp Ymgynghori Economaidd newydd yn manteisio ar dalent, uchelgais a chreadigrwydd Cymru i gyflwyno cyfnod newydd o ffyniant a thwf i’n cenedl.

Rydym yn creu partneriaeth newydd gyda busnesau, gweithwyr ac undebau i sbarduno twf a rhoi mwy o arian ym mhocedi pobl. Mae hyn yn golygu swyddi i chi, buddsoddiad yn eich milltir sgwâr, a chyfleoedd i’ch plant. 

Drwy weithio ochr yn ochr â Llywodraeth Cymru a’n harweinwyr diwydiant, byddwn yn ail-fwrw gwreiddiau diwydiannol balch Cymru drwy swyddi a diwydiannau’r dyfodol.” 

Bydd y Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd yn dechrau gyda chyfres o gyfarfodydd dros y chwe mis nesaf, wrth i Lywodraeth y DU ddatblygu ei blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd ac ynni glân.

Dywedodd Alison Orrells, Cadeirydd, CBI Cymru:

Rwy’n croesawu’r cyfle i rannu mewnwelediad ein haelodau ar y camau gweithredu sydd eu hangen i ddatgloi a sbarduno twf economaidd cynaliadwy ac adeiladu ffyniant mewn cymunedau ledled Cymru.

O fuddsoddiadau rhanbarthol a phrosiectau twf gwyrdd, megis y porthladdoedd rhydd, i glystyrau lled-ddargludyddion, gweithgynhyrchu a thechnoleg, cyflogwyr yn y sector gwasanaethau i weithlu medrus, mae busnesau Cymreig o bob maint a sector yn cael eu cynrychioli gan y CBI a gallant chwarae rhan hanfodol mewn galluogi’r llywodraeth i gyflawni ei chenhadaeth twf.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

Rydym yn croesawu’r cyfle i gymryd rhan yn y grŵp ymgynghori hwn i lunio’r weledigaeth ar gyfer twf economaidd, strategaeth ddiwydiannol ac ynni glân. Mae llawer o rannau Cymru wedi’u creithio gan ddad-ddiwydiannu a thanfuddsoddi, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â hyn. 

Bydd y cynlluniau hyn yn siapio dyfodol gweithwyr ledled Cymru, a byddwn yn hyrwyddo buddsoddiad mewn gweithgynhyrchu, gwaith o safon a thrawsnewid i net sero nad yw’n gadael unrhyw gymuned ar ei hôl hi.

Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Pennaeth Materion Cyhoeddus Airbus Group UK:

Rwy’n falch iawn o ymuno â Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymru ar adeg pan fo datgloi potensial y Cenhedloedd a’r Rhanbarthau wrth wraidd cenhadaeth y llywodraeth i sicrhau’r twf parhaus uchaf yn y G7.

Edrychaf ymlaen at ddarparu eiriolaeth gref ar yr ysgogiadau ar gyfer twf economaidd a sut y gall Cymru fanteisio ar ei chryfderau sectoraidd wrth fanteisio ar ddiwydiannau’r dyfodol.

Dywedodd Dr Jenifer Baxter, Prif Swyddog Gweithredol Diwydiant Cymru:

Mae Diwydiant Cymru’n edrych ymlaen at gydweithio ar lunio strategaeth ddiwydiannol sy’n manteisio ar gryfderau Cymru mewn gweithgynhyrchu gwerth uchel, ynni glân, technolegau meddygol a systemau trafnidiaeth i sbarduno arloesedd, cysylltedd digidol a thwf economaidd ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig.

Dywedodd Syr Derek Jones, Cynghorydd Annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chadeirydd Keolis UK:

Mae consensws clir erbyn hyn bod rhaid i dwf economaidd fod yn brif flaenoriaeth i’r Deyrnas Unedig, ac mae hynny’n sicr yn wir i Gymru. Felly, rwy’n croesawu menter yr Ysgrifennydd Gwladol yn sefydlu’r Grŵp ac yn edrych ymlaen at gyfrannu’n bersonol at y gwaith hollbwysig hwn.

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion

Mae aelodaeth gychwynnol Grŵp Ymgynghori Twf Economaidd Cymru yn cynnwys:

  • Alison Orrells, Cadeirydd, CBI Cymru
  • Dr Jenifer Baxter, Diwydiant Cymru 
  • Ben Francis, Cadeirydd Polisi Cymru, y Ffederasiwn Busnesau Bach 
  • Shavanah (Shav) Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru 
  • John-Paul (JP) Barker, Arweinydd y Gorllewin a Chymru, PwC 
  • Jessica Hooper, Cyfarwyddwr, RenewableUK Cymru 
  • Kevin Crofton, Cadeirydd, Creo Medical 
  • Oriel Petry, Uwch Is-lywydd, Airbus 
  • Yr Athro Paul Boyle, Prifysgolion Cymru
  • Sarah Williams-Gardner, Cadeirydd FinTech Wales
  • Syr Derek Jones, cynghorydd annibynnol ym Mhrifysgol Caerdydd ac aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth y Brenin yng Nghymru, Keolis UK ac IQE.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2024