Traddodiadau Cymreig i’w cydnabod yn ffurfiol wrth i’r DU ymuno â Chonfensiwn UNESCO
Bydd cymunedau ledled Cymru yn gallu enwebu eu hoff draddodiadau
- Annog y cyhoedd i gynnig traddodiadau a gynhelir dros yr Ŵyl - fel rasys Nos Galan a Mari Lwyd - i’w cydnabod yn ffurfiol ochr yn ochr â thraddodiadau eraill sydd wedi’u hen sefydlu fel rhan o ddiwylliant y DU.
- DU i gymeradwyo Confensiwn UNESCO dros Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol 2003.
- Ymgynghoriad wedi’i lansio i gyfarwyddo’r DU wrth greu cofrestr newydd o draddodiadau a werthfawrogir gan gymunedau ledled y wlad
Bydd cymunedau ledled Cymru yn gallu enwebu eu hoff draddodiadau i’w cynnwys mewn cofrestr newydd o dreftadaeth ddiwylliannol yn y DU.
Gallai traddodiadau poblogaidd a gynhelir dros yr Ŵyl - fel y rasys Nos Galan, canu carolau am 3 o’r gloch y bore a’r Mari Lwyd - gael eu cydnabod yn ffurfiol.
Gallai dathliadau tymhorol a gynhelir ar Ddydd Gŵyl Dewi, Sioe Frenhinol Cymru, Dydd Santes Dwynwen a’r traddodiad o gynnal Eisteddfodau - lle bo’r holl weithgareddau diwylliannol, gan gynnwys canu ac adrodd, yn cael eu cynnal yn y Gymraeg - hefyd gael eu cynnwys ar y gofrestr.
Disgwylir y bydd traddodiadau sy’n ganolog i’n diwylliant cenedlaethol, ein hunaniaeth a’n cymunedau - o’r Urdd i ganu’r delyn Gymreig a’r traddodiad barddonol Cerdd Dafod - hefyd yn cael eu henwebu i’w cynnwys ar y gofrestr swyddogol hon.
Gallai digwyddiadau modern fel cors-snorclo yn Llanwrtyd a’r Ŵyl Elvis enwog ym Mhorthcawl hefyd gael eu cofrestru ochr yn ochr â thraddodiadau mwy sefydlog fel canu mewn corau meibion.
Bydd crefftau artisan fel cerfio llechi, creu llwyau caru a’r grefft o wneud cacenni cri gyda gradell garreg, ynghyd ag ymarferwyr y traddodiadau hyn, hefyd yn cael eu hystyried.
Bydd y traddodiadau Cymreig a ddewisir yn eistedd ochr yn ochr â thraddodiadau gwerthfawr o weddill y DU, fel canu pibgod a dawnsio Ucheldirol traddodiadol yn Yr Alban i rowlio caws a’r grefft o blethu basgedi.
Daw’r ymgynghoriad hwn wrth i Lywodraeth y DU gadarnhau ei bwriad i gymeradwyo Confensiwn UNESCO dros Ddiogelu Treftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol 2003, sy’n anelu at ddiogelu crefftau, arferion a thraddodiadau a gydnabyddir fel bod yn rhan allweddol o fywyd cenedlaethol ac sy’n rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i gymunedau.
Gelwir yr arferion hyn yn ‘treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol’ neu ‘treftadaeth fyw’ ac maen nhw wedi’u hetifeddu gan ein hynafiaid ac yn cael eu trosglwyddo i’n disgynyddion.
Meddai’r Gweinidog Dros y Celfyddydau a Threftadaeth, Yr Arglwydd Parkinson o Fae Whitley:
Mae gan y DU lawer o draddodiadau sydd wedi’u trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall - ac mae cerddoriaeth a diwylliant Cymru yn cyfrannu’n sylweddol i gyfoeth diwylliannol y DU.
Mae’r crefftau, yr arferion a’r dathliadau hyn wedi helpu i siapio ein cymunedau a dod â phobl ynghyd ac yn parhau i siapio ein cymunedau.
Trwy gymeradwyo’r Confensiwn hwn, byddwn yn gallu dathlu traddodiadau gwerthfawr o bob cwr o’r wlad, gan gefnogi’r sawl sy’n eu hymarfer a sicrhau eu bod yn cael eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol eu mwynhau.
Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David TC Davies:
Mae gennym gymaint o draddodiadau ac arferion rhyfeddol yng Nghymru sy’n cyfrannu at wneud ein cenedl yn un unigryw, ac mae’n wych bod cymaint o’r rhain am gael eu cofnodi a’u cydnabod yn ffurfiol.
Mae’n bwysig ein bod yn cadw ac yn diogelu treftadaeth fyw, ynghyd â thirnodau a safleoedd treftadaeth, er mwyn eu trosglwyddo i genedlaethau’r dyfodol a chynnal ein diwylliant Cymreig arbennig.
Trwy gymeradwyo’r Confensiwn, bydd Llywodraeth y DU yn gallu cydnabod ein crefftau a’n traddodiadau pwysicaf, yn yr un modd ag ein Safleoedd Treftadaeth, fel Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, Cestyll a Muriau Trefi Edward I, Traphont Ddŵr a Chamlas Pontcysyllte a Thirwedd Diwydiannol Blaenafon.
Gall treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol ond cael ei hystyried felly pan fydd yn cael ei chydnabod gan y cymunedau, grwpiau neu unigolion sy’n ei chreu, ei chynnal a’i rhannu. Y grwpiau hyn, o bob cwr o Gymru, fydd yn cael enwebu eu hoff draddodiadau i gael eu cydnabod yn ffurfiol.
Bydd ymgynghoriad cyhoeddus sy’n cael ei lansio heddiw yn ceisio barn y cyhoedd ar ddull arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer gweithredu’r Confensiwn ledled y DU i ddiogelu traddodiadau gwerthfawr. Bydd hyn yn cynnwys y dull o ran sut bydd pobl yn gallu enwebu traddodiadau, sut byddant yn cael eu dyfarnu, ac unrhyw feini prawf y bydd rhaid i’r arferion a enwebir eu bodloni cyn y byddant yn cael eu hystyried.
Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio’n agos â’r Gweinyddiaethau Datganoledig, Tiriogaethau Dibynnol Y Goron a’r Tiriogaethau Tramor wrth geisio dod i benderfyniad, a bydd yn parhau i wneud hynny er mwyn gweithredu’r Confensiwn a choladu cofrestr sy’n cynnwys y DU yn ei chyfanrwydd. Disgwylir y bydd y broses enwebu yn lansio yn y flwyddyn nesaf.