Stori newyddion

San Steffan yn croesawu'r gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig

Bydd ASau yn cael y cyfle i siarad Cymraeg mewn dadleuon seneddol ym Mhalas San Steffan eleni am y tro cyntaf erioed.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2016 to 2019 May Conservative government
Westminster and Daffodils

Westminster and daffodils / San Steffan a cennin Pedr

Wrth ymateb i adroddiad Pwyllgor Gweithdrefnau Tŷ’r Cyffredin ar y mater, cadarnhaodd Llywodraeth y DU y byddai’n cyflwyno cynnig yn y Llywodraeth a fydd yn galluogi ASau i siarad yn Gymraeg pan fydd yr Uwch Bwyllgor Cymreig yn cyfarfod yn San Steffan.

Yr unig adeg mae gan ASau hawl i siarad Cymraeg yng ngweithgareddau’r Senedd yn San Steffan yw pan fydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig yn casglu tystiolaeth.

Mae cynnal gweithgareddau’r Uwch Bwyllgor Cymreig yn ddwyieithog yn golygu y bydd modd defnyddio’r Gymraeg mewn dadleuon byr, wrth graffu ar ddeddfwriaeth ac wrth holi gweinidogion yn San Steffan am y tro cyntaf erioed.

Dywedodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin, David Lidington:

Mae ASau yn chwarae rôl hanfodol drwy sicrhau bod lleisiau eu hetholwyr yn cael eu clywed yn Nhŷ’r Cyffredin.

Ledled Whitehall, mae gweinidogion Llywodraeth y DU yn gwrando ac yn ymateb, fel rydym ni’n ei wneud trwy hybu’r iaith Gymraeg yn Senedd a’i chyfraniad tuag at amrywiaeth ddiwylliannol yn y Deyrnas Unedig.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Rydw i wrth fy modd y bydd ASau yn medru cyfrannu trwy gyfrwng y Gymraeg yn yr Uwch Bwyllgor Cymreig am y tro cyntaf yn San Steffan.

Mae’n hanfodol bwysig fod pobl Cymru yn gallu gwrando ar ddadleuon yn y ddwy iaith.

Rwy’n gobeithio y bydd yr ASau sy’n gallu siarad Cymraeg yn gwneud defnydd o’r gwasanaeth hwn er mwyn helpu i hybu’r Gymraeg yn y Senedd.

Bydd cost y gwasanaeth cyfieithu, gan gynnwys y cyfieithwyr a’r clustffonau, yn dod allan o gyllideb bresennol y Senedd, sy’n golygu na fydd y newidiadau hyn yn dod ar gost ychwanegol i’r trethdalwyr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 22 Chwefror 2017