Cydweithio i wneud y gorau o fanteision Uwchgynhadledd NATO
David Jones a Carwyn Jones yn pwysleisio'r pwysigrwydd o gydweithio ar Uwchgynhadledd NATO.
Mae Prif Weinidog, Carwyn Jones ac yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru, David Jones wedi pwysleisio pa mor bwysig yw hi i lywodraeth y DU a Chymru gydweithio ar Uwchgynhadledd NATO lwyddiannus yng Nghymru, a hynny yn ystod ymweliad ar y cyd â llong ddistryw y Llynges Frenhinol, HMS Dragon.
Yn ystod y daith o amgylch y llong ryfel, sydd yng Nghaerdydd er mwyn rhoi Rhyddfraint y Ddinas i griw’r llong, tynnodd y Gweinidogion sylw at ba mor amserol y mae’r ymweliad o ran codi ymwybyddiaeth am Uwchgynhadledd NATO sydd ar y gorwel ym mis Medi.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol David Jones AS:
Yn Uwchgynhadledd NATO, bydd yr ymgynulliad mwyaf erioed o arweinwyr y byd yn y Deyrnas Unedig. Mae’n gyfle digynsail i Gymru ddisgleirio ar lefel fyd-eang. Mae gan fusnesau a sefydliadau academaidd Cymru gryfderau o ran gweithgynhyrchu, arloesi, gwyddorau bywyd, TG ac awyrofod, ac maen nhw’n dechrau mewn marchnadoedd newydd bob blwyddyn.
Mae potensial aruthrol yng Nghymru ar gyfer buddsoddiad a busnes, twristiaeth ac astudio. Bydd yr Uwchgynhadledd yn rhoi sylw rhyngwladol fel nas gwelwyd erioed o’r blaen i hyrwyddo’r potensial hwn, ac mae angen i ni wneud y gorau o hyn.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones:
Uwchgynhadledd NATO yng Nghasnewydd fydd y digwyddiad rhyngwladol mwyaf erioed i’w gynnal yng Nghymru. Bydd cyfryngau’r byd yn hoelio’u sylw ar Gymru dros nifer o ddiwrnodau, gan roi’r fath o sylw byd-eang nad ydyn ni erioed wedi’i gael o’r blaen. Mae’n llywodraethau yn benderfynol o wneud y gorau o hyn. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi lliw Cymreig penodol i’r Uwchgynhadledd a thargedu’r cannoedd o newyddiadurwyr a fydd yn dod i Gymru ym mis Medi.
Yn ystod yr ymweliad heddiw â’r Llong Ddistryw Math-45, un o longau rhyfel mwyaf modern y Llynges Frenhinol, tywyswyd y Gweinidogion gan y Capten Rex Cox a chyfarfu’r ddau ag aelodau o’r criw o Gymru.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
Mae ymweliad HMS Dragon â Chaerdydd yn atgyfnerthu’r cysylltiadau cryf rhwng pobl Cymru a’n Lluoedd Arfog. Mae porthladdoedd Cymru yn croesawu llongau’r llynges yn rheolaidd. Mae HMS Pembroke ar ymweliad â Phenfro ar hyn o bryd, tref sy’n bodoli diolch i’r Llynges Frenhinol, i helpu i ddathlu ei daucanmlwyddiant.
Cynhelir Uwchgynhadledd NATO ar 4 a 5 Medi 2014 yng Ngwesty’r Celtic Manor, ac mae Llywodraeth y DU wrthi’n ei threfnu ar ran NATO.
Updates to this page
Cyhoeddwyd ar 15 Mai 2014Diweddarwyd ddiwethaf ar 15 Mai 2014 + show all updates
-
First published.