Cynllun cyhoeddi

Mae cynllun cyhoeddi yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yn dangos y wybodaeth sydd ar gael i'r cyhoedd am y ffordd y mae APHA yn gweithredu ac yn egluro sut i gael gafael ar y wybodaeth honno.


Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (FOI) yn ei gwneud yn ofynnol i ni ddweud wrth aelodau o’r cyhoedd ble y gallant ddod o hyd i wybodaeth sy’n cael ei rhyddhau’n rheolaidd.

Mae ein cynllun cyhoeddi yn bodloni gofynion y Comisiynydd Gwybodaeth fel y’u nodwyd yn y Cynllun Cyhoeddi Enghreifftiol.

Rydym yn cyhoeddi’r rhan fwyaf o wybodaeth APHA ar y wefan hon (GOV.UK), a gellir dod o hyd i ddogfennau penodol drwy wneud chwiliad am gyhoeddiad.

Os na chaiff y wybodaeth rydych am ei chael ei chyhoeddi’n rheolaidd, gallwch wneud cais amdani o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR). Gweler manylion am sut i wneud cais am wybodaeth a manylion cyswllt APHA.

Ffioedd am gyhoeddiadau

Gallwch lawrlwytho cyhoeddiadau APHA o GOV.UK am ddim.

Gallwch hefyd ofyn am allbrint unigol o unrhyw un o gyhoeddiadau APHA am ddim. Gellir codi tâl am fwy nag un allbrint, neu am gopïau o ddogfennau wedi’u harchifo nad ydynt ar gael ar GOV.UK er mwyn talu am gostau llungopïo a phostio. Byddwn yn rhoi manylion am y costau pan fyddwch yn gwneud y cais. Rhaid i chi dalu unrhyw gostau i APHA ymlaen llaw.

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth, lleoliadau a manylion cyswllt sefydliadol, yn ogystal â gwybodaeth gyfansoddiadol a gwybodaeth am lywodraethu cyfreithiol gan gynnwys:

Ein gwariant a sut rydym yn ei wario

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth ariannol am incwm rhagamcanol a gwirioneddol a hefyd am wariant, tendrau, caffael a chontractau gan gynnwys:

Ein blaenoriaethau a’n perfformiad

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am strategaeth a pherfformiad, yn ogystal â chynlluniau, asesiadau, archwiliadau ac adolygiadau gan gynnwys ein strategaeth wyddonol

Ein ffordd o wneud penderfyniadau

Rydym yn cyhoeddi cynigion polisi, prosesau gwneud penderfyniadau, meini prawf a gweithdrefnau mewnol ac ymgyngoriadau ar ein tudalen papurau polisi ac ymgyngoriadau.

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Rydym yn cyhoeddi protocolau ysgrifenedig am gyflawni ein swyddogaethau a’n cyfrifoldebau ar ein tudalen papurau polisi ac ymgyngoriadau gan gynnwys:

Rhestrau a chofrestrau

Rydym yn cyhoeddi rhestrau a chofrestrau o safleoedd a gymeradwywyd gan APHA sy’n ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, yn ogystal â gwybodaeth am blanhigion a hadau gan gynnwys:

Ein gwasanaethau

Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am y gwasanaethau rydym yn eu darparu a’r hyn y dylech ei wneud i ofyn am y gwasanaethau hyn. Lle y bo’n briodol, mae canllawiau hefyd ar gael ar gydymffurfiaeth gyfreithiol. Dyma rai enghreifftiau:

Cyhoeddiadau

Gallwch ddod o hyd i lawer o gyhoeddiadau APHA ar ein tudalen cyhoeddiadau corfforaethol a’n tudalen ymchwil ac ystadegau gan gynnwys:

Gallwch ddod o hyd i ragor o gyhoeddiadau ar dudalen Data Agored data.gov.uk gan gynnwys gwybodaeth am geisiadau am wybodaeth o dan FOI neu EIR – (ystadegau).

Gallwch hefyd weld deunydd a gyhoeddwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol ar dudalennau eraill ar GOV.UK neu drwy wefan yr Archifau Cenedlaethol.

Gwneud cais am wybodaeth

Rydym am sicrhau bod ein cynllun cyhoeddi yn diwallu anghenion ein cwsmeriaid a’n rhanddeiliaid.

If you’ve a comment or query on the scheme, or want to request information, send to:Os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwestiynau am y cynllun, neu os ydych am wneud cais am wybodaeth, dylech ysgrifennu at:

ATI Enquiries Manager
Animal and Plant Health Agency
Woodham Lane
New Haw
Addlestone
Surrey, KT15 3NB

Neu anfonwch neges e-bost i: [email protected]

Hawlfraint

Mae’r wybodaeth a roddir i chi wedi’i diogelu gan Hawlfraint y Goron, ac mae’r cynnwys ar gael o dan y Drwydded Llywodraeth Agored f3.0, oni nodir fel arall.

I gael gwybodaeth am y Drwydded Llywodraeth Agored ac am ailddefnyddio gwybodaeth â Hawlfraint y Goron, gweler gwefan yr Archifau Cenedlaethol.