Ymchwil yn APHA

Rydym yn cyflawni gweithgareddau ymchwil a gwyliadwriaeth mewn perthynas ag ystod o glefydau bacterol, feirysol a pharasitig sy'n effeithio ar blanhigion ac anifeiliaid, gan gynnwys bywyd gwyllt.


Mae llawer o weithgarwch gwyddonol APHA yn canolbwyntio ar ddiogelu’r DU rhag bygythiad ac effaith amrywiaeth eang o glefydau planhigion ac anifeiliaid a gwrthdrawiadau rhywogaethau eraill. Mae llawer o’r clefydau hyn yn rhai milheintiol sy’n golygu bod yr haint yn cael ei drosglwyddo o anifeiliaid i bobl.

Ymchwil wyddonol

Mae ein gwaith ymchwil yn darparu tystiolaeth wyddonol sy’n ein galluogi i roi cyngor arbenigol ac mae’n sail i waith datblygu polisi gan y llywodraeth, gweinyddiaethau datganoledig, yr Undeb Ewropeaidd, Awdurdod Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, Cymdeithas Iechyd Anifeiliaid y Byd a Sefydliad Iechyd y Byd am ein bod yn ganolfan gyfeirio ryngwladol ar gyfer ystod eang o glefydau.

Mae staff o APHA hefyd yn gweithio gydag academia, diwydiant, ffermwyr, milfeddygon a rheolwyr yn y maes ac yn cynnal gweithgareddau gwyliadwriaeth er mwyn canfod ac ymateb i glefydau egsotig, ac er mwyn nodi ac asesu clefydau newydd, a rhai sy’n dod i’r amlwg, mewn da byw ac mewn bywyd gwyllt. Gweler Porth Milfeddygon APHA i gael rhagor o wybodaeth am ein harbenigedd a’n gweithgareddau gwyliadwriaeth.

Mae’r asiantaeth yn gwneud ystod eang o waith ymchwil ar amrywiaeth o glefydau sy’n effeithio ar blanhigion, anifeiliaid a bywyd gwyllt gan gynnwys pathogenau sy’n dod i’r amlwg, clefydau feirysol endemig ac egsotig, TB buchol, bacteria a gludir mewn bwyd ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.

Mae prif feysydd ein gwaith ymchwil yn cynnwys y canlynol:

  • twbercwlosis buchol a datblygu brechlynnau a phrofion diagnostig ar gyfer gwartheg
  • clefydau bacterol a diogelwch bwyd gan gynnwys bacteria a gludir mewn bwyd megis Salmonela, campylobacter ac E.coli, pathogenau bacterol megis Brwsela a Mycoplasma, ac ymwrthedd gwrthficrobaidd
  • clefydau feirysol gan gynnwys feirysau adar a mamalaidd megis clefyd Newcastle, y ffliw a chlefyd clasurol y moch, feirysau milheintiol a feirysau bywyd gwyllt megis y gynddaredd a chlefydau a gludir gan fectorau
  • enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy
  • rheoli bywyd gwyllt gan gynnwys clefydau bywyd gwyllt, rhywogaethau estron goresgynnol, datblygu dulliau ac achosion o wrthdaro rhwng pobl a bywyd gwyllt

Y strategaeth wyddoniaeth ac adolygu

Mae ein strategaeth wyddoniaeth, 2021 i 2026 yn amlinellu sut mae gwyddoniaeth wedi’i gwreiddio ym mhob rhan o APHA ac yn nodi ei bod yn sail i’r dystiolaeth a’r cyngor arbenigol a roddir i gwsmeriaid polisi, diwydiant a rhanddeiliaid wrth godi ymwybyddiaeth o fygythiadau, eu diffinio a’u lliniaru.

Gwyddoniaeth ryngwladol

Cafodd y Rhaglen Ddatblygu Ryngwladol ei sefydlu yn 2018 er mwyn ymateb i risgiau a chyfleoedd Brexit a datblygu strategaethau ymgysylltu newydd ar lefel ryngwladol i gefnogi cytundebau masnach byd-eang y DU yn y dyfodol. Fel rhan o’r gwaith, mae nifer o feysydd polisi â blaenoriaeth wedi cael eu hadolygu, gan gynnwys trefniadau masnach a ffiniau, cyflenwyr brechlynnau, ac mae canolfannau labordy cyfeirio rhyngwladol newydd wedi cael eu sefydlu.

Mae APHA wedi ennill enw da ers tro fel un o’r canolfannau arbenigol gorau yn y byd o ran gwyddor filfeddygol a chaiff hyn ei gadarnhau gan ein statws fel National and International Reference Laboratory (PDF, 482 KB, 1 page) ar gyfer ystod eang o glefydau heintus ac anheintus mewn anifeiliaid. Mae’r asiantaeth yn darparu gwasanaeth ymgynghori milfeddygol a gwyddonol i wledydd ledled y byd gan gynnig:

  • profion cadarnhau
  • hyfforddiant technegol ac ymgynghoriaeth arbenigol
  • datblygu a safoni dulliau diagnostig er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben i ganfod mathau newydd o bathogenau

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith datblygu rhyngwladol, cysylltwch â [email protected].

Rhagor o wybodaeth

Labordy Cyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Trichinella ac Echinococcus

Mae Labordy Cyfeirio Cenedlaethol y DU ar gyfer Trichinella ac Echinococcus yn gyfrifol am y canlynol:

  • profion diagnostig ar gyfer moch a baeddod gwyllt i ganfod y parasit milheintiol Trichinella sp.
  • ymarfer gwyliadwriaeth blynyddol y DU ar gyfer y parasit Echinococcus multilocularis

Cafodd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ei dynodi’n gyfrifol am gynnal safonau profion Trichinella yn y DU gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Caiff hyn ei ddisgrifio yn ‘Magnetic stirrer method for pooled sample digestion’ yn Atodiad 1, Pennod 1 o Reoliadau a Ddargedwir 2015/1375.

Darllenwch fwy am y National Reference Laboratory for Trichinella and Echinococcus (PDF, 159 KB, 3 pages).

Adroddiadau

Mae APHA yn llunio adroddiadau blynyddol ar gyfer y Labordy Cyfeirio Cenedlaethol ar gyfer Trichinella ac Echinococcus.

Mae APHA hefyd yn darparu gwybodaeth i gefnogi labordai hylendid cig, gan gynnwys newyddion a gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer dulliau profi.

Cysylltu

National Reference Laboratory for Trichinella and Echinococcus
Animal and Plant Health Agency
York Biotech Campus
York
YO41 1LZ
E-bost: [email protected]

Blog gwyddoniaeth

Darllenwch flog Gwyddoniaeth APHA i ddysgu mwy am ein gwaith gwyddonol a’n gwaith ymchwil yn APHA. Gallwch hefyd gofrestru i gael diweddariadau e-bost bob tro y caiff y blog ei ddiweddaru.

Papurau gwyddonol

Papurau gwyddonol a gyhoeddir gan APHA

Cysylltu

Os bydd gennych ymholiad ynglŷn â’n gwaith ymchwil neu ein labordy cyfeirio, anfonwch e-bost i [email protected].

Gwasanaethau masnachol

Mae Adran Wyddonol APHA yn cynnig ystod o wasanaethau a chynhyrchion gwyddonol masnachol i gwsmeriaid y tu allan i’r llywodraeth.

Mae manylion llawn ar gael ar dudalennau gwe Adran Wyddonol APHA.

Pwyllgor Moeseg

Er mwyn i APHA gyflawni ei chenhadaeth o “ddiogelu iechyd anifeiliaid a phlanhigion er budd pobl, yr amgylchedd a’r economi” bydd angen gwneud gwaith ymchwil gwyddonol i’r clefydau sy’n effeithio ar hyn.

Mae rhan o’r gwaith ymchwil yn cynnwys defnyddio anifeiliaid. Er mwyn gwneud hyn, mae APHA yn cydymffurfio â Deddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986. Mae ganddi hefyd god ymarfer, gweithdrefnau a rhaglenni hyfforddiant i ddiffinio a gorfodi’r safonau uchel y mae’n rhaid i’r asiantaeth ymgyrraedd atynt ar gyfer y math hwn o waith.

Mae gan APHA ei Phwyllgor Moeseg ei hun ac y mae’n rhaid iddo adolygu a chymeradwyo pob arbrawf sy’n cynnwys defnyddio anifeiliaid at ddiben gwyddonol cyn eu dechrau. Ymhlith yr aelodau mae milfeddygon, staff gofalu am anifeiliaid, bioystadegwr, gwyddonwyr ac unigolion nad ydynt yn wyddonwyr o’r asiantaeth gyfan. Mae hefyd aelodau lleyg allanol o’r pwyllgor, a recriwtiwyd o’r gymuned leol, sy’n dod â safbwynt annibynnol i’r gweithrediadau.

Mae’r Pwyllgor Moeseg yn sicrhau bod y 3 cham (3 Rs*) wedi’u cymhwyso at y cynnig astudio:

  • cyfnewid – os gellir defnyddio arbrawf amgen sy’n ymwneud â rhywbeth anfyw yn lle arbrawf ar anifeiliaid yna mae’n rhaid gwneud hynny

  • lleihau – mae’n rhaid defnyddio’r nifer lleiaf o anifeiliaid ag sy’n gyson â chynhyrchu canlyniadau ystyrlon

  • mireinio – mae’n rhaid i bob agwedd ar ofalu am anifeiliaid a’u defnyddio o ddechrau hyd at ddiwedd yr astudiaeth gael ei dylunio i leihau’r effaith ar les yr anifeiliaid

Ar ôl y cam hwn, mae pob astudiaeth arfaethedig yna’n ddarostyngedig i ddadansoddiad o niwed-budd, pan gaiff y niwed a achosir ei gymharu â buddiannau posibl y gwaith. Dim ond pan fydd y buddiannau posibl yn fwy na’r niwed y caiff prosiect ei gyfiawnhau a dim ond bryd hynny y bydd APHA yn cynnal astudiaethau’n defnyddio anifeiliaid

Mae’r Pwyllgor Moeseg a’r rhai hynny sy’n cymryd rhan yn y gwaith hefyd yn cwblhau dadansoddiadau ôl-weithredol o’r arbrofion er mwyn sicrhau y caiff y buddiannau eu cyflawni, ac er mwyn gwella’r gwaith o fireinio arbrofion yn barhaus.

Mae APHA wedi llofnodi’r Concordat ar Dryloywder ynghylch Ymchwil Anifeiliaid - Deall Ymchwil Anifeiliaid.

Darllenwch am ddefnydd APHA o anifeiliaid o dan y Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol)(ASPA).

*Russell W M S a Burch R L (1959) The Principles of Humane Experimental Technique. Methuen: Llundain.

Dangosfyrddau ymchwiliadau i glefydau anifeiliaid hysbysadwy

Mae dangosfyrddau ymchwiliadau i glefydau anifeiliaid hysbysadwy yn crynhoi nifer yr ymchwiliadau y mae APHA wedi’u cyflawni ar gyfer clefydau anifeiliaid hysbysadwy egsotig.

Mae’r prif ddangosfwrdd yn dangos data am bob ymchwiliad a gwblhawyd, tra bod y dangosfyrddau sy’n benodol i rywogaeth (gwartheg, defaid, geifr a dofednod) yn dangos yr ymchwiliadau hyn yn fanylach.

Edrychwch ar ddangosfyrddau ymchwiliadau i glefydau anifeiliaid hysbysadwy APHA.

Os bydd gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r dangosfwrdd, anfonwch e-bost i [email protected].

Dysgwch fwy am glefydau hysbysadwy mewn anifeiliaid.