Gweithdrefn gwyno
Gwneud cwyn amdanom ni.
Y broses gwynion
Mae 3 cham i’n proses gwyno:
-
Y tîm neu ein canolfan gyswllt.
-
Ymateb gan y tîm gwasanaeth cwsmer.
-
Uwchgyfeirio i’r pennaeth darparu gwasanaethau
Pa gwynion y gallwn ni helpu gyda
Mae’r broses hon yn ymdrin â chwynion am:
- cywirdeb y wybodaeth ar y gofrestr gwmnïau
- lefel y gwasanaeth yr ydym wedi’i ddarparu
Mae gweithdrefnau ar wahân os ydych eisiau:
- cwyno am gwmni cyfyngedig
- rhoi gwybod am dwyll ynghylch cwmni
Nid ydym yn delio â chwynion hawliau defnyddwyr am nwyddau neu wasanaethau.
Sut i gwyno am Dŷ’r Cwmnïau
E-bost [email protected].
Mae’n rhaid i chi:
- esbonio’r broblem
- rhoi cymaint o wybodaeth ag y gallwch
- dywedwch wrthym beth rydych am i ddigwydd
Beth sy’n digwydd nesaf
Bydd aelod o Dŷ’r Cwmnïau yn ymateb, yn ysgrifenedig neu dros y ffôn o fewn 10 diwrnod gwaith.
Os na allwn roi ymateb llawn yn y cyfnod hwn, byddwn yn dweud wrthych beth rydym yn ei wneud a phryd y gallwch ddisgwyl ateb llawn. Gallai hyn ddigwydd os oes angen ymchwiliad manylach ar eich cwyn. Byddwn yn rhoi enw cyswllt a rhif cyfeirnod cwyn.
Os nad ydych yn fodlon
Gofynnwch i ni adolygu eich cwyn ar gam nesaf y broses.
Bydd ein tîm gwasanaeth cwsmer yn adolygu eich cwyn ac ymateb.
Mewn rhai sefyllfaoedd, efallai na fyddwn yn gallu eich helpu. Er enghraifft, efallai dyma le nad ydych yn hapus am ofyniad cyfreithiol ac ni fydd uwchgyfeirio yn newid y canlyniad.
Yng ngham 3, bydd y pennaeth darparu gwasanaethau yn ymateb.
Dyma’r cam olaf ac mae’n cwblhau ein proses gwynion mewnol.
Os na fydd eich cwyn yn cael ei datrys, gallwch ofyn i ni gyfeirio eich cwyn at y dyfarnwyr cwyn annibynnol. Mae’n rhaid i chi orffen y broses gwynion mewnol cyn y gallwch ofyn am wneud hyn.
Gall ein tîm gwasanaeth cwsmer gyfeirio eich cwyn. Byddwn yn dweud wrthych am hyn yn fanylach os byddwch yn cyrraedd y cam hwn.
Dyfarnwyr cwynion annibynnol
Mae’r dyfarnwyr ond yn ymchwilio i gwynion am:
- lefel gwasanaeth
- camgymeriadau
- y ffordd rydym wedi ymdrin â’n cwynion
Rhaid i’ch cwyn fod yn llai na 6 mis oed.
Rhagor o wybodaeth am y dyfarnwyr annibynnol.
Os nad ydych yn hapus â phenderfyniad y dyfarnwr, gallwch ofyn i’ch Aelod Seneddol fynd â’ch cwyn i’r Ombwdsmon Seneddol a’r Gwasanaeth Iechyd.