Ystadegau yn Tŷ'r Cwmnïau

Mae Tŷ’r Cwmnïau’n cyhoeddi ystadegau yn chwarterol, pob chwe mis ac yn flynyddol ar weithgarwch y gofrestr cwmnïau, maint y gofrestr, a chosbau ffeilio hwyr.


Yr ystadegau diweddaraf

Gallwch ddarllen ein hystadegau diweddaraf neu gael gwybod pryd rydym yn bwriadu cyhoeddi datganiadau ystadegau yn y dyfodol.

Gellir dod o hyd i ystadegau a gyhoeddwyd cyn Awst 2014 ar wefan Yr Archifau Gwladol .

Cyhoeddiadau

Cwmnïau corfforedig yn y Deyrnas Unedig

Mae ein cyhoeddiad Cwmnïau corfforedig yn y Deyrnas Unedig yn rhoi ystadegau ar gorfforiadau a diddymiadau cwmnïau a maint cyfan a maint effeithiol cofrestri pob cwmni, cwmnïau cyhoeddus a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig.

Mae hefyd yn rhoi ystadegau ar ymddatodiadau a mathau eraill o ansolfedd. Roedd y cyhoeddiad hwn yn cael ei ryddhau bob mis hyd fis Gorffennaf 2016. Erbyn hyn mae’n cael ei gyhoeddi bob chwarter, ac mae’r ystadegau ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2016 yn cael eu cyhoeddi ym mis Hydref 2016.

Gweithgareddau’r Gofrestr Cwmnïau

Mae Gweithgareddau’r Gofrestr Cwmnïau yn rhoi ffigurau blynyddol ar gyfer corfforiadau, diddymiadau a maint cyfan a maint effeithiol y gofrestr. Mae hefyd yn rhoi gwybodaeth am oed cyfartalog cwmnïau ar y gofrestr ac oed cyfartalog cwmnïau sy’n ymddatod / cael eu diddymu, yn ogystal ag am gyrff corfforaethol tramor sydd â phresenoldeb yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ystadegau’n cwmpasu’r cyfnod o 1 Ebrill i 31 Mawrth a chaiff yr adroddiad ei gyhoeddi bob blwyddyn yn yr haf ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

Ystadegau Cosbau Ffeilio Hwyr

Adroddiad ystadegol ar gosbau ffeilio hwyr a osodwyd ac apeliadau a ddaeth i law ar gyfer cwmnïau preifat, cwmnïau cyfyngedig cyhoeddus a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig. Caiff yr adroddiad hwn ei gyhoeddi bob chwe mis ac mae’r ystadegau’n cwmpasu’r cyfnodau Ebrill i Fedi a Hydref i Fawrth.

Diffiniadau i gyd-fynd â chyhoeddiadau ystadegau swyddogol

Gallwch weld diffiniadau o’r prif dermau a ddefnyddir yng nghyhoeddiadau ystadegau swyddogol Tŷ’r Cwmnïau yn Ystadegau swyddogol Tŷ’r Cwmnïau: dogfen diffiniadau sy’n cyd-fynd â’r datganiadau ystadegau. Mae’r ddogfen hon ar gael yn Saesneg yn unig.

Gwybodaeth am ansawdd ein hystadegau swyddogol

Mae ein dogfen gwybodaeth am ansawdd ystadegau swyddogol yn galluogi defnyddwyr i farnu a yw’r data o ansawdd digonol neu beidio ar gyfer eu defnydd a fwriedir

Cysylltu â ni ynghylch ystadegau

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau am ein datganiadau ystadegau ar [email protected].