Ein defnydd o ynni
Rydym yn cyhoeddi gwybodaeth am faint o ynni mae ein pencadlys yn ei ddefnyddio i wneud ein gweithrediadau a gwariant yn fwy tryloyw.
Defnydd o ynni
Rydym yn cyhoeddi data defnydd o ynni ar gyfer ein pencadlys – Caxton House. Mae’n adeilad modern, wedi’i aerdymheru yn Tothill Street, London, SW1H 9NA.
Enillodd yr Adran Gwaith a Phensiynau Gystadleuaeth Llywodraeth Gwyrddach Rhif 10 gyda gostyngiad o 22% mewn allyriadau nwyon tŷ gwydr yn Caxton House rhwng mis Medi a mis Hydref 2010.