Ymchwil yn DWP
Defnyddir ein hymchwil i ddeall, datblygu, gweithredu, monitro a gwerthuso ein polisïau a'n gwasanaethau.
Rydym yn cynnal ymchwil cymdeithasol gwrthrychol, dibynadwy, amserol a pherthnasol, gan ddefnyddio’r ystod lawn o ddulliau ansoddol a mesurol. Mae ein dadansoddwyr yn gweithio’n hyblyg mewn timau amlddisgyblaethol ar draws yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Maent yn gweithio o fewn timau polisi a thimau dadansoddol ehangach i ddatblygu ein sylfaen dystiolaeth a darparu dadansoddiad sy’n cefnogi ein polisïau a’n prosiectau.
Er mwyn gwneud ein hanghenion tystiolaeth yn dryloyw, ym 2023 cyhoeddwyd Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil DWP sy’n crynhoi’r cwestiynau ymchwil pwysicaf rydym yn eu hwynebu dros y 5 i 10 mlynedd nesaf. Mae’r cyhoeddiad yn codi ymwybyddiaeth ac yn creu llwyfan ar gyfer mwy o ymgysylltiad a chydweithio â chymunedau ymchwil allanol.
Cysylltiadau â’r gymuned ymchwil
Mae cyhoeddiad Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil DWP yn dangos ein hymrwymiad i weithio ar draws cymunedau ymchwil. Rydym yn cadw mewn cysylltiad ag ymchwilwyr eraill sy’n gweithio ar bensiynau, anabledd a chyflogaeth. Rydym hefyd yn cadw cysylltiadau agos â chyrff cyllido eraill, gan gynnwys Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol a Sefydliad Joseph Rowntree sef prif arianwyr ymchwil nawdd cymdeithasol eraill.
Mae gennym gysylltiadau gwaith da gyda’r prif sefydliadau ymchwil annibynnol a’r gymuned ymchwil academaidd. Mae ein hymchwilwyr yn rhan o’r Gwasanaeth Ymchwil Cymdeithasol y Llywodraeth. Mae ein hymchwilwyr cymdeithasol yn cydweithio â chydweithwyr ar draws DWP, ac yn allanol, i sicrhau bod tystiolaeth ac ymchwil wedi’u hymgorffori yn yr argymhellion ar gyfer opsiynau polisi a chyflwyno yn y dyfodol.
Rydym yn cydweithio’n allanol drwy:
- cysylltu ar brosiectau academaidd unigol, er enghraifft trwy eistedd ar grwpiau cynghori
- defnyddio, ac mewn rhai achosion, gyfrannu at arolygon allanol mawr megis Deall y Gymdeithas
- gweithio gyda’r Rhwydwaith Beth sy’n Gweithio, i wella sut rydym yn creu, rhannu a defnyddio tystiolaeth o ansawdd uchel i lywio gwneud penderfyniadau
Cyhoeddiadau ymchwil a dadansoddi
Mae ein cyhoeddiadau ymchwil a dadansoddi o 2010 yn Cyhoeddiadau: Ymchwil a dadansoddiad. Gallwch ychwanegu geiriau allweddol a hidlwyr eraill i fireinio’r canlyniadau chwilio.
Mae ein cyhoeddiadau ymchwil hefyd wedi’u rhestru yn y casgliadau hyn:
- dadansoddiadau ad hoc
- ymchwil ad hoc o 2010 ymlaen
- dadansoddiad ad hoc o wariant budd-dal
- tablau gwariant budd-dal a llwyth achosion
- adroddiadau ymchwil o 2010 ymlaen
Rydym hefyd yn cyhoeddi [ymchwil cyfathrebu a mewnwelediad i gwsmeriaid.
Cyhoeddiadau ymchwil hŷn
Gallwch ddod o hyd i gyhoeddiadau ymchwil hŷn ar wefan Yr Archifdy Cenedlaethol.
Ymchwil sydd ar y gweill
Darllenwch ein rhestr o gyhoeddiadau ymchwil sydd ar y gweill.
Cytundebau ymchwil
Comisiynir ein hymchwil allanol trwy gystadleuaeth agored gan Gwasanaeth Masnachol y Goron. Gallwch ddod o hyd i restr o gytundebau ymchwil presennol ar Contracts Finder.
Am fwy o wybodaeth a chyngor am gytundebau ymchwil, e-bostiwch [email protected].
Canllaw arddull adroddiadau ymchwil DWP
Dylai awduron sy’n cynhyrchu adroddiadau ymchwil ar gyfer yr adran ddarllen ein canllaw arddull adroddiadau ymchwil DWP.
Cyhoeddiadau eraill
Rydym hefyd yn cynhyrchu ystadegau ac yn cyfrannu i asesiadau effaith.
Manylion cyswllt
Ymholiadau | Cyswllt |
---|---|
Tîm strategaeth tystiolaeth | [email protected] |
Rhagolygon, tueddiadau ac amcanestyniadau | [email protected] |
Tîm ymchwil cymdeithasol | [email protected] |