Ein defnydd o ynni
Sut mae’r DVLA yn gweithio i fonitro a lleihau traul ynni, costau ac allyriadau carbon.
Mae gennym 3 safle ar draws Abertawe sy’n defnyddio tua 33 awr gigawat o nwy a 13.5 awr gigawat o drydan pob blwyddyn. Daw’r rhan fwyaf o’r defnydd ynni o’n prif safle lle mae tua 5,000 o bobl yn gweithio a lle mae ein cyfleusterau argraffu mawr wedi’u lleoli.
Cynhyrchir rhai o’n hanghenion trydan gan 2 beiriant Gwres a Phŵer Cyfunol (GPhC). Rydym yn dal y gwres a gynhyrchwyd dros ben, a’i ddefnyddio i wresogi neu oeri fel bo’r angen, ac felly’n gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o’r ynni a gynhyrchwyd. Mae’r defnydd o’r peiriannau (GPhC) yn ein helpu i leihau ein dibyniaeth ar y grid ac felly’n lleihau ein hallyriadau carbon o ddefnyddio trydan.
Mae’r ynni rydym yn ei ddefnyddio wrth deithio ar gyfer busnes hefyd yn rhan o’n strategaeth leihau carbon. Yn bresennol, rydym yn teithio tua 0.7 miliwn o filltiroedd busnes (1.12 miliwn o gilometrau) bob blwyddyn.
Sut rydym ni’n gwneud hyn
Rydym yn defnyddio mesuryddion sy’n cofnodi pob hanner awr i fonitro ein defnydd ynni ar draws y safleoedd. Rydym yn cofnodi’r rhain ar-lein ac mae ein tîm ynni yn dadansoddi’r wybodaeth yn rheolaidd fel rhan o’n contract menter cyllid preifat. Mae perfformiad ynni’r ystâd gyfan yn cael ei adolygu’n fisol a chynhyrchir adroddiad amdano.
Gorffennodd ein harchwiliad o’r ystâd gyfan yn 2010 a sicrhawyd bod unrhyw adeiladau newydd neu adnewyddiadau yn cydymffurfio â safonau ‘da’ neu ‘ardderchog’ Dull Asesu Amgylcheddol y BRE ar gyfer adeiladau cynaliadwy.
Ers 2001 rydym wedi cadw ein hachrediad ISO 14001. Er mwyn cynnal ein cydymffurfiad, rydym yn adolygu ein gweithrediadau i ddod o hyd i ffyrdd o weithio sy’n fwy effeithlon o ran ynni.
Mae mentrau rheoli ynni diweddar, parhaus neu arfaethedig yn cynnwys:
- canoli gweithrediadau
- sicrhau rheolaeth effeithlon o’n canolfannau data
- adolygu ein strategaeth ‘gwyrddu TG’
- defnyddio datrysiadau rheoli ynni adeiladau â rheolydd optimeiddio
- defnyddio darllenydd mesuryddion awtomatig a gosod larymau i nodi defnydd ynni diangen
- uwchraddio ein goleuadau i ddeuodau allyrru golau (LED)
Fel asiantaeth y llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i foddhau ag Ymrwymiad Gwyrddu Llywodraeth y DU. Fel rhan o’r ymrwymiad hwn rydym wedi:
- newid i ddefnyddio cerbydau sy’n allyrru llai o garbon pan na allwn osgoi teithio
- ymrwymo i ddefnyddio trenau i deithio yn hytrach na cheir lle bo’n bosib
- cyhoeddi ein polisi amgylcheddol a pherfformiad i’n staff a’n contractwyr
- sicrhau bod y nwyddau a’r gwasanaethau rydym yn eu prynu yn cefnogi ein nodau amgylcheddol ac ein bod yn dilyn safonau prynu’r llywodraeth ar gyfer caffael
- annog ein cyflenwyr a chontractwyr i wella eu perfformiadau amgylcheddol eu hun
- darparu hyfforddiant, cyngor a gwybodaeth i’n staff
Y tu hwnt i ddefnydd ynni
Ers dechrau Ymrwymiad Gwyrddu Llywodraeth y DU yn 2009, rydym wedi:
- lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr gan 28% ac arbed 5,000 tunnell o garbon
- lleihau allyriadau teithio gan 78%
- cynhyrchu 48% llai o wastraff a lleihau gwastraff tirlenwi i lai na 5%
- lleihau gwastraff papur gweinyddol gan 62%
- lleihau defnydd ein prif gyflenwad dŵr gan 8%