Cynllun cyhoeddi

Mae'r cynllun cyhoeddi yn nodi'r categorïau o wybodaeth rydym yn eu cyhoeddi ac yn esbonio sut i gael y wybodaeth honno.


Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus fabwysiadu a chynnal cynllun cyhoeddi, a’i ddiben yw:

  • nodi’r dosbarthiadau o wybodaeth rydym wedi ymrwymo i’w cyhoeddi

  • dweud sut y byddwn yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael

  • dweud a yw’r wybodaeth ar gael yn rhad ac am ddim neu ar ôl talu

Mae ein cynllun cyhoeddi yn dilyn cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer awdurdodau cyhoeddus.

Ynghylch y cynllun cyhoeddi hwn

Dyma’r cynllun cyhoeddi ar gyfer yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), asiantaeth weithredol o’r Adran dros Drafnidiaeth (DfT). Nid yw’n rhestr o gyhoeddiadau unigol ond yn hytrach yn ddisgrifiad o’r dosbarthiadau neu’r mathau o wybodaeth rydym wedi ymrwymo i’w cyhoeddi.

Nid yw’r cynllun yn rhestr gynhwysfawr o’r holl fathau o wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi. Ein polisi yw cyhoeddi cymaint o wybodaeth yn rhagweithiol ag y gallwn lle byddai’r wybodaeth honno o fudd cyhoeddus ehangach.

Nid yw’r cynllun yn cynnwys gwybodaeth rydym yn ei hystyried yn sensitif, fel:

  • rhai mathau o wybodaeth bersonol neu fasnachol 

  • gwybodaeth am faterion diogelwch

  • cyngor cyfreithiol

Mae’r rhan fwyaf o gyhoeddiadau DVLA, gan gynnwys cyhoeddiadau gyda phris, ar gael ar-lein. Os nad yw cyhoeddiadau ar gael ar-lein, gweler manylion ar sut i gael copïau printiedig.

Adborth a chwynion am y cynllun

Os hoffech roi adborth am gynllun cyhoeddi’r asiantaeth, defnyddiwch y teclyn adborth ar ddiwedd y dudalen. Os oes gennych gŵyn benodol, dilynwch ein gweithdrefn gwyno.

Dosbarthiadau o wybodaeth

Pwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein harferion. Mae hyn yn cynnwys:

Beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein gwariant o fewn yr adran. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

Beth yw ein blaenoriaethau a sut rydym yn gwneud

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn perfformio yn erbyn ein blaenoriaethau asiantaeth. Mae hyn yn cynnwys:

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y penderfyniadau rydym yn ei gwneud fel asiantaeth. Mae hyn yn cynnwys:

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y polisïau a gweithdrefnau rydym yn cadw atynt wrth gynnal ein gwaith. Mae hyn yn cynnwys:

Rhestrau a chofrestrau

Gweler ein hystadegau Rhyddid Gwybodaeth (FOI) am ragor o wybodaeth.

Y gwasanaethau rydym yn eu cynnig

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein:

Taliadau y gellir eu codi am wybodaeth a gyhoeddir o dan y cynllun hwn

Pan fydd yr asiantaeth yn cyhoeddi gwybodaeth ar-lein, mae ar gael ichi ei gweld yn rhad ac am ddim. Os nad oes gennych fynediad i’r Rhyngrwyd, gellir anfon copi printiedig sengl o unrhyw dudalennau gwe atoch yn rhad ac am ddim.

Gellir codi tâl am y canlynol os bydd unigolyn yn gofyn am sawl copi o gyhoeddiad:

  • llungopïo

  • postio a phecynnu

  • costau uniongyrchol o ganlyniad i wylio wybodaeth

Byddwch yn cael gwybod a fydd tâl a faint fydd cyn i’r wybodaeth gael ei hanfon neu ei chyflenwi atoch.

Ceisiadau ysgrifenedig

Gellir gofyn yn ysgrifenedig am wybodaeth a gedwir gan awdurdod cyhoeddus nad yw’n cael ei chyhoeddi o dan y cynllun hwn a bydd ei darpariaeth yn cael ei hystyried yn unol â darpariaethau’r Deddf Rhyddid Gwybodaeth a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004.

Rydym yn cyhoeddi rhestr o ymatebion Rhyddid Gwybodaeth a FOI a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol a gallwch wneud cais Rhyddid Gwybodaeth i’r adran ar unrhyw adeg.

Ymholiadau cyffredinol ynghylch cyhoeddiadau DVLA

Defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar gyfer unrhyw ymholiadau am ein cynllun cyhoeddi.