Gweithio i DVLA
Dewch o hyd i sut beth yw gweithio i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.
Rydym yn cyflogi tua 6,000 o staff llawn amser a staff rhan amser yn y DVLA. Rydym yn blaenoriaethu cadw ein staff yn iach ac yn hapus ac mae llawer o fuddion a gwobrwyon ar gael.
Mae amrywiaeth o rolau mewn llawer o wahanol feysydd busnes gennym, gan gynnwys:
- Gwasanaethau gweithredol a chwsmeriaid
- Digidol a Thechnoleg
- Adnoddau Dynol
- Cyllid
- Cyfathrebu
- Masnachol
- Polisi
- Grŵp meddygol y gyrwyr
Darllenwch fwy am yr hyn rydym yn ei wneud.
Tâl a buddion
Rydym yn darparu:
- cyflog cystadleuol ynghyd â chynllun bonws perfformiad arbennig
- opsiynau cynllun bensiwn gwych
- mynediad i borth gostyngiadau i staff
- opsiynau talebion gofal plant
- gwobrau gwasanaeth hir ar gyfer gweithio dros yr asiantaeth am 25, 35 a 45 o flynyddoedd
- cymorth wrth dalu am docynnau tymor trafnidiaeth gyhoeddus i’ch helpu i deithio rhwng gwaith a’ch cartref
- gofal plant ar y safle
- 25 niwrnod o wyliau blynyddol (ac eithrio gwyliau’r banc), yn cynyddu bob blwyddyn hyd at 30 diwrnod pro rata
- absenoldeb rhiant - mae hawl gan weithwyr i 26 wythnos o absenoldeb famolaeth, absenoldeb mabwysiadu neu absenoldeb rhiant wedi ei rannu gyda thâl llawn, ac yna 13 wythnos o dâl statudol ac 13 wythnos bellach o absenoldeb heb dâl; gall rhieni rhannu unrhyw absenoldeb mamolaeth neu absenoldeb mabwysiadu sy’n weddill fel absenoldeb rhiant wedi ei rannu hyd at uchafswm o 50 wythnos; a gall unigolion hawlio 2 wythnos o absenoldeb tadolaeth neu absenoldeb cefnogi partner ar gyflog llawn
- absenoldeb arbennig a delir
Hyblygrwydd
Rydym yn annog cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ac yn y rhan fwyaf o feysydd rydym yn cynnig oriau gweithio hyblyg i’n staff llawn amser a’n staff rhan amser (yn amodol ar anghenion busnes).
Cyfleoedd i ddatblygu a gwella
Rydym yn hyrwyddo diwylliant dysgu ac yn darparu cyfleoedd i’n holl staff ddysgu sgiliau newydd a datblygu.
Rydym yn cynnig:
- 5 niwrnod o ddysgu’r flwyddyn
- dysgu ar-lein drwy Dysgu’r Gwasanaeth Sifil
- cyrsiau hyfforddi ystafell ddosbarth
- rhwydweithiau mentora a hyfforddi
Iechyd a lles
Rydym yn cynnig:
- gampfa 24 awr ar y safle
- Rhaglen Gymorth i Staff yn darparu help a chyngor ar faterion personol neu sy’n ymwneud â gwaith
- gwasanaeth iechyd galwedigaethol
- profion golwg a sbectol am ddim (lle bo’n berthnasol i’r swydd)
- blaendal cyflog i helpu tuag at brynu beic at ddefnydd teithio rhwng y cartref a’r gwaith
Amrywiaeth
Rydym yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac rydym yn falch o’n gweithlu amrywiol.
Rydym yn cynnig llawer o grwpiau staff i gefnogi ein cydweithwyr o gymunedau BAME (pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig) a LGBT (pobl Lesbiaidd, Hoyw, Ddeurywiol a Thrawsrywiol) ynghyd â grwpiau sy’n cefnogi staff anabl, cyn-filwyr, grŵp Cristnogol, rhwydwaith gofalwyr a grŵp sy’n ymdrin â materion cenedl.
Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol
Mae ein gweithwyr yn bwrw pleidlais dros elusen pob blwyddyn ac mae cyfle iddynt gymryd rhan mewn gweithgareddau trwy gydol y flwyddyn i godi arian dros yr elusen ddewisedig.
Am fwy o wybodaeth ar fuddion:
Swyddi
Chwiliwch am swyddi yn DVLA yn: