Ymchwil yn DVLA

Yr ymchwil a wnaed gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).


Mae DVLA yn asiantaeth weithredol yr Adran Drafnidiaeth (DfT) ac yn gyfrifol am reoli casglu data. Mae DVLA yn rheoli mwy na 52 miliwn o gofnodion gyrwyr a dros 46 miliwn o gofnodion cerbydau.

Mae’r asiantaeth yn parhau i ddal y safon Rhagoriaeth mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid ar gyfer ei gwasanaeth i gwsmeriaid.

Trosolwg

Mae DVLA wedi cynnal ymchwil defnyddwyr ers 2008 gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau ymchwil, o arolygon traddodiadol i gyfweliadau manwl, grwpiau ffocws a defnyddioldeb wedi’i dargedu neu brofi prototeipiau. Mae technoleg, ymddygiad cwsmeriaid a’r ffordd yr ydym yn cynnig ein gwasanaethau wedi newid yn sylweddol yn y cyfnod hwn ac mae ein cwsmeriaid wedi dweud wrthym eu bod am gael prosesau modern sy’n caniatáu mwy o hyblygrwydd yn y modd y darperir gwasanaethau.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau rhagorol ar gyfer ein cwsmeriaid sy’n ystyrlon iddynt ac yn hawdd iddynt eu defnyddio. Er mwyn deall yn glir yr hyn y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl gan wasanaethau DVLA, rydym yn cynnal ymchwil helaeth. Mae enghreifftiau o rai ohonynt i’w gweld isod.

Prosiectau ac adroddiadau ymchwil

Mae gwybodaeth am brosiectau ymchwil a ariennir gan yr adran ar gael yn ymchwil DVLA.

Gwaith presennol

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio ar yr arolygon canlynol, gyda rhai ohonynt yn gysylltiedig â’n gwasanaethau ar-lein:

  • adborth adnewyddu eich trwydded yrru
  • trethu cerbyd
  • rhoi gwybod am newidiadau ar V5CW
  • adnewyddu trwydded yrru
  • rhoi gwybod i DVLA am gyflwr meddygol
  • cerdyn tacograff gyrrwr
  • moduro DVLA
  • Gweld Cofnod Cerbyd ar gyfer cerbydau fflyd
  • gweld neu rannu eich gwybodaeth trwydded yrru
  • eitemau post DVLA
  • ceisiadau trwydded yrru ar-lein
  • cofrestru ôl-gerbydau
  • adborth am gofrestru cerbyd (RaV)
  • gwasanaeth gwirio un cerbyd
  • gwasanaeth gwirio a thalu am nifer o gerbydau
  • gwasanaeth talu tâl am un cerbyd
  • gwasanaeth archebu ffurflenni DVLA
  • adnewyddu eich trwydded yrru
  • parth aer glân: Cysylltwch â ni
  • adborth am gyfrif Gyrwyr a cherbydau
  • gyrrwr a cherbydau
  • ymdrin â chwynion

Mae DVLA yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid, cwsmeriaid a phartïon eraill â diddordeb er mwyn sicrhau ein bod yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau sy’n gweddu i’w hanghenion. Bydd y dudalen hon yn dangos datblygiadau yr amryw brosiectau gan gynnwys unrhyw adborth a chamau a gymerwyd o ganlyniad yr adborth. Lle na cymerir camau, fe’i ddarperir eglurhad.

I gymryd rhan yn ymchwil bellach

Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’n panel ymchwil ar-lein. Sefydlwyd y panel i gael mewnwelediad cwsmeriaid i wasanaethau moduro’r Adran Drafnidiaeth (DfT) a diogelwch ar y ffyrdd, i helpu datblygu’r gwasanaethau hynny a gwybodaeth gysylltiedig.

Os ydych chi dros 16 oed ac mae gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o’r panel hwn, neu os hoffech ragor o wybodaeth, e-bostiwch: [email protected]

Ni all y tîm ymchwil yn DVLA helpu gydag ymholiadau cyffredinol wrth y cyhoedd trwy’r e-bost hwn. Cysylltwch â DVLA os oes gennych ymholiad am eich trwydded yrru neu gerbyd.

Profiad y defnyddiwr

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gwasanaethau i’n cwsmeriaid sy’n ystyrlon iddynt ac yn hawdd iddynt eu defnyddio. Rydym yn cynnal ymchwil helaeth er mwyn deall yn well yr hyn y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl gennym. Mae hyn yn cynnwys ymweld a siarad gyda rhanddeiliaid a phobl ledled y DU sy’n defnyddio ein gwasanaethau.

Bydd y mewnwelediad parhaus hwn gyda’n cwsmeriaid yn ein galluogi i ddeall rhesymau pobl dros ryngweithio â ni a’u hoffter ynghylch eu dewisiadau i wneud hynny.

Byddwn yn defnyddio’r adborth a gasglwyd i’n helpu dylunio a gwella ein gwasanaethau.