Ystadegau yn GLlTEF

Sut i gael hyd i ddata ystadegol a dadansoddiadau am y llysoedd a’r tribiwnlysoedd.


Mae gwybodaeth reolaethol fisol yn darparu mesurau amlach ac amserol o weithrediad y system llysoedd a thribiwnlysoedd.

Gwybodaeth reolaethol

Mae ein gwybodaeth reolaethol fisol yn edrych ar ddeall maint llwyth gwaith ac amseroldeb ar lefel genedlaethol.

Yn flaenorol, gwnaethom gyhoeddi gwybodaeth reolaethol wythnosol yn ystod pandemig COVID-19 i helpu i egluro sut y gwnaethom ddarparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mehefin 2021.

Fe wnaethom hefyd gyhoeddi data ar y defnydd o dechnolegau sain a fideo i hwyluso gwrandawiadau llys a thribiwnlys, ochr yn ochr â gwrandawiadau wyneb yn wyneb, rhwng Ebrill 2020 a Mai 2021.

User guide to HMCTS management information (PDF, 898 KB, 14 pages)

Yn ogystal â’r wybodaeth reoli arferol a gyhoeddir bob mis, o fis Rhagfyr 2023 rydym hefyd wedi dechrau cyhoeddi rhagor o wybodaeth reoli sy’n ymwneud yn benodol â gwasanaethau wedi’u moderneiddio drwy Raglen Diwygio GLlTEF. Bydd y wybodaeth ddiwygiedig ar gyfer rheoli gwasanaethau yn cael ei chyhoeddi ochr yn ochr â’r wybodaeth reoli arferol ddwywaith y flwyddyn.

Ymatebion i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Cyhoeddiadau rhyddid gwybodaeth o 2018 yn cynnwys gwybodaeth reolaethol GLlTEF.

Cyhoeddiadau rhyddid gwybodaeth o 2019 yn cynnwys gwybodaeth reolaethol GLlTEF.

Defnyddio’r Cod Ymarfer Ystadegau yn wirfoddol

Mae GLlTEF yn defnyddio’r Cod Ymarfer Ystadegau wrth gyhoeddi ei wybodaeth reolaethol.

HMCTS voluntary application of the code of practice for statistics (PDF, 116 KB, 2 pages)

Cyhoeddiadau sydd ar y gweill

Byddwn yn cyhoeddi gwybodaeth reolaethol fisol ar ail ddydd Iau pob mis am 9:30am. Cynhwysir y dyddiadau isod:

  • 12 Medi 2024
  • 10 Hydref 2024
  • 14 Tachwedd 2024
  • 12 Rhagfyr 2024

Cysylltwch â ni

Am ymholiadau ynglŷn â’n hystadegau, anfonwch e-bost at Dadansoddi a Pherfformiad GLlTEF os gwelwch yn dda.

Cyhoeddiadau Ystadegol Cysylltiedig

Ystadegau’r llys troseddol

Ystadegau cyfiawnder sifil

Ystadegau llys teulu

Ystadegau tribiwnlys