Ymchwil yn HMPPS
Cynnal Ymchwil mewn Carchardai, Gwasanaeth Prawf neu Bencadlys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF
Trosolwg
Mae’n ofynnol i unrhyw un sy’n dymuno cynnal ymchwil (yn benodol defnyddio dulliau ymchwil) sy’n cynnwys staff a/neu droseddwyr mewn sefydliadau carchar, ar draws y Gwasanaeth Prawf neu ym Mhencadlys Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) wneud cais ffurfiol am gymeradwyaeth i Bwyllgor Ymchwil Cenedlaethol HMPPS.
Mae’r Pwyllgor Ymchwil Cenedlaethol (NRC) yn bodoli i sicrhau:
- Bod yr ymgeisydd ymchwil, y Weinyddiaeth Gyfiawnder a HMPPS yn cael y gwerth gorau o’r ymchwil a gynhaliwyd.
- Bod goblygiadau ac effaith gweithgarwch ymchwil ar ddarpariaeth weithredol o ran adnoddau yn cael eu hystyried.
- Bod cadernid a pherthnasedd yr ymchwil yn cael ei asesu’n ddigonol.
- Bod materion sy’n ymwneud â diogelu data, diogelwch a moeseg ymchwil yn cael sylw mewn modd cyson.
Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn nodi blaenoriaethau ymchwil tymor canolig yr adran, yn unol â’n hamcanion strategol ar gyfer y system gyfiawnder. Mae’n tynnu sylw at ble mae angen ymchwil newydd a ble y gallai gael yr effaith fwyaf ar gyfer polisi ac ymarfer. Dylai ymchwilwyr ystyried y meysydd o ddiddordeb ymchwil yn eu cais, a lle bo’n bosib, egluro sut bydd eu hymchwil yn helpu i fodloni’r anghenion hyn o ran tystiolaeth strategol. Bydd ceisiadau’n cael eu hasesu yn erbyn hyn fel un o’r meini prawf adolygu.
Sut mae cyflwyno cais
Gwneud cais
Rhaid gwneud bob cais NRC gan ddefnyddio’r ffurflen gais ar-lein – Ffurflen Gais Ar-lein NRC HMPPS
Mae fersiwn Word o’r ffurflen ar-lein ar gael yma: Ffurflen Gais Ar-lein yr NRC (Dogfen MS Word, 54.6 KB). Dylid defnyddio’r ddogfen hon at ddibenion drafftio; dim ond ceisiadau sy’n cael eu cyflwyno gan ddefnyddio’r ffurflen ar-lein fydd yn cael eu prosesu a’u hadolygu.
Ar gyfer prosiectau sydd hefyd angen cymeradwyaeth gan gyrff iechyd a gofal cymdeithasol, dylid gwneud ceisiadau drwy’r System Ymgeisio Integredig ar gyfer Ymchwil (IRAS). Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw gwirio a oes angen cymeradwyaeth yr Awdurdod Ymchwil Iechyd (HRA) hefyd. Mae gan yr HRA adnodd i’ch helpu i benderfynu - Ai ymchwil yw fy astudiaeth? (hra-decisiontools.org.uk)
Dylid cyflwyno ceisiadau ar gyfer dadansoddi data eilaidd drwy’r broses NRC arferol.
Rhaid llwytho dogfennau ategol i fyny drwy’r ffurflen gais ar-lein.
Canllawiau ar geisiadau
Mae canllawiau ar y broses NRC, gan gynnwys gwybodaeth y dylid ei chynnwys yn y ffurflen gais ac awgrymiadau ar gyfer llenwi eich cais, ar gael yma: Canllawiau ar geisiadau i’r NRC (PDF, 605 KB, 31 tudalen).
Proses adolygu a chymeradwyo
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn 5pm ar ddiwrnod gwaith olaf y mis i’w hystyried yn ystod y mis canlynol o adolygiadau.
Mae’r NRC yn adolygu uchafswm o 14 cais aml-safle bob mis. Mae’r cap hwn yn cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin, gydag unrhyw geisiadau dros ben yn cael eu trosglwyddo i’r mis canlynol.
I gael rhagor o wybodaeth am y broses adolygu a chymeradwyo, cyfeiriwch at ddogfen ganllaw’r NRC ar geisiadau.
Ceisiadau myfyrwyr
Myfyrwyr Israddedig: Oherwydd nifer y ceisiadau posib, nid yw’r NRC yn gallu derbyn cynigion ymchwil gan fyfyrwyr israddedig. Mae hyn yn berthnasol hyd yn oed pan fydd cymorth busnes HMPPS neu’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael ei ddarparu.
Myfyrwyr Ôl-raddedig (Meistr): Nid ydym yn gallu derbyn ceisiadau Meistr heb dystiolaeth ysgrifenedig o gymorth busnes HMPPS/y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Dylid cael cymorth busnes gan Gyfarwyddwr y Grŵp Carchardai ar gyfer ceisiadau dalfa, y Cyfarwyddwr Prawf Rhanbarthol ar gyfer ceisiadau yn y gymuned, neu lefel Dirprwy Gyfarwyddwr ar gyfer ceisiadau Pencadlys. Rhaid llwytho llythyr/e-bost o gefnogaeth i fyny gyda’r cais NRC. Ni allwn brosesu ceisiadau heb y cadarnhad hwn.
Myfyrwyr Ôl-raddedig (Doethurol): Mae’r Pwyllgor yn derbyn ceisiadau gan fyfyrwyr ar lefel ddoethurol. Mae cymorth busnes yn fuddiol ond nid yw’n ofynnol.
Diwygiadau i ymchwil a gymeradwywyd yn flaenorol
Dylid ceisio cymeradwyaeth yr NRC ar gyfer diwygiadau i geisiadau sydd eisoes wedi’u cymeradwyo. Gall hyn gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, newidiadau i’r carchardai neu’r rhanbarthau prawf sydd wedi’u cynnwys yn eich ymchwil, y fethodoleg neu’r tîm ymchwil.
Canllawiau Diwygio’r NRC – Canllawiau Diwygio’r NRC (PDF, 251 KB, 3 tudalen)
Ffurflen Diwygiadau’r NRC – Ffurflen Diwygiadau’r NRC (Dogfen MS Word, 33.9 KB)
Dylid cyflwyno ffurflenni wedi’u llenwi i flwch post yr NRC: [email protected]
Penderfyniadau’r NRC
Byddwn yn rhoi gwybod i chi am benderfyniad yr NRC drwy ddiweddaru statws eich cais yn y porth ymgeisio ar-lein. Bydd llythyr penderfyniad hefyd yn cael ei e-bostio at y prif ymchwilydd. Efallai y byddwn yn gofyn i’r ymchwil gael ei gyflwyno i bwyllgor moeseg ymchwil lleol priodol hefyd (er enghraifft y Brifysgol, y GIG neu gorff ymchwil).
Ymgeiswyr llwyddiannus
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi baratoi crynodeb ymchwil (uchafswm o bum tudalen) ar ddiwedd eich prosiect sydd:
- yn crynhoi nodau a dull yr ymchwil
- yn tynnu sylw at y prif ganfyddiadau
- yn nodi’r goblygiadau i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn HMPPS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder
Mae darparu’r crynodeb ymchwil yn hanfodol i sicrhau bod HMPPS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cael gwybod am eich canfyddiadau ymchwil a bod gwerth eich ymchwil yn cael ei gynyddu cymaint â phosib.
Ymgeiswyr aflwyddiannus
Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn nodi’r rhesymau yn y llythyr penderfyniad. Cewch ailgyflwyno unwaith. Dylid rhoi sylw llawn i’r rhesymau dros y gwrthodiad blaenorol.
Dolenni Cysylltiedig
Ymholiadau cyffredinol sy’n ymwneud â’r NRC: [email protected]
Cael mynediad at ddata Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Cael mynediad at ddata Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF
Ymchwil sy’n cynnwys y farnwriaeth - Cyfranogiad barnwrol mewn prosiectau ymchwil - Barnwriaeth y Llysoedd a’r Tribiwnlysoedd
Ystadegau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Ystadegau yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Y Weinyddiaeth Gyfiawnder - GOV.UK (www.gov.uk)
Defnyddio’r Labordy Data Cyfiawnder - Defnyddio’r Labordy Data Cyfiawnder - GOV.UK (www.gov.uk)
Ymchwil drwy Data First - Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: Data First, ffurflen gais ar gyfer mynediad diogel at ddata - GOV.UK (www.gov.uk)
Meysydd o Ddiddordeb Ymchwil y Weinyddiaeth Gyfiawnder - Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: meysydd o ddiddordeb ymchwil 2020 - GOV.UK (www.gov.uk)
Cyhoeddiadau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder - Ymchwil ac ystadegau - GOV.UK (www.gov.uk)
Ymchwil gydag asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Chyrff Hyd Braich - Ymchwil o fewn asiantaethau’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a chyrff hyd braich - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae canllawiau ar ddiogelu data ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth - http://ico.org.uk