Ein llywodraethiant
Dyma’r prif gyrff gwneud penderfyniadau, gweithredol, rheoli a chynghori yng Nghyllid a Thollau EF (CThEF).
Sefydlwyd CThEF gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau (CRCA) 2005, sy’n rhoi pwerau a chyfrifoldebau cyfreithiol yr adran i Gomisiynwyr a benodir gan y Goron.
Bwriad statws CThEF fel adran anweinidogol yw sicrhau bod y system dreth yn cael ei gweinyddu’n deg ac yn ddiduedd.
Syr Jim Harra KCB yw’r Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr, sy’n gyfrifol am gyflwyno’r strategaeth adrannol a pherfformiad y sefydliad.
Angela MacDonald yw’r Ail Ysgrifennydd Parhaol a’r Dirprwy Brif Weithredwr, sy’n gyfrifol am wasanaeth cwsmeriaid a gweithgarwch cydymffurfio a gorfodi ar draws yr holl drethi.
Ynghyd â’r Pwyllgor Gweithredol, maen nhw’n gyfrifol am redeg CThEF.
Mae gennym Arweinydd Anweithredol, sef y Fonesig Jayne-Anne Gadhia, sy’n gweithio â’r Bwrdd i herio a chynghori’r Ysgrifenyddion Parhaol a’r Pwyllgor Gweithredol ar sut i lunio strategaeth CThEF a’i gweithredu. Mae hyn yn cynnwys adolygu a herio perfformiad yn erbyn cynllun busnes yr adran.
Mae rhagor o wybodaeth am ein strwythur i’w gweld yn ein siart sefydliadol, ac yn Natganiad Llywodraethiant ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol (tudalen 84).
Comisiynwyr CThEF
Mae ein Comisiynwyr yn gyfrifol am gasglu a rheoli refeniw, gorfodi gwaharddiadau a chyfyngiadau, a swyddogaethau eraill, megis talu credydau treth. Maen nhw’n arfer y swyddogaethau hyn yn enw’r Goron.
Mae gan y Comisiynwyr hawl hefyd i benodi swyddogion Cyllid a Thollau sy’n gorfod cydymffurfio â’u cyfarwyddiadau. Mae’r ffordd y mae’r Comisiynwyr yn cynnal eu busnes yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau. Tri Chomisiynydd sy’n gwneud penderfyniadau yn ymwneud â datrys ein hachosion mwyaf a’r mwyaf sensitif, a hynny o dan gadeiryddiaeth y Comisiynydd Sicrwydd Treth.
Ar hyn o bryd, mae gan CThEF saith Comisiynydd:
- Syr Jim Harra KCB
- Angela MacDonald
- Justin Holliday
- Penny Ciniewicz
- Myrtle Lloyd
- Jonathan Athow
- Carol Bristow
Bwrdd CThEF
Mae gan Fwrdd CThEF swyddogaeth gynghorol. Mae’n herio ac yn rhoi cyngor ynghylch perfformiad, strategaeth, gallu, risg a chyflawniad CThEF.
Nid yw’r Bwrdd yn rhoi cyngor ynghylch datblygu polisïau na materion trethdalwyr unigol.
Mae’r Bwrdd wedi’i gadeirio gan Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys.
Aelodau’r Bwrdd
Mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau o Bwyllgor Gweithredol a Chyfarwyddwyr Anweithredol CThEF.
Cadeirydd: James Murray MP, Ysgrifennydd Siecr y Trysorlys
Aelodau:
- Y Fonesig Jayne-Anne Gadhia, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol
- Syr Jim Harra KCB, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr CThEF
- Angela MacDonald, Dirprwy Brif Weithredwr a’r Ail Ysgrifennydd Parhaol
- Justin Holliday, Prif Swyddog Cyllid a Chomisiynydd Sicrwydd Treth
- Michael Hearty, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Patricia Gallan, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Paul Morton, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Jen Tippin, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Bill Dodwell, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Mike Bracken, Cyfarwyddwr Anweithredol
Adroddiadau
Mae’r adran yn adrodd ar y ffordd y mae’r Bwrdd yn gweithredu yn y Datganiad Llywodraethiant Corfforaethol yn yr adroddiad a chyfrifon blynyddol. Mae hyn yn cynnwys cofnod o bwy sy’n bresennol yng nghyfarfodydd y Bwrdd.
Cyfarfodydd Bwrdd CThEF
Mae’r Bwrdd yn cwrdd yn fisol. Gallwch ddarllen crynodeb o gyfarfodydd Bwrdd CThEF:
Aelodau anweithredol y bwrdd
Mae gan aelodau anweithredol ar y Bwrdd doreth o brofiadau o ystod o gefndiroedd, gan gynnwys dadansoddi data, adnoddau dynol, TG, cyfrifeg a’r proffesiwn treth. Mae eu sgiliau a’u cefndiroedd proffesiynol yn cynnig safbwynt allanol i’r cyngor y mae’r Bwrdd yn ei gynnig i helpu llunio strategaeth a herio perfformiad.
Cafodd aelodau anweithredol o’r bwrdd eu penodi yn dilyn ymarferion recriwtio a gynhaliwyd yn unol ag arweiniad Swyddfa’r Cabinet.
Is-bwyllgorau’r Bwrdd
Mae strwythur pwyllgorau’r bwrdd yn cynnwys:
- y Pwyllgor Archwilio a Risg
- y Pwyllgor Enwebu
Dirprwyir gwaith i bwyllgorau’r Bwrdd, lle gall grwpiau llai o aelodau anweithredol ac aelodau’r Pwyllgor Gweithredol archwilio’n fanylach i faterion a chyflwyno eu canfyddiadau i’r Bwrdd i’w trafod ac i’w penderfynu arnynt.
Y Pwyllgor Archwilio a Risg
Mae’r Pwyllgor Archwilio a Risg yn rhoi sicrwydd i’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar fanwl gywirdeb datganiadau ariannol a chryfder prosesau rheoli risg ar draws CThEF.
Mae gwaith y pwyllgor yn ymdrin â phob agwedd ar fusnes CThEF, gan gynnwys goruchwyliaeth o’r Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA), lle bo hynny’n briodol.
Mae’r pwyllgor yn cynghori’r Bwrdd a’r Prif Swyddog Cyfrifyddu ar y canlynol:
- prosesau a chamau sicrwydd mewn perthynas â rheoli risgiau yng nghyd-destun CThEF
- y broses strategol ar gyfer risg, rheoli a llywodraethiant y polisïau cyfrifyddu, y cyfrifon, adroddiad blynyddol y Comisiynydd Sicrwydd Treth ac adroddiad blynyddol y sefydliad, gan gynnwys Cyfrifon Adnoddau, Datganiad Ymddiriedolaeth a’r Cyfrifon Cronfa Yswiriant Gwladol
- argymell y camau i’w cymryd er mwyn ymateb i adolygiadau o’r prosesau a ddefnyddir mewn achosion treth wedi’u setlo
- y gweithgarwch sydd wedi’i drefnu a chanlyniadau archwiliadau mewnol ac allanol
- i ba raddau mae’r rheolwyr yn ymateb yn ddigonol i faterion a nodwyd gan weithgarwch archwilio
- pan fo angen, cynigion o ran tendro gwasanaethau archwilio gan gontractwyr sy’n darparu gwasanaethau archwilio i’r adran
- polisïau gwrth-dwyll, chwythu’r chwiban
- prosesau a threfniadau ar gyfer ymchwiliadau arbennig
Aelodaeth
Cadeirydd: Michael Hearty, Cyfarwyddwr Anweithredol
Aelodau:
- Paul Morton, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Elizabeth Fullerton-Rome, Cyfarwyddwr Anweithredol
- Thomas Taylor, Cyfarwyddwr Anweithredol
Gwahoddir y Prif Ysgrifennydd Parhaol a’r Prif Weithredwr i bob cyfarfod, a dylent fynychu o bryd i’w gilydd. Disgwylir i’r Prif Swyddog Cyllid fynychu pob cyfarfod llawn, ynghyd â’r Pennaeth Archwilio Mewnol, Pennaeth Risg, a chynrychiolydd o’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Mae aelodau gweithredol eraill yn mynychu yn ôl galw’r agenda.
Y Pwyllgor Enwebu
Mae’r Pwyllgor Enwebu’n craffu ac yn cynghori ar y canlynol:
- cynllunio ar gyfer olyniaeth ExCom, y bwrdd ac uwch reolwyr a thalent, perfformiad a gwobrau ar lefel uwch
- systemau ar gyfer nodi a datblygu arweinyddiaeth, talent a photensial uchel
- cymhellion a gwobrau i uwch swyddogion a chynghori ar y graddau y mae’r trefniadau hyn yn effeithiol o ran gwella perfformiad
Aelodaeth
Cadeirydd: Jayne Anne Gadhia, Prif Gyfarwyddwr Anweithredol
Aelodau:
- Patricia Gallan, Cyfarwyddwr Anweithredol a chadeirydd y Pwyllgor Pobl
- Syr Jim Harra KCB, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Phrif Weithredwr CThEF
Y Pwyllgor Gweithredol
Y Pwyllgor Gweithredol (Excom) yw prif fforwm gweithredol yr adran a’r prif le y mae Comisiynwyr yn gwneud eu penderfyniadau. Mae portffolios o gyfrifoldeb gan unigolion ar y pwyllgor sy’n cwmpasu pob maes busnes CThEF a swyddogaeth y gwasanaeth corfforaethol.
Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF ac yn gyfrifol am osod a chyflwyno strategaeth. Mae’r Pwyllgor hefyd yn goruchwylio perfformiad yr adran, yng nghyd-destun amcanion y presennol a’r dyfodol.
O fewn hwb perfformiad pwrpasol, gan arddangos dangosyddion perfformiad y cytunwyd arnynt gan y pwyllgor, mae’n dadansoddi perfformiad CThEF yn erbyn targedau, ac yn ystyried sut i wella perfformiad ym mhob maes. Mae hyn yn cynnwys gwella’r gwasanaeth i gwsmeriaid a gwerth am arian.
Cyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol (Excom)
Gallwch ddarllen crynodeb o gyfarfodydd Excom:
Is-bwyllgorau’r Pwyllgor Gweithredol
Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn cael cefnogaeth ychwanegol gan bedwar is-bwyllgor:
- y Pwyllgor Strategaeth
- y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio
- Pwyllgor Gweithredol Goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol
- y Pwyllgor Safonau Proffesiynol
Y Pwyllgor Strategaeth
Mae’r Pwyllgor Strategaeth yn goruchwylio strategaeth CThEF ar lefel uchel a sut y caiff y strategaeth honno ei gweithredu ar draws yr adran.
Y Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio
Mae’r Pwyllgor Newid, Buddsoddi a Dylunio yn sicrhau bod unrhyw newidiadau yn symud CThEF tuag at gyflawni ein hamcanion strategol a chymeradwyo’r pwyntiau dylunio, buddsoddi a chyflawni allweddol yng nghylch bywyd y rhaglen.
Pwyllgor Gweithredol Goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol
Mae Pwyllgor Gweithredol Goruchwylio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol yn darparu trosolwg cyfunol o gynnydd Troi Treth yn Ddigidol yn erbyn atebolrwydd unigol a chyfunol ExCom y cytunwyd arnynt. Mae’n darparu llwybr uwchgyfeirio y tu hwnt i Fwrdd y Rhaglen lle bo’n briodol.
Y Pwyllgor Safonau Proffesiynol
Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn goruchwylio’r ffordd y mae CThEF yn gweinyddu’r system dreth ac yn gweithredu polisïau yn unol â’i werthoedd. Mae’r pwyllgor yn ystyried sut y gallai gweithredoedd CThEF effeithio ar ffydd yn y system dreth a’r argraff mae’r cyhoedd yn ei chael o degwch. Mae’n cynnig her hollbwysig i’r ffordd y mae CThEF yn arfer ei bwerau, yn cefnogi arfer da yn y defnydd o’i bwerau a’i fesurau diogelu.
Ceir manylion pellach ynghylch cylch gorchwyl llawn y pwyllgor yn:
Gallwch ddarllen crynodebau’r cyfarfodydd diweddaraf yma:
Mae crynodebau cyfarfodydd o flynyddoedd blaenorol ar gael gan yr Archifau Cenedlaethol:
Gallwch ddarllen crynodeb o flwyddyn y pwyllgor:
Aelodaeth
Mae’r Pwyllgor Safonau Proffesiynol yn cynnwys y Pwyllgor Gweithredol a dau Gyfarwyddwr Anweithredol. Mae hwn yn cael ei gefnogi gan bedwar ymgynghorydd annibynnol.
Cyfarwyddwyr Anweithredol | Ymgynghorwyr Annibynnol |
---|---|
Patricia Gallan QPM | Katerina Hadjimatheou |
Paul Morton | Emma Borg |
Kirsty Britz | |
Glyn Fullelove |