Cynllun cyhoeddi

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus lunio Cynllun Cyhoeddi sy’n pennu’r dosbarthiadau o wybodaeth y mae’r awdurdod cyhoeddus yn eu cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi.


Gwybodaeth na allwn ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOIA)

Mae gwybodaeth sy’n cael ei rhyddhau o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn cael ei rhyddhau i’r byd. Ni chaniateir i awdurdodau cyhoeddus ystyried pwy yw’r person sy’n gwneud y cais, na’i gymhellion, wrth benderfynu pa wybodaeth a ddatgelir mewn ymateb i gais Rhyddid Gwybodaeth. Am y rheswm hwn, mae gan Ddeddf Comisiynwyr Cyllid a Thollau (CRCA) 2005 ddarpariaeth yn adran 23 sy’n eithrio rhag cael ei datgelu o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth unrhyw wybodaeth sy’n ymwneud â chwsmeriaid CThEF adnabyddadwy (gan gynnwys endidau cyfreithiol, megis cwmnïau cyfyngedig).

Mae’r Ddeddf Diogelu Data (DPA) yn rhoi hawl i unigolion weld gwybodaeth sydd gennym amdanynt.

Rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais i CThEF o dan y Ddeddf Diogelu Data.

Gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth i CThEF

Mae’r dulliau cyswllt isod ar gyfer ceisiadau, sylwadau ac ymholiadau sy’n gysylltiedig â Rhyddid Gwybodaeth yn unig. Gwnewch un o’r canlynol:

Tîm Rhyddid Gwybodaeth CThEF / HMRC Freedom of Information Team
S1715, 6th Floor, Central Mail Unit
Newcastle Upon Tyne
NE98 1ZZ

Darllenwch am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) a sut i wneud cais.

Cynllun cyhoeddi

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (FOI) yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod cyhoeddus lunio Cynllun Cyhoeddi sy’n pennu’r dosbarthiadau o wybodaeth y mae’r awdurdod cyhoeddus yn eu cyhoeddi neu’n bwriadu eu cyhoeddi.

Dosbarthiadau gwybodaeth

O dan gynllun cyhoeddi enghreifftiol Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth yr ICO, mae’n ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ddarparu manylion gwybodaeth y maent yn ei chyhoeddi o dan 7 prif gategori. Nodir isod fanylion rhywfaint o’r wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi o dan bob categori.

Pwy ydym a’r hyn a wnawn

Mae manylion ein strwythur sefydliadol, ein rolau a’n cyfrifoldebau allweddol i’w gweld yn ein hadroddiad blynyddol.

Mae manylion ein trefniadau gweinidogol a’n cyrff hyd braich i’w gweld yn ein hadroddiad llywodraethu corfforaethol.

Darllenwch ragor am y brif ddeddfwriaeth y mae’r adran wedi’i seilio arni.

Beth rydym yn ei wario a sut rydym yn ei wario

Ceir manylion am ddyraniad adnoddau’r adran a sut y caiff yr arian hwnnw ei wario, gan gynnwys manylion ein prif wariant cyfalaf, gwariant contract, tâl a lwfansau aelodau’r Bwrdd ac adroddiadau archwilio yng nghyfrifon yr adran.

Beth yw ein blaenoriaethau a’n cynnydd hyd yma

Mae manylion ein cytundebau gwasanaeth cyhoeddus, ein cynlluniau strategol a’n perfformiad yn erbyn y cynlluniau hynny i’w gweld yn ein hadroddiad blynyddol a’n hadroddiadau perfformiad yn y gwanwyn a’r hydref.

Sut rydym yn gwneud penderfyniadau

Rydym yn cyhoeddi manylion ein prif gynigion polisi, y meddylfryd y tu ôl i’r rhain a’r prosesau ymgynghori a sefydlwyd gennym. Rydym hefyd yn cyhoeddi cofnodion cyfarfodydd bwrdd, gweithredol ac uwch bwyllgorau eraill.

Ein polisïau a’n gweithdrefnau

Rydym yn cyhoeddi ystod eang o wybodaeth am ein polisïau a gweithdrefnau ar-lein.

Rhestrau a chofrestrau

Rydym yn cadw cofnod o’r wybodaeth rydym wedi’i rhyddhau mewn ymateb i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Cyhoeddir unrhyw wrthdaro buddiannau aelodau’r bwrdd yng nghyfrifon yr adran.

Sylwadau ac ymholiadau

Os oes gennych unrhyw sylwadau neu ymholiadau am ein cynllun cyhoeddi, anfonwch e-bost atom i [email protected] neu ysgrifennwch i:

Tîm Rhyddid Gwybodaeth CThEF / HMRC Freedom of Information Team
S1715, 6th Floor, Central Mail Unit
Newcastle Upon Tyne
NE98 1ZZ