Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol

Pam a sut mae Cyllid a Thollau EF yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl gennych a’r hyn y gallwch ei ddisgwyl gennym.


Twitter

Sianeli Twitter corfforaethol a swyddogol CThEF.

Cyfrif Twitter corfforaethol CThEF

@HMRCgov.uk

Pwy sydd y tu ôl iddo?

Tîm Cyfryngau Cymdeithasol CThEF

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Newyddion a diweddariadau, cyfeiriadau at help ac arweiniad, cyhoeddiadau swyddogol CThEF, gwybodaeth ynghylch ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd CThEF.

Cymorth CThEF i gwsmeriaid ar Twitter

@HMRCcustomers

Pwy sydd y tu ôl iddo?

Tîm Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol CThEF i Gwsmeriaid

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Help gydag ymholiadau cyffredinol sy’n ymwneud â chynhyrchion a gwasanaethau CThEF. Cyfeiriadau at gyngor, cymorth, arweiniad a ffurflenni.

Os nad oes modd ateb eich cwestiwn yn uniongyrchol, cewch eich cyfeirio at help pellach. Nid yw’n bosibl trafod achosion penodol na materion treth unigolyn felly peidiwch â rhannu unrhyw fanylion personol gan y bydd y rhain ar gael i’w gweld gan ddefnyddwyr cyfryngau cymdeithasol.

Mae’r tîm ar gael i roi cymorth rhwng:

  • 08:00 a 22:00, Dydd Llun i Ddydd Gwener
  • 08:00 a 16:00 ar Ddydd Sadwrn

Cyfrif Swyddfa Wasg CThEF ar Twitter

@HMRCpressoffice

Pwy sydd y tu ôl iddo?

Swyddfa Wasg CThEF

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Rhagolygon o weithgareddau’r dydd, datganiadau newyddion, ystadegau diweddaraf. Hefyd mae’n gyfrwng i newyddiadurwyr gysylltu â Swyddfa’r Wasg gydag ymholiadau syml neu i gael eglurhad.

Gyrfaoedd CThEF

@HMRCcareers

Pwy sydd y tu ôl iddo?

Tîm Marchnata Recriwtio CThEF, gyda chymorth Tîm Cyfryngau Cymdeithasol CThEF.

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Newyddion, diweddariadau a swyddi oddi wrth Dîm Marchnata Recriwtio CThEF - dysgwch am y cyfleoedd gyrfa sydd ar gael.

Facebook

Tudalen Facebook CThEF

Tudalen Facebook CThEF

Pwy sydd y tu ôl iddi?

Tîm Cyfryngau Cymdeithasol CThEF, gyda chymorth gan Dîm Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol CThEF i Gwsmeriaid.

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Newyddion am ymgyrchoedd, megis Hunanasesiad ac adnewyddu credydau treth, diweddariadau gan CThEF ac adrannau eraill y llywodraeth, awgrymiadau a nodynnau atgoffa i wneud tasgau treth yn haws. Cysylltiadau i arweiniad a gwasanaethau ar-lein CThEF, yn ogystal â gwybodaeth a newyddion ynghylch gwasanaethau a hysbysiadau CThEF.

Caiff y dudalen ei monitro gan Dîm Cymorth Cyfryngau Cymdeithasol CThEF i Gwsmeriaid rhwng:

  • 08:00 a 22:00, Dydd Llun i Ddydd Gwener
  • 08:00 a 16:00 ar Ddydd Sadwrn

Gallwn ateb cwestiynau ynghylch eich ymholiadau treth cyffredinol. Fodd bynnag, ni allwn drafod achosion penodol na materion treth unigolyn, felly peidiwch â rhannu unrhyw fanylion personol gyda ni gan y bydd y rhain ar gael i’w gweld gan ddefnyddwyr eraill.

Rhaglen Datblygu Gweithwyr Treth Proffesiynol ar Facebook

Rhaglen Graddedigion Gweithwyr Treth Proffesiynol CThEF

Pwy sydd y tu ôl iddi?

Hyfforddeion Gweithwyr Treth Proffesiynol CThEF, gyda chymorth gan Raglen Datblygu Gweithwyr Treth Proffesiynol CThEF.

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Gwybodaeth a newyddion am Raglen Graddedigion Gweithwyr Treth Proffesiynol CThEF, cwestiynau ac atebion ynghylch y cynllun a’r broses o wneud cais.

Instagram

CThEF ar Instagram

Sianel Instagram CThEF

Pwy sydd y tu ôl iddi?

Tîm Cyfryngau Cymdeithasol CThEF

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Newyddion a straeon rheolaidd ynghylch ein hymgyrchoedd, cyngor ac arweiniad newydd, a newyddion am ein gwaith a’n pobl.

LinkedIn

CThEF ar LinkedIn

Tudalen LinkedIn CThEF

Pwy sydd y tu ôl iddi?

Tîm Cyfryngau Cymdeithasol CThEF

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Diweddariadau rheolaidd gan CThEF ynghylch pynciau megis treth busnes, cyngor ynghylch rhedeg eich cwmni, newyddion ar bolisi treth a chyfleoedd recriwtio yn CThEF.

YouTube

CThEF ar YouTube

Sianel YouTube CThEF

Pwy sydd y tu ôl iddi?

Tîm Cyfryngau Cymdeithasol CThEF

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Arweiniad ar sut i wneud pethau, a fideos gwybodaeth eraill, sydd wedi’u cynllunio i helpu cwsmeriaid treth i gael eu treth yn iawn.

Ein blogiau

Blog bywyd yn CThEF

Bywyd yn CThEF

Pwy sydd y tu ôl iddo?

Tîm Recriwtio, Marchnata a Denu Ymgeiswyr CThEF yn adnoddau dynol, gyda chymorth y Tîm Ymgysylltu Digidol yng ngwasanaeth Cyfathrebu CThEF.

Beth allwch chi ei ddisgwyl?

Blogiau am ein gwaith, ein pobl, ein proffesiynau a’n cyfleoedd gyrfa gyda CThEF.

Cyngor ynghylch cysylltu gyda chyfryngau cymdeithasol a blogiau

Mae’n bwysig iawn nad ydych yn rhoi manylion ariannol personol ar gyfryngau cymdeithasol ar unrhyw adeg. Ni fyddwn yn trafod materion treth trethdalwyr unigol dros gyfryngau cymdeithasol a gallwn ond ateb ymholiadau cyffredinol.

Ni allwn dderbyn negeseuon drwy gyfryngau cymdeithasol fel hysbysiad mewn perthynas â’ch materion treth. Ewch i’r dudalen Cysylltu â ni am ffyrdd o gysylltu â CThEF.

Nid yw CThEF yn anfon hysbysiadau o ad-daliadau treth drwy gyfryngau cymdeithasol na thrwy e-bost, ac ni fydd yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth bersonol na gwybodaeth ar gyfer talu drwy’r sianeli hyn. Os cewch neges o’r fath, a’ch bod yn amau ei bod yn dwyllodrus, dylech ei hanfon ymlaen drwy e-bost i [email protected] neu [email protected]. Rhagor o gyngor ynghylch diogelwch ar-lein gan CThEF.

Gweler Polisi Preifatrwydd CThEF am ragor o wybodaeth ynghylch sut mae CThEF yn defnyddio gwybodaeth.

Caiff gwybodaeth a ddarperir gan CThEF drwy gyfryngau cymdeithasol ei darparu ‘fel y mae’, ac ar yr un sail â deunydd ar GOV.UK. Gweler ein hamodau a thelerau.

Polisi cymedroli a chyfranogiad

Wrth bostio sylwadau dylech ddilyn ein canllawiau cyfranogiad:

  • parchwch eraill sy’n defnyddio’r safle
  • peidiwch â defnyddio iaith sy’n sarhaus, bygythiol, ymfflamychol neu’n bryfoclyd (mae hyn yn cynnwys, ond nid yw wedi ei gyfyngu i’r canlynol: rhegi a sylwadau anweddus neu fwlgar)
  • peidiwch â thorri’r gyfraith (mae hyn yn cynnwys enllib, caniatáu gweithgareddau anghyfreithlon a dirmygu llys)
  • peidiwch â defnyddio sylwadau gwleidyddol eu pwrpas
  • peidiwch â phostio gwybodaeth bersonol mewn sylwadau, megis cyfeiriadau, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu fanylion cyswllt ar-lein eraill, a allai fod yn berthnasol i chi neu unigolion eraill
  • peidiwch â dynwared na honni’n dwyllodrus eich bod yn cynrychioli person neu sefydliad
  • peidiwch â gwneud unrhyw ardystiad masnachol na hybu unrhyw gynnyrch, gwasanaeth neu gyhoeddiad nad yw’n berthnasol i’r drafodaeth
  • peidiwch â phostio sylwadau sydd wedi’u bwriadu i achosi niwsans i’r gweinyddwr neu ddefnyddwyr eraill. Ynghyd a’r canllawiau hyn, gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn unrhyw reolau ar gyfer safleoedd neu gymunedau penodol
  • rydym yn cadw’r hawl i ddileu sylwadau a thawelu neu flocio defnyddwyr
  • nid yw dilyn nac ymgysylltu â CThEF yn awgrymu unrhyw fath o hyrwyddiad swyddogol
  • os ydych yn 16 oed neu o dan 16 oed, dylech ofyn caniatâd eich rhiant neu warcheidwad cyn cymryd rhan - ni all defnyddwyr heb y caniatâd hwn gymryd rhan

Ynghylch y ddogfen hon

Tîm Cyfryngau Cymdeithasol CThEF sydd wedi ysgrifennu’r polisi hwn ac sy’n ei gynnal. Rydym yn adolygu’r polisi hwn a gallwn ei ddiwygio heb rybudd.