Am ein gwasanaethau
Yr ystod o wasanaethau a gynigir gan Gofrestrfa Tir EF.
I ddarllen am y cyngor a roddwn, a sut rydym yn ymdrin â chwsmeriaid a’r ceisiadau a gawn, gweler ein safonau gwasanaeth.
Gwasanaethau Gwybodaeth
Gwasanaethau am ddim
Defnyddiwch ein Gwasanaethau Gwybodaeth ar-lein am ddim er mwyn:
- canfod a yw eiddo’n gofrestredig
- chwilio prisiau eiddo a werthwyd
- archwilio tueddiadau prisiau tai
- cael hysbysiadau i warchod eich eiddo rhag twyll.
Gall defnyddwyr proffesiynol ein porthol ddefnyddio’r canlynol hefyd:
- MapSearch i ganfod a yw eiddo’n gofrestredig, gweld ei leoliad a’i rif teitl, a darganfod ai rhydd-ddaliol neu brydlesol yw’r ddaliadaeth
- Application progress (Ymholiad am gais) i weld hynt eu ceisiadau
Gwasanaethau y mae’n rhaid talu amdanynt
Am £3, gallwch gael gwybodaeth am unrhyw lain o dir neu eiddo cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.
Darllenwch am y defnydd proffesiynol o’n Gwasanaethau Gwybodaeth, rhan o’n e-wasanaethau Busnes.
Ymholiadau gwarantedig
Mae ein hymholiadau gwarantedig yn rhoi canlyniadau y gellir eu defnyddio fel tystiolaeth mewn llys ac yn rhoi gwarant ddiderfyn Llywodraeth EF. Fel arfer, rhai o’r camau ffurfiol cyntaf wrth brynu neu werthu tir neu eiddo yw’r gwasanaethau hyn.
Chwilio’r map mynegai
Mae ein gwasanaeth Chwilio’r map mynegai yn rhoi canlyniad gwarantedig ynghylch a yw llain o dir neu eiddo yn gofrestredig ynghyd â’r rhif(au) teitl cysylltiedig.
Copïau swyddogol
Mae copi swyddogol yn gopi gwarantedig o’n Cofrestr Tir, ar gyfer unrhyw lain o dir neu eiddo cofrestredig, ac o weithredoedd a dogfennau sydd gennym yn ymwneud â hyn. Ein gwasanaethau copïau swyddogol yw:
Chwilio a dal
Gwneir Chwiliad a dal (Chwiliad swyddogol) fel gwiriad terfynol cyn cwblhau trafodiad eiddo. Mae hyn yn rhoi cyfnod o 30 diwrnod i chi lle na ellir cofrestru unrhyw drafodion eraill a hefyd yn cadarnhau a oes unrhyw drafodion blaenorol eraill sy’n aros i’w cofrestru ac yn rhoi eu manylion.
Darllenwch ragor am y defnydd proffesiynol o’n Hymholiadau Gwarantedig, rhan o’n e-wasanaethau Busnes.
Gwasanaethau newid y gofrestr
Diweddaru’r gofrestr
Rydym yn newid gwybodaeth yn y Gofrestr Tir pan fydd pobl yn:
- newid manylion perchnogaeth, er enghraifft, os yw’r perchennog yn newid ei enw
- trosglwyddo eiddo, er enghraifft, os yw perchennog yn gwerthu ei dŷ
- ychwanegu neu ddileu morgais (neu unrhyw arwystl arall), er enghraifft, os yw perchennog yn dechrau morgais newydd, neu’n talu’r hyn sy’n weddill ar ei forgais
- rhoi hawliau dros eiddo i rywun arall, er enghraifft, os yw perchennog yn rhoi hawl tramwy i rywun dros gae, neu’r dewis i brynu eu heiddo yn y dyfodol
- hawlio hawliau neu fudd mewn tir neu eiddo rhywun arall, er enghraifft, os yw arian yn ddyledus gan berchennog eiddo ac mae’r llys wedi cadarnhau’r ddyled honno
Creu’r gofrestr
Rydym yn creu cofnodion newydd yn y Gofrestr Tir pan fydd pobl yn:
- cofrestru eu tir a’u heiddo am y tro cyntaf
- gwerthu rhan o’u tir
- cofrestru prydles newydd
- adeiladu prosiect isadeiledd neu breswyl mawr
Darllenwch ragor am ddefnydd proffesiynol ein gwasanaethau newid y Gofrestr, rhan o’n e-wasanaethau Busnes.