Caffael yn Cofrestrfa Tir EF

Sut rydym yn defnyddio cyflenwyr allanol ar gyfer nwyddau a gwasanaethau.


Delio â Chofrestrfa Tir EF

Rydym yn hysbysebu ein contractau ar contracts finder lle y bo’n briodol.

Yn ogystal â llunio ein contractau ein hunain, rydym yn defnyddio contractau fframwaith a sefydlwyd gan adrannau eraill y llywodraeth sydd eisoes wedi bod trwy’r broses gystadlu a thendro. Rydym yn defnyddio cytundebau fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron yn rheolaidd hefyd. Gwasanaethau Masnachol y Goron yw partner caffael cenedlaethol holl wasanaethau cyhoeddus y DU.

Cerdyn caffael y Llywodraeth

Mae cerdyn caffael y Llywodraeth (GPC) yn galluogi deiliaid i dalu am archebion heb fynd trwy’r broses archebu a thalu dwys traddodiadol.

Y GPC yw’r dull prynu a thalu a ffefrir gan Gofrestrfa Tir EF ar gyfer trafodion gwerth isel. Lle na ellir ei ddefnyddio, prosesir archebion prynu trwy ein system gwybodaeth busnes.

Cyfleoedd i fusnesau bach a chanolig (BBaCh)

Mae diffiniad y llywodraeth ar gyfer BBaCh yn nodi llai na 250 o staff, ynghyd â throthwyon mantolen neu drosiant. Darllenwch i weld a yw eich busnes yn gymwys fel BBaCh.

Mae Cofrestrfa Tir EF yn cydnabod pwysigrwydd BBaCh i economi’r DU a’r ystwythder ac arloesedd gallant eu cynnig wrth gyflenwi nwyddau a gwasanaethau. Trwy’r rhaglen Cymorth i Dyfu mae’r llywodraeth yn cefnogi busnesau i hybu cynhyrchiant, gyda hyfforddiant rheoli a meddalwedd newydd wedi eu profi i arwain at ganlyniadau.

  • Mae Cymorth i Dyfu: Rheoli yn cynnig 90% o hyfforddiant arweinyddiaeth a rheolaeth a ariennir gan y llywodraeth mewn dros 50 o ysgolion busnes gorau’r byd yn y DU. Mae cyfranogwyr yn cael cymorth i ddatblygu cynllun gweithredu pwrpasol, yn cael cynnig mentora ac yn cael cyfle i rwydweithio ag arweinwyr busnes eraill.

Cysylltu

Cysylltwch â’n Pennaeth Masnachol gydag unrhyw ymholiadau ynghylch ein gweithdrefn gaffael.

Ebost: [email protected]

Head of Commercial
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ