Cynllun cyhoeddi
Pa wybodaeth rydym yn ei chyhoeddi a sut i gael gafael arni.
Am y cynllun cyhoeddi hwn
Rydym yn ymroddedig i gyflwyno gwasanaeth agored a thryloyw a’n bwriad yw cyhoeddi gwybodaeth sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd ei gweld. Fodd bynnag, byddai rhyddhau gwybodaeth benodol yn niweidiol i’n gallu i ganfod neu atal trosedd, felly er budd y cyhoedd ni chaiff ei datgelu. Mewn achosion o’r fath, bydd Cofrestrfa Tir EM, lle y bo’n briodol, yn rhoi ystyriaeth resymol i’r eithriadau a roddir gan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Rydym yn dilyn model Y Comisiynydd Gwybodaeth ar gyfer cynllun cyhoeddi ar gyfer awdurdodau cyhoeddus.
Pwy ydym ni a’r hyn rydym yn ei wneud
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- gwybodaeth am ein swyddogaethau a chyfrifoldebau
- gwybodaeth am ein deddfwriaeth: Deddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003, Deddfau a Rheolau Pridiannau tir, Deddf Credydau Amaethyddol 1928. Gweler Legislation.gov.uk ar gyfer fersiynau wedi eu ymddeddfu a’u diwygio o ddeddfwriaeth
Yr hyn rydym yn ei wario a sut
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- Ceir datganiadau ariannol, cyllidebau ac adroddiadau amrywio yn ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon
- manylion am ein Treuliau’r Prif Weithredwr a’r Cadeirydd gwariant dros £25,000 a gwariant dros £500 ar Gerdyn Caffael y Llywodraeth Cofrestrfa Tir EM (GPC) a
- mae’r rhaglen gyfalaf (fesul categori eang) yn ein hadroddiad blynyddol a chyfrifon
- adroddiadau archwiliad ariannol
- lwfansau a threuliau aelodau’r bwrdd ac uwch weision sifil (ar lefel SCS2 ac uwch)
- strwythurau cyflog a graddio
- manylion staff sydd â chyflogau dros £150,000
- trefnau caffael
- caffaeliadau dros £10,000
- datganiadau ariannol ar gyfer prosiectau a digwyddiadau
- rheoliadau ariannol mewnol. Mae rheolau ac ymarferion cyfrifyddu rydym yn gweithio’n unol â nhw ar gael gan Drysorlys EM. Mae rheolau mewnol ynghylch gwariant ar deithio a chynhaliaeth i’w gweld yn ein polisi teithio a chynhaliaeth
Ein blaenoriaethau a’n perfformiad
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- cynlluniau strategol – strategaeth fusnes 2017 i 2022 ac Adroddiad gwybodaeth am gydraddoldeb 2015
- adroddiad blynyddol a chyfrifon
- adolygiadau perfformiad y sefydliad mewnol ac allanol – adroddiadau’r Grŵp Sicrwydd Technegol (TAG), adroddiad archwiliad mewnol blynyddol ac adroddiad blynyddol yr Adolygydd Cwynion Annibynnol (ACA)
- adroddiadau perfformiad i’r Senedd
- asesiadau effaith, ee AEP Pris a Dalwyd
- ystadegau a gynhyrchir yn unol â gofynion adrannol: Perfformiad Cofrestrfa Tir EM yn erbyn ei thargedau perfformiad allweddol, canlyniadau perfformiad ar gyfer holl swyddfeydd Cofrestrfa Tir EM, ystadegau ariannol ac ystadegau hyfforddiant
- cytundeb gwasanaeth i’r cyhoedd ee Telerau ac amodau ar gyfer gwasanaethau electronig gan Gofrestrfa Tir EM
Sut rydym yn gwneud penderfyniadau
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig. Os ydym am newid y rheolau neu’r gorchymyn ffi, bydd yn rhaid inni gynnal ymarfer ymgynghori gyda chymeradwyaeth Weinidogol cyn y gellir diwygio trefnau a chyflwyno newidiadau
- gwybodaeth gefndirol ar gyfer cynigion a phenderfyniadau polisi pwysig. Mae’r bwrdd yn blaenoriaethu materion polisi sy’n gofyn am ystyriaeth gan fwrdd Cofrestrfa Tir EM, gan amlinellu’r materion allweddol a gwneud argymhellion lle bo’n briodol. Yn y pendraw, cyfrifoldeb bwrdd Cofrestrfa Tir EM yw holl faterion a strategaethau polisi pwysig
- ymgyngoriadau cyhoeddus
- cofnodion cyfarfodydd lefel uchel
- adroddiadau a phapurau a ddarperir i’w hystyried mewn cyfarfodydd lefel uchel
- canllawiau cyfathrebu mewnol
Ein polisïau a’n gweithdrefnau
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- ar gyfer cyflawni busnes adrannol
- ar gyfer cyflwyno ein gwasanaethau
- ar gyfer recriwtio a chyflogi staff
- gwasanaeth cwsmeriaid: safonau gwasanaeth, trefn gwyno a’r cynllun iaith Gymraeg
- polisïau rheoli cofnodion a data personol. Offerynnau cadw, polisi a rhestr cael gwared ar ddogfennau, polisi rheoli gwybodaeth, polisi rhannu data a pholisi diogelu data
- cyfundrefnau a pholisïau tâl. Daw prif incwm Cofrestrfa Tir EM o’r ffïoedd a godir am ddarparu gwasanaethau statudol o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Nodir ffïoedd ar gyfer gwasanaethau statudol yn y gorchmynion ffïoedd: Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir, Gorchymyn Ffïoedd Pridiannau Tir a Gorchymyn Ffi Credydau Amaethyddol
- Cynllun Masnachwyr Teg Gwybodaeth: Cofrestrfa Tir EM
Rhestrau a Chofrestri
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- Y Gofrestr Agored ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae gwybodaeth a gesglir gennym fel rhan o’r gwaith craidd o gynnal y Gofrestr Tir ar gyfer Cymru a Lloegr ar gael fel hawl o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a’i rheolau cysylltiedig
- Cofrestri Deddf 1862. Dirymwyd Deddf Cofrestru Tir 1862 gan adran 135 ac atodlen 13 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 ac mae wedi peidio â chael unrhyw effaith. Mae rhai teitlau Deddf 1862 yn bodoli o hyd. Bydd Cofrestrfa Tir EM yn parhau i feddu ar y cofnodion ond ni fydd yn cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r teitlau hyn
- cofrestri asedion a’r gofrestr gwybodaeth am asedion. Cronfa ddata asedion Tir ac Eiddo
- arddangosir gwybodaeth teledu cylch cyfyng ym mhob swyddfa
- log datgelu. Detholiad o ymatebion i geisiadau a wnaed o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth a’r Rheoliadau Gwybodaeth am yr Amgylchedd
- cofrestr rhoddion a lletygarwch a gwrthdaro buddion
- buddion y Prif Gofrestrydd Tir
Ein gwasanaethau
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- cyfrifoldebau rheoleiddio
- gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd: e-wasanaethau busnes, Find a Property a gwasanaethau masnachol
- taflenni, llyfrynnau a chylchlythyron ee cylchlythyr cwsmeriaid Landnet
- cyngor a chyfarwyddyd ee cyfarwyddiadau ymarfer
- datganiadau i’r wasg
Data agored a setiau data
Gwybodaeth rydym yn ei chyhoeddi:
- data cyhoeddus.
- Unrhyw set ddata (a diweddariadau) sydd gennym y gwnaed cais yn ei chylch
- mae INSPIRE yn fenter y Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi ei anelu at wneud data gofodol yn fwy hygyrch
- Catalog Data’r Comisiwn Geo-ofodol: Cofrestrfa Tir EM, sy’n rhestru’r setiau data geo-ofodol yr ydym yn eu dal a’u rheoli
Gallwch weld cysylltau i setiau data Cofrestrfa Tir EM a’r rhestr ddataset a Chatalog Data’r Comisiwn Geo-ofodol ar Use land and property data a data.gov.uk.
Os oes gennych bryderon ynghylch diogelu data, cysylltwch â:
Diogelu data
Data Protection Officer
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
E-bost [email protected]
Gwneud cais am wybodaeth
Gallwch gael gwybodaeth a chyhoeddiadau trwy:
- eu llwytho i lawr o’r wefan hon
- eu llwytho i lawr o wefan trydydd parti y cyfeirir atynt yn y cynllun (nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau trydydd partïon)
- eu prynu gan gyflenwr a restrir, ee Y Llyfrfa
Lle nad yw’r wybodaeth neu’r cyhoeddiad ar gael o’r adnoddau uchod, gellir eu cyflenwi gennym ni o fewn 20 diwrnod gwaith ar ôl cais ysgrifenedig i Swyddog y Cynllun Cyhoeddi:
Cynllun Cyhoeddi
Publication Scheme Officer
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
E-bost [email protected]
Os na allwch ddod o hyd i’r hyn rydych yn chwilio amdano drwy’r cynllun hwn, neu ar y wefan hon, gallwch wneud cais inni o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth (DRhG) neu’r Rheoliadau Gwybodaeth am yr Amgylchedd 2004 (RhGA) yn ysgrifenedig i’r Swyddog Rhyddid Gwybodaeth. Byddwch yn fanwl am y wybodaeth sydd ei hangen arnoch, gan y bydd hynny’n ein helpu i’w chanfod ichi.
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
Freedom of Information Officer
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
E-bost [email protected]
Tâl
Fel rheol dim ond ar gyfer copïau caled neu gopïo ar gyfrwng (ee CD) y byddwn yn codi tâl. Lle bo tâl yn berthnasol, byddwn yn codi tâl am gopïo, argraffu a phostio (sylwer, mae TAW yn berthnasol i’r taliadau hyn). Os yw’r costau hyn yn llai na £10, byddwn yn cyflenwi’r ddogfen neu’r wybodaeth am ddim. Nid yw hyn yn berthnasol i ddogfennau a gyflenwir o dan ein gwasanaethau statudol, sy’n ddarostyngedig i ffïoedd o dan ein gorchymyn ffi presennol.
Rydym yn codi tâl am:
- 10c fesul tudalen A4
- 20c fesul tudalen A3
- £1 i roi deunydd ar CD
- postio seiliedig ar gostau cyfredol y Post Brenhinol
Ffurf ac iaith
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar ffurf arall, gwnawn yr hyn a allwn yn rhesymol i helpu. Nid yw Cofrestrfa Tir EM yn cyhoeddi ei dogfennau mewn ieithoedd heblaw Saesneg a (dogfennau penodol) yn Gymraeg.
Hawlfraint
Caiff y wybodaeth sy’n cael ei chynnwys yn y cynllun cyhoeddi ei gwarchod gan Ddeddf Hawlfraint, Cynlluniau a Phatentau 1988. Mae gennych hawl i’w defnyddio at eich dibenion eich hun, gan gynnwys unrhyw ymchwil anfasnachol a wnewch ac at ddibenion adrodd newyddion. Bydd angen caniatâd y deiliad hawlfraint ar gyfer unrhyw ddull arall o ailddefnyddio’r wybodaeth, er enghraifft cyhoeddi. Bydd y rhan fwyaf o ddogfennau a gyflenwir gan Gofrestrfa Tir EM wedi eu cynhyrchu gan swyddogion y llywodraeth a byddant yn ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron ac wedi eu trwyddedu gan Gofrestrfa Tir EM o dan awdurdod dirprwyedig gan y Ceidwad Cofnodion Cyhoeddus. I gael gwybodaeth bellach am bolisi hawlfraint y Goron a threfniadau trwyddedu’n gyffredinol, gan gynnwys cyfyngiadau defnyddio, gweler gwefan yr Archifau Cenedlaethol.
Weithiau, mae gwybodaeth a gynhyrchir gan Gofrestrfa Tir EM yn cynnwys deunydd hawlfraint y Goron sy’n perthyn i gyrff eraill y Goron. Mae hyn yn cynnwys y cyfeiriadau a ddefnyddiwn ar ein cofrestri a’n cynlluniau teitl. Nid oes gennym awdurdod i drwyddedu’r deunydd hwnnw sy’n eiddo i gyrff eraill y Goron, megis yr Arolwg Ordnans a’r Post Brenhinol, sy’n destun cytundebau trwyddedu ar wahân.
Mae gwybodaeth a gewch nad yw’n ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron wedi ei gwarchod o hyd gan hawlfraint yr unigolyn, neu’r sefydliad o ble y daw’r wybodaeth. Rhaid ichi sicrhau y cewch ei ganiatâd cyn atgynhyrchu unrhyw wybodaeth trydydd parti (nad yw’n ddarostyngedig i Hawlfraint y Goron). I gael gwybodaeth am gael caniatâd gan drydydd parti, ewch i wefan y Swyddfa Eiddo Deallusol.
Cysylltu â Chofrestrfa Tir EM am ein deunydd hawlfraint: