Gweithio i Cofrestrfa Tir EF

Swyddi cyfredol a'r hyn y gall Cofrestrfa Tir EF ei gynnig i chi.


Swyddi cyfredol

Gweler y dudalen Saesneg.

Cofrestru i gael hysbysiadau am swyddi

Peidiwch â cholli cyfle am swyddi yn y dyfodol. Cofrestrwch i gael hysbysiadau ar gyfer Cofrestrfa Tir EF ar Civil Service jobs.

Gyrfaoedd gyda Chofrestrfa Tir EF

Ar hyn o bryd, rydym yn cyflogi mwy na 6,000 o bobl mewn 14 swyddfa mewn amryw o rolau gan gynnwys:

  • gweithwyr cais technegol
  • arbenigwyr digidol, data a thechnoleg
  • polisi a rheoli prosiectau
  • cyfreithiol
  • cyllid
  • caffael
  • cyfleusterau a rheoli asedau eiddo
  • adnoddau dynol
  • cyfathrebu

Watch our video to find out what it’s like to work for HM Land Registry

Rydym yn cydnabod manteision gweithlu amrywiol ac rydym yn trin ein holl weithwyr gydag urddas a pharch. Ein nod yw rhoi cyfleoedd cyfartal o ran cyflogaeth a chyfleoedd i ddatblygu i bawb. Rydym yn gyflogwr Hyder mewn Anabledd a cheir cynllun gwarantu cyfweliad (GIS) ar gyfer ymgeiswyr ag anableddau sy’n bodloni’r meini prawf dethol lleiaf.

Darllenwch am

Rhaglenni prentisiaeth

Cofrestru i gael hysbysiadau am brentisiaethau

Peidiwch â cholli cyfleoedd yn y dyfodol. Cofrestrwch i gael hysbysiadau ar gyfer Cofrestrfa Tir EF ar y gwasanaeth dod o hyd i brentisiaeth.

Prentisiaethau TG

Fel rheol, mae ein prentisiaethau TG wedi eu lleoli yn ein hadran Digidol, Data a Thechnoleg mewnol yn Plymouth lle byddwch yn helpu i ddylunio a datblygu systemau TG ein dyfodol. Bydd sefydliad hyfforddiant blaenllaw yn darparu eich cwrs astudio gan gynnwys un diwrnod yr wythnos yn y coleg. Byddwn yn darparu eich cyflog, ffïoedd dysgu ac offer.

Treulir y flwyddyn gyntaf yn gweithio tuag at Brentisiaeth Uwch Lefel 3 mewn TG. Ar ôl cwblhau’r rhaglen lefel 3 yn llwyddiannus, byddwch yn symud ymlaen i weithio tuag at Brentisiaeth Uwch Lefel 4 am 18 mis pellach. Byddwch hefyd yn gweithio tuag at Ddiploma City & Guilds Lefel 3 a Phrentisiaeth Uwch Lefel 4 City & Guilds mewn TG.

Bydd eich gwaith yn cynnwys:

  • profi a rhaglennu pâr mewn tîm ystwyth
  • gweithio mewn tîm isadeiledd megis Rhwydweithiau
  • rheoli eich llwyth gwaith eich hunan
  • cyfathrebu â chwsmeriaid mewnol
  • mynychu cyfarfodydd lle byddwch yn rhannu eich syniadau ar gyfer gwella gwasanaethau a chyfrannu at effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd y tîm

Work in Digital, Data and Technology at HM Land Registry

Yr hyn y gall Cofrestrfa Tir EF ei gynnig i chi

Tâl a buddion

Rydym yn cynnig:

Hyblygrwydd

Rydym yn cynnig:

  • 28.5 diwrnod o wyliau blynyddol ac 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus (pro rata)
  • oriau gwaith hyblyg mewn nifer o swyddi gan gynnwys y cyfle i gymryd hyd at 24 diwrnod o absenoldeb hyblyg y flwyddyn
  • amrywiaeth o bolisïau sy’n ystyriol o deuluoedd, megis gweithio rhan-amser, rhannu swydd, seibiannau gyrfa ac ystod o ddewisiadau absenoldeb ar gyfer rhieni, a welir isod. Mae’r rhain yn dibynnu ar anghenion y busnes ond ein nod yw i chi i gyfuno cyfrifoldebau gwaith a chartref
  • absenoldeb mamolaeth, absenoldeb rhiant a rennir ac absenoldeb mabwysiadu hyd at 26 wythnos â chyflog llawn, gyda 13 wythnos o gyflog statudol i ddilyn a 13 wythnos ychwanegol heb gyflog
  • absenoldeb tadolaeth hyd at 14 diwrnod â chyflog llawn
  • absenoldeb rhiant hyd at 18 wythnos ar gyfer pob plentyn o dan 18 oed, yn ddi-dâl
  • absenoldeb â thâl ar gyfer dyletswyddau gwasanaeth cyhoeddus, er enghraifft os ydych yn filwr wrth gefn
  • gwyliau â thâl ar gyfer gwirfoddoli

Datblygiad gyrfa

Rydym yn cynnig:

  • cyfleoedd i rwydweithio a gweithio ar draws y llywodraeth
  • camau ymlaen yn eich gyrfa, hyfforddiant a chyfleoedd datblygu
  • mynediad i gyfleoedd hyfforddi gan gynnwys Civil Service Learning, sy’n cynnig dros 70 o gyrsiau mewn ystafell ddosbarth ynghyd â phecynnau ar-lein

Iechyd a Lles

Rydym yn cynnig:

  • clwb cymdeithasol a chwaraeon ym mhob swyddfa
  • y cyfle i gystadlu mewn cystadlaethau cenedlaethol y Gwasanaeth Sifil ar gyfer amrywiaeth o chwaraeon
  • mynediad i raglen cymorth i gyflogai ar gyfer cwnsela a chymorth gydag amrywiaeth eang o faterion
  • benthyciad di-log ar gyfer tocynnau tymor a/neu i brynu beic ac offer diogelwch
  • nifer o fuddion eraill gan gynnwys mynediad i becynnau gofal iechyd gostyngol, rhaglen Microsoft Home Use a gostyngiadau’n ymwneud â siopa, hamdden â chyllid